Nottingham: Cyhuddo dyn sydd wedi'i fagu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ian Coates, Barnaby Webber a Grace O'Malley-KumarFfynhonnell y llun, Amrywiol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ian Coates, Barnaby Webber a Grace O'Malley-Kumar eu lladd yn Nottingham

Mae'r BBC ar ddeall fod dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio tri o bobl yn Nottingham wedi ei fagu yn Hwlffordd yn Sir Benfro.

Cafodd Barnaby Webber a Grace O'Malley-Kumar, myfyrwyr 19 oed, a'r gofalwr ysgol Ian Coates, 65, eu trywanu yn oriau mân bore Mawrth.

Mae Valdo Calocane, 31, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae hefyd yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio ar ôl i dri o bobl gael eu hanafu, un yn ddifrifol, pan gawson nhw eu taro gan fan.

Bydd Mr Calocane, sydd heb gyfeiriad parhaol, yn ymddangos yn Llys Ynadon Nottingham ddydd Sadwrn.

Mae pobl yn Hwlffordd wedi dweud wrth y BBC eu bod yn cofio Mr Calocane pan oedd yn ifanc, ac yn adnabod y teulu.

Cafodd y ddau fyfyriwr, Mr Webber a Ms O'Malley-Kumar, eu trywanu'n angheuol ar Heol Ilkeston, ychydig wedi 04:00 fore Mawrth, tra bod Mr Coates wedi'i ganfod yn farw gydag anafiadau cyllell ar Ffordd Magdala.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Swydd Nottingham, Kate Meynell: "Mae'r cyhuddiadau hyn yn ddatblygiad arwyddocaol ac yn codi o ganlyniad i'n hymchwiliad trylwyr i'r digwyddiadau erchyll hyn a ddigwyddodd yn ein dinas.

"Erys ein meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau pawb sydd wedi'u heffeithio gan yr ymosodiadau hyn, a byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth a sicrwydd."

Pynciau cysylltiedig