Mwnt: Mwy na darlun ar gerdyn post
- Cyhoeddwyd
Mae darlun rhamantus o'r eglwys wyngalchog ger y môr wedi ei saernïo yng nghof y sawl sydd wedi ymweld ag Eglwys y Grog ym Mwnt, Ceredigion.
I filoedd ledled y byd, gweld llun o'r safle pictiwrésg sydd wedi eu hudo i Gymru i weld y llecyn hynafol.
Ers i'r eglwys brofi fandaliaeth ym mis Rhagfyr 2021, a'r apêl codi arian i adfer yr eglwys, mae darlun o'r "eglwys ger y môr" fel galwodd T. Llew Jones hi yn ei gerdd, Eglwys Mwnt, mor fyw ag erioed.
Glen Johnson, hanesydd lleol ac un sydd wedi arfer tywys pobl o amgylch Eglwys y Grog a safle Mwnt fu'n rhannu ei wybodaeth am y lle gyda Cymru Fyw.
Sul Coch y Mwnt
Daw'r enw Mwnt am y plwyf sy'n sefyll rhwng Aberteifi ac Aberporth ar arfordir de Ceredigion o Foel-y-Mwnt, sef y bryncyn creigiog uwchlaw'r eglwys.
Erbyn heddiw, plwyf yng nghymuned Y Ferwig yw'r Mwnt ond yn wreiddiol roedd Mwnt yn rhan o blwyf Llangoedmor a ddaeth dan reolaeth y Normaniaid yn 1110 wrth i Gilbert fitz Richard De Clare sefydlu tre Aberteifi.
Yn dilyn Brwydr Crug Mawr yn Hydref 1136 gellir credu y bu'r ardal dan reolaeth Gymreig unwaith eto am gyfnod byr.
Bu brwydr waedlyd ym Mwnt yn 1155 wrth i'r Ffleminiaid lanio yma. Ond methodd y Ffleminiaid â goresgyn Ceredigion, ac mae pobl Mwnt yn dal i gofio am eu buddugoliaeth ac yn ei gofio ar Sul Coch y Mwnt.
Mae'n debyg i bobl yr ardal hyd at y 18fed ganrif o leiaf, nodi Sul Coch y Mwnt drwy chwarae gemau seciwlar ar ddydd Sul cyntaf Ionawr.
Cipiwyd Aberteifi gan Yr Arglwydd Rhys neu Rhys ap Gruffydd yn 1165 a daeth Mwnt dan reolaeth Gymreig tan 1200. O 1200 hyd at 1215 daeth y Normaniaid i reoli Mwnt eto, cyn dychwelyd dan reolaeth Gymreig. Mae'r patrwm yma'n ailadrodd ei hun sawl tro hyd nes 1240 pan ddaeth Mwnt dan reolaeth coron Lloegr. Fe darwyd yr ardal gan y pla du yn 1349.
Yn 1833 fe nododd Samuel Lewis bod gan blwyf Mwnt 140 o drigolion, ac mai amaethu oedd eu gwaith. Yn 1934 daeth Mwnt yn rhan o gymuned Y Ferwig yn hytrach na'n blwyf ar ei ben ei hun.
Eglwys y Grog
Er mor drawiadol yw Eglwys y Grog mewn ffotograffau, adeilad syml iawn yw hi. Dyma sut mae Samuel Lewis yn ei disgrifio yn 1883, yn y gyfrol A Topographical Dictionary of Wales:
"Mae'r eglwys, sydd wedi'i chysegru i'r Groes Sanctaidd, ac wedi'i lleoli ger y môr, yn adeilad hynafol sy'n cynnwys corff eglwys a changell, ond nid yw'n cael ei gwahaniaethu gan unrhyw fanylion pensaernïol ... " (Mae'r dyfyniad yma wedi ei gyfieithu o'r Saesneg.)
Ond yn symlrwydd yr eglwys hon mae ei hysblander. Dyma rai pethau sy'n ei nodweddu:
Mae'r fedyddfaen yn yr eglwys yn dyddio i'r 12fed ganrif ac wedi'i gerfio o gerrig glas Preseli. Yn sgil hynny, mae rhai'n awgrymu fod eglwys wedi ei sefydlu ar safle'r frwydr ym Mwnt yn fuan wedi i'r brwydro ddod i ben. Mae adeilad yr eglwys bresennol yn dyddio i'r 13eg ganrif, gyda'r fedyddfaen yn debygol o fod yn rhan o'i dodrefn gwreiddiol.
Ffaith ddifyr arall ydy bod cofnod cynharaf yr eglwys o 1331 yn nodi mai dyma gapel meibion Ithel ap Raphel. Yn ôl ffynonellau eraill, adeiladwyd yr eglwys yn 1380, ond mae'r dyddiad yma'n seiliedig ar weddillion croglen bren, a gyfnewidwyd yn y cyfnod yma o bosib.
Daw ei tho derw prin o'r bymthegfed ganrif. Ar Awst 16eg 1859 ymwelodd Cymdeithas Archeolegol Cambrian â'r safle gan gyfeirio at y to yn un "perpendicwlar cynnar, coeth".
Gweddillion croglen nadd o'r 15fed ganrif. Sylwch ar yr wynebau sydd wedi eu naddu yn y pren. Wynebau seintiau efallai?
Rhagor am Mwnt
Mae Mwnt a llwybr arfordir Ceredigion yn denu cerddwyr o bell ac agos bob blwyddyn, ac mae wedi denu hynny ers Oes y Seintiau.
Yn yr Oesoedd Canol, byddai cyrff seintiau yn aml yn oedi yma ar eu ffordd i'w claddu ar Ynys Enlli. Roedd hefyd yn gyrchfan boblogaidd i bererinion a oedd yn teithio i Dyddewi yn Sir Benfro, ar ôl i'r Pab Calixtus II ddatgan ym 1123 bod dwy daith yno yn hafal i un i Rufain, tra bod tair yn werth pererindod i Jerwsalem.
Mae nifer o odynau calch ar hyd arfordir Ceredigion ac mae un uwchlaw traeth Mwnt. Daethpwyd â chalchfaen i mewn ar long a fyddai'n glanio ar y traeth, ac yna byddai'n cael ei gludo i'r odyn i'w losgi yn barod i'w ddefnyddio. Taenwyd y calch tawdd ar y tir i niwtraleiddio'r pridd.
Nid dim ond pobl sy'n mwynhau tawelwch Mwnt. Mae Mwnt yn un o'r llefydd gorau yng Nghymru i wylio dolffiniaid yn y bae islaw.
Cardiau Post
Ymhell cyn dyddiau rhannu lluniau ar Instagram bu Mwnt yn ddelwedd boblogaidd ar gardiau post...
Er yr helbul diweddar i Eglwys y Grog a'r siomedigaeth fawr i gymuned Mwnt, gobeithio bydd cloch yr eglwys eto'n canu yn y llecyn hynafol hwn.
Hefyd o ddiddordeb: