Hen luniau o dref Aberteifi
- Cyhoeddwyd

Tref Aberteifi heddiw
Mae Aberteifi yn dref farchnad hanesyddol lle mae Afon Teifi yn cwrdd â'r môr. Dyma hefyd fan fwyaf deheuol Ceredigion a fu unwaith yn borthladd i'r byd.
Mae Glen Johnson, ymddiriedolwr Castell Aberteifi a hanesydd lleol, wedi bod yn casglu hen ffotograffau o'r dref ers 1984. Ar hyn o bryd mae'r lluniau'n cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn ystafell hanes ac ymchwil newydd Castell Aberteifi.
Meddai Glen: "Dechreuais gasglu lluniau yn 1984 cyn ei wneud fwy o ddifrif ers 2003. Y gobaith yw creu cronfa ddata o'r holl luniau er mwyn ei wneud yn hawdd i bobl ymchwilio i hanes eu teuluoedd, cartrefi a chymunedau yn nhref Aberteifi a'r plwyfi cyfagos.
"Rydym yn chwilio am unrhyw luniau negatives, ffotograffau neu luniau digidol o Aberteifi a'r dalgylch y byddai pobl yn hoffi eu rhannu, does dim rhaid iddyn nhw fod yn hen; mae digwyddiadau diweddar a chofnod o bobl heddiw yr un mor bwysig."
Dyma gip ar ambell un o'r lluniau sy'n gofnod pwysig o hanes y dref.


Y cyn brif weinidog David Lloyd George tu allan i bafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi, 1942

Llifogydd Mawr y Mwldan yn 1875. Roedd 75 o deuluoedd heb gartrefi am gyfnod. Boddwyd dwy hen wraig

Agor Ysgol Uwchradd Aberteifi yn 1898

Pont Aberteifi ar ddiwrnod coroni Elizabeth II yn 1953

Brenhines Carnifal Aberteifi yn 1935

Byddin Tiriogaethol Aberteifi yn gorymdeithio heibio'r Guildhall ac am orsaf rheilffordd Aberteifi wrth iddynt ymadael â'r dref i faes rhyfel ar 4 Awst 1914

Afon Teifi a'r dref o ardal Netpool yn 1915, gan gynnwys yr hen waith nwy a 'Malta Fach' ar yr afon

Gweithwyr Ffowndri Mwldan, Aberteifi yn 1915

Agor Gorsaf Rheilffordd Aberteifi yn 1886

Gosod carreg sylfaen y Guildall, Aberteifi yn 1858

Pendre, Aberteifi yn 1915. Roedd yr olygfa yma i'w gweld ar gerdyn post i hyrwyddo busnes T F Baldwin (safle siop a deli Nelson's heddiw)

13 Tachwedd 1914: Ffoaduriaid o wlad Belg, y rhai cyntaf i gyrraedd Aberteifi yn cael tynnu eu llun ar lawnt 'croquet' Castell Aberteifi. Darparodd Mrs Arabella Davies o Castle Green House de prynhawn arbennig iddynt gan roi copi yr un o'r llun yma i bob un fel atgof o Aberteifi pan fyddant yn dychwelyd i'w cartrefi yng ngwlad Belg

Byddin tiriogaethol Aberteifi yn gadael eu tref am faes rhyfel ar 4 Awst 1914

Ysgol Sul Capel Bethania yn ymweld â thraeth Poppit am y dydd,1915

Gorsaf rheilffordd Aberteifi yn 1962

Perchnogion y siop a'r farchnad bysgod, Mr a Mrs William James gyda'u tair merch, rhif 42 Pendre yn 1915

Siop emwaith Webb's yn 1915, rhif 5 stryd Pendre lle mae becws Greggs heddiw
Hefyd o ddiddordeb: