Rhedwr yn ennill ras yn erbyn ceffyl yn Llanwrtyd
- Cyhoeddwyd

Daniel Connolly oedd y cyntaf i gwblhau'r cwrs 22 milltir o hyd ddydd Sadwrn
Mae rhedwr wedi llwyddo i ennill ras yn erbyn ceffyl yng nghanolbarth Cymru, a hynny am y pedwerydd tro yn unig.
Mae ras Man v Horse yn cael ei chynnal yn flynyddol yn Llanwrtyd, Powys, ers 1980, ac yn deillio o ddadl mewn tafarn ynglŷn ag ai dyn ynteu geffyl sydd gyflymaf dros dir mynyddig.
Daniel Connolly oedd y cyntaf i gwblhau'r cwrs 22 milltir o hyd - mewn dwy awr, 24 munud a 38 eiliad.
Y ceffyl cyntaf i orffen oedd DNS Ronaldo, gyda Kate Atkinson ar ei gefn, 10 munud yn ddiweddarach.

Mae'r ras yn deillio o ddadl mewn tafarn ynglŷn ag ai dyn ynteu geffyl sydd gyflymaf dros dir mynyddig
Dywedodd y trefnydd Bob Greenough: "Dyma'r tro cyntaf yn hanes y digwyddiad i redwr ennill dwy flynedd yn olynol, a dim ond y pedwerydd tro yn hanes 42 mlynedd y ras."
Y fenyw gyntaf i groesi'r llinell derfyn oedd Suzy Whatmough, a hynny mewn tair awr, wyth munud a 24 eiliad.