Y dewin a ddaeth â thrydan i Lanuwchllyn
- Cyhoeddwyd
Daeth trydan i bentref Llanuwchllyn cyn trefi cyfagos Y Bala a Dolgellau diolch i fentergarwch Richard Edwards, brodor o'r pentref a hen, hen daid Gruffudd Antur.
Goleuodd Richard Edwards stryd Llanuwchllyn mor gynnar â 1910 ar ôl iddo gychwyn defnyddio ei felin ddŵr i gynhyrchu trydan yn hytrach na chreu blawd a malu rhisgl coed yn grwyn, gan wneud Llanuwchllyn y pentref cyntaf i fod â thrydan yng ngogledd Cymru.
Cymru Fyw sydd wedi darganfod archif o'i fab, Mr Antur Edwards yn sgwrsio am gyfraniad ei dad gyda'r gohebydd R. Alun Evans ar raglen Heddiw yn 1969.
Un oedd wrth ei fodd yn gweld deunydd fideo o'i hen daid am y tro cyntaf yw Gruffudd Antur o Lanuwchllyn.
"Ro'n i wedi dotio. Mae'n anhygoel ei fod o wedi dod i'r golwg o gwbl.
"Mae clywed llais rhywun am y tro cyntaf, mae 'na rywbeth ingol amdano fo, yn enwedig clywed llais rhywun dwyt ti erioed wedi ei glywed o'r blaen ac yn gwybod gymaint amdano fo."
Goleuo stryd Llanuwchllyn o 1910 - 1963
Ni gyrhaeddodd y grid cenedlaethol Lanuwchllyn tan 1963. Am dros hanner canrif, o 1910 -1963, system drydanu Richard Edwards oedd yn pweru Llanuwchllyn:
"Mi wnaeth fy hen, hen daid i sef tad Antur, dyn o'r enw Richard Edwards, ddod â thrydan i Lanuwchllyn yn 1910, jest golau stryd mewn gwirionedd trwy ddefnyddio'r nant oedd yn pweru y felin grwyn yma.
"Ddeng mlynedd yn ddiweddarach pan oedd mwy a mwy o bobl isio trydan mi nath o adeiladu pwerdy arbennig efo lot mwy o bŵer oedd yn gallu nid yn unig rhoi golau i'r stryd, ond oedd yn galluogi pobl i gael gwres yn y tŷ, haearn smwddio a phethau felly, a oedd hynny dal i fynd tan 1963."
Creu ynni gwyrdd ymhell o flaen ei amser
Gyda chyrhaeddiad y grid cenedlaethol i'r pentref daeth dull Richard Edwards o drydanu Llanuwchllyn i ben. Ond parhaodd y pwerdy i ddarparu trydan i gartref y teulu tan blentyndod Gruffudd, sawl cenhedlaeth yn ddiweddarach.
Arloesedd Richard Edwards yn ôl Gruffudd oedd creu system hydro ymhell o flaen ei amser:
"Mae ganddo fo ryw fath o brosbectws wnaeth o gyhoeddi ar gyfer Llanuwchllyn yn 1910 ac mae o'n sôn am ynni naturiol sef beth rydym ni yn ei alw heddiw yn ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy.
"Mae o'n derm da dydi; dŵr yn dod o'r afon ac yn troi tyrbin ac yn dod nôl i'r afon ac yn creu trydan oedd yn rhoi ychydig bach o gynhesrwydd a golau i bobl dlawd y pentref."
"Pan o'n i'n tyfu i fyny oedd Dad a fi yn gwneud be' yn union oedd Antur yn ei neud sef mynd i fyny y mynydd i oilio ac yn y blaen ac os oedd yr afon yn uchel oeddan ni'n gorfod mynd i grafu dail ymhob tywydd ac i glirio y sgrin.
"Roedd o ychydig bach o niwsans cerdded hanner milltir ymhob tywydd i grafu dail!"
Dyn dyfeisgar yn dysgu ei hun
Deuai Richard o deulu o felinwyr cyffredin ac addysgu ei hun wnaeth o i fod yn beiriannwr trydan arloesol, heb ysgol na choleg:
"Does yna ddim son yn y fideo ond gafodd fy hen, hen daid pan oedd o'n 4 i 5 oed, ddamwain ofnadwy ar y fferm.
"Mi ddoth 'na gart mawr dros ei goes a fuodd o'n gaeth i'w wely am rai blynyddoedd felly gafodd o ddim ysgol.
"Un o'r pethau oedd o yn ei wneud oedd darllen, gafodd o ychydig bach o addysg ond yn sicr dim coleg yndê."
"Yn sicr roedd o'n hynod o ddyfeisgar. Mae 'na ryw stori amdano fo yn ei wely, ac oedd ganddo fo bry' copyn wrth ymyl ei wely o ac oedd o isio gwbod faint o we oedd pry cop yn ei wneud mewn awr.
"Oedd o'n gadael i'r pry cop wneud ei we a throi y gwe o gwmpas darn o bensel, a mesur sawl troad oedd o wedi ei 'neud ar y bensel a mesur diametr a circumference y bensel - oedd 'na chwilfrydedd od ynddo fo fel'na erioed."
Gwefru ffermydd gogledd Cymru
Nid gwefru Llanuwchllyn yn unig wnaeth Richard Edwards ond hefyd ffermydd ledled gogledd Cymru mewn partnreriaeth gyda'i fab, Antur:
"Aeth Antur Edwards i fusnes efo'i dad am tua 30 mlynedd yn mynd o gwmpas gogledd Cymru yn gosod tyrbinau dŵr ar nifer o ffermydd, nid llond llaw ond ugeiniau ac ugeiniau ohonyn nhw.
"Roedd tua 150 o ffermydd, yn bennaf yng ngogledd Cymru, wedi cael trydan ganddyn nhw. Mae llawer o'r tyrbinau ar y ffermydd o hyd, hwyrach ddim yn troi ond wedi eu gadael yno."
Yr un diddordebau: Ffiseg a Chymraeg
Mae Gruffudd yn adnabyddus fel bardd ac ysgolhaig, yn gyn enillydd cadair yr Urdd, yn talwrna ac yn arbenigwr ar lawysgrifau Cymreig a Chymraeg.
Ond isradd mewn ffiseg sydd ganddo a hynny'n dilyn dylanwad Richard ac Antur Edwards.
"Fe wnes i raddio mewn ffiseg am wn i oherwydd traddodiad teuluol a diddordeb mewn pethe felly cyn sylwi bod gen i ddim diddordeb mewn pethe felly a newid i neud Cymraeg.
"Roedd Richard ei hun yn sgwennu bach o farddoniaeth a thraethodau ar gyfer eisteddfodau lleol felly mi rydan ni yn rhannu yr un diddordebau mewn ffordd.
"Dwi newydd brynu hen gartref Antur Edwards, Glynllifon, felly mae'r teimlad yna o berthyn yn uffernol o bwysig.
"Ac am yr holl jôcs bod Llanuwchllyn yn gyntefig; roedden ni'n gynnes braf cyn pawb arall!"
Hefyd o ddiddordeb: