Gwynedd: Apêl am ferch, 14, ar goll o ardal Deiniolen

  • Cyhoeddwyd
LlywelaFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth am ferch 14 oed sydd ar goll o Wynedd ers 12 Mehefin.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod pryder am y ferch, o'r enw Llywela, yn cynyddu.

Mae'r ferch ar goll o ardal Deiniolen, ac mae'r heddlu'n credu ei bod hi yng ngogledd Gwynedd.

Dylai unrhyw un gyda gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101.

Pynciau cysylltiedig