Y Peiriant Amser: Straeon buddugol Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cloriau'r straeon buddugolFfynhonnell y llun, Efa Blosse-Mason/Lucy Jenkins/Elin Manon
Disgrifiad o’r llun,

Cloriau'r straeon buddugol

Ym mis Mehefin fe gyhoeddwyd enwau'r tri awdur ifanc a enillodd gystadleuaeth sgrifennu stori rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru: dyma'r cyfle cyntaf i ddarllen eu straeon buddugol gyda chloriau wedi eu comisiynu yn arbennig gan dri artist.

Mae'r artistiaid Efa Blosse-Mason, Lucy Jenkins ac Elin Manon wedi creu cloriau arbennig ar gyfer straeon y tri enillydd ar y thema Y Peiriant Amser - sef Catrin o Ysgol Goronwy Owen yn y categori 5-7 oed; Rhys o Ysgol Cerrigydrudion yn y categori 7-9 oed; a Ruby o Ysgol Y Wern yn y categori 9-11 oed.

Cliciwch i ddarllen y dair stori fuddugol:

Disgrifiad o’r llun,

Awen Schiavone

Fe wnaeth cannoedd o blant ateb yr her i ysgrifennu stori gan roi modd i fyw i'r beirniad, yr awdures Awen Schiavone.

Meddai Awen: "Oedd o'n wych darllen yr holl straeon, ddaeth 'na ddegau ar ddegau o straeon o bob cwr o Gymru a pob math o straeon yn dod i mewn dan y thema Y Peiriant Amser.

"Rhai wedi mynd yn ôl i'r gorffennol, rhai wedi newid pethau mewn hanes ac eraill wedi mynd i'r dyfodol gyda phob math o beiriannau. Oedd o'n bleser pur eu darllen nhw i gyd.

"Oedd o'n wych gweld dychymyg yn dod yn fyw a'r holl syniadau oedd gan y plant. Oedd o'n anodd iawn dewis enillwyr achos oedd yna gymaint o straeon da wedi dod i'r brig."