Gemau rhagbrofol Euro 2024: Twrci 2-0 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cerdyn coch Joe MorrellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cerdyn coch Joe Morrell yn drobwynt allweddol

Am yr ail gêm yn olynol yn ymgyrch ragbrofol Euro 2024, bu'n rhaid i Gymru chwarae gyda 10 dyn yn unig wrth gael eu trechu o ddwy gôl i ddim oddi cartref yn erbyn Twrci.

Fe welodd Joe Morrell gerdyn coch am dacl beryglus cyn diwedd yr hanner cyntaf yn ninas Samsun.

Serch hynny fe lwyddodd Cymru i atal y tîm sydd ar frig Grŵp D rhag sgorio tan chwarter olaf y gêm.

Ond roedden nhw'n ffodus hefyd fod penderfyniadau VAR wedi mynd o'u plaid, gan ddyfarnu bod dwy gôl arall gan Dwrci ddim yn sefyll.

A hwythau nawr hanner ffordd drwy'r ymgyrch, mae Cymru ym mhedwerydd safle'r tabl gyda phedwar o bwyntiau - pum pwynt yn llai na Thwrci - ac mae dwy golled o'r bron wedi amharu'n fawr ar y gobeithion o sichrau lle yn y rowndiau terfynol.

Fe ddechreuodd Cymru'r gêm ym mhedwerydd safle'r grŵp wedi i Armenia drechu Latfia 2-1 yn gynharach.

Gyda naw munud ar y cloc roedd y bêl yng nghefn rhwyd Danny Ward wedi i Chris Mepham ei gwyro yno wrth geisio clirio croesiad Zeki Celik - ond roedd yna amheuaeth bod chwaraewr Twrci, o drwch blewyn, yn camsefyll cyn ei tharo.

Roedd yna funudau llawn tensiwn wrth aros am asesiad VAR, ac mewn cam anarferol, oherwydd problem gyda'r dechnoleg, fe gafodd y dyfarnwr, Fabio Maresca, ei alw i'r ystlys i wylio'r lluniau. Y dyfarnwr ei hun felly wnaeth penderfynu bod y gôl ddim yn cyfri, er mawr ryddhad i dîm a chefnogwyr o Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Twrci gafodd mwyafrif y meddiant wedi hynny, gan bwyso ar amddiffyn oedd yn edrych yn sigledig ar brydiau, ac roedd yna reswm i bryderu dros allu Brennan Johnson i aros ar y maes ag yntau yn amlwg mewn poen wedi sawl anaf.

Ond roedd gwaeth i ddod wrth i Morrell anelu ei droed at Ferdi Kadioglu, gan adael marciau yng nghlun y chwaraewr canol cae. Doedd dim dadl yn erbyn y cerdyn coch, a oedd yn ergyd i'r tîm oedd eisoes wedi gorfod addasu wedi i'r ymosodwr Kieffer Moore gael ei hel o'r maes yn y golled i Armenia nos Wener.

Y cysur mwyaf i Rob Page a'i garfan oedd bod y gêm yn dal yn ddi-sgôr wedi hanner cyntaf anodd.

Gydag ail hanner llawn mor heriol yn debygol, doedd dim cyfraniad pellach gan Johnson - Ben Cabango ddaeth i'r maes yn ei le wedi'r egwyl.

O fewn munudau, bu ond y dim i Harry Wilson roi Cymru ar y blaen - roedd angen arbediad campus gan y golwr Mert Gunok i atal cic rydd wych gan y Cymro.

Cael arbediad o unrhyw fath oedd y nod i Danny Ward, wedi i groesiad daro braich Aaron Ramsey yn y cwrt cosbi - ac fe wnaeth yn wych i atal cic nerthol gan y capten, Hakan Calhanoglu o'r smotyn.

O fewn munudau, roedd yr eilydd, Umut Nayir wedi rhoi'r bêl yn rhwyd Cymru - ond doedd y gôl ddim yn sefyll wedi i asesiad VAR ddyfarnu bod yna lawio cyn yr ergydiad.

Er ail ddihangfa'r noson, roedd yna derfyn i lwc Cymru - doedd dim amheuaeth pan gododd Umut Nayir rhwng dau amddiffynnwr i benio croesiad campus i'r gôl (72).

Ac eilydd arall - Arda Guler - wnaeth selio'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref gydag ergydiad rhagorol o ymyl cwrt cosbi Cymru i ddyblu'r fantais (80).