Tourette's: 'Mae fy annibyniaeth wedi saethu lan'
- Cyhoeddwyd
"Mae fy annibyniaeth wedi saethu lan, mae'r ticiau wedi mynd reit i lawr, felly i gymharu â ble o'n i dwy flynedd yn ôl, dwi lot yn well."
Mae Megan Jones, sy'n byw gyda syndrom Tourette's, yn teimlo bod ei hannibyniaeth wedi dychwelyd, ei symptomau wedi lleddfu, a'i bod yn gallu byw'n gyflawn gyda'r cyflwr erbyn hyn.
Ond nôl ym mis Medi 2021, pan siaradodd Cymru Fyw gyda Megan am y tro cyntaf a hithau'n dangos symptomau o'r cyflwr ers llai na blwyddyn, agwedd wahanol oedd ganddi.
Meddai Megan bryd hynny, pan oedd hi'n profi symptomau fel ticiau dwys (symudiadau neu synau anwirfoddol) a thrawiadau (seizures) dyddiol: "Ma' fe'n really annoying, ma' gyd o ffrindiau fi'n dysgu sut i ddreifio, a fi'n desperate i ddreifio a sa i'n gallu.
"Sdim 'da fi annibyniaeth o gwbl. Mae fe'n 'neud fi'n drist ac yn grac, 'sa i 'di gofyn am hwn."
Lewis Capaldi yn newid agweddau
Yn ddiweddar daeth yr heriau o fyw gyda syndrom Tourette's i sylw'r byd wrth i'r canwr Lewis Capaldi brofi ticiau tra'n perfformio ar lwyfan gŵyl Glastonbury, cyn i'r dorf ei gefnogi a chanu pan oedd ei symptomau'n ei rwystro rhag perfformio.
I Megan, sydd bellach yn 19 oed a sydd wedi symud o Landysul i Windsor, roedd gwylio Lewis Capaldi ac ymateb twymgalon y dorf iddo yn dangos bod dealltwriaeth pobl o'r cyflwr wedi newid.
Meddai: "Ddwy flynedd yn ôl roedd massive craze o bobl ifanc yn dangos symptomau o Tourette's a daeth e jest yn joc i peers fi.
"Oedd pawb heb ddim byd neis i ddweud ac yn ffeindio fe'n ddoniol.
"Erbyn hyn mae mwy o gefnogaeth i bobl sydd gyda Tourette's yn y gymuned felly mae hynna wedi gwella.
"Ro'n i'n llefen pan weles i berfformiad Lewis Capaldi. 'Sa i'n 'nabod y person ond fi'n teimlo yn browd ohono fe."
Iechyd meddwl
Disgrifiodd Megan ei symptomau ticiau yn 2021 fel "Head jerks... fi'n chwibanu loads, fi'n puncho pethau, fi'n cwympo, fi 'di cael loads o bruises... fi'n clicio, fi'n siarad, fi'n dweud pethau, fi'n rhegi."
Roedd hi hefyd yn profi trawiadau bron yn ddyddiol, ac meddai am hynny:
"Maen nhw yn really wael, ac mae fe'n really danjerus."
Heddiw, mae Megan yn daer mai gwella ei hiechyd meddwl, cymryd seibiant a derbyn cefnogaeth sydd wedi arwain at reoli'r symptomau:
"Ar ôl stryglo i gael cymorth ges i nghyfeirio gan yr NHS at CAHMS (gwasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc) a ro'n i'n cael sesiynau gyda nhw tan i fi droi'n 19.
"'Nath e 'neud i fi weithio ar fy iechyd meddwl so dwi ddim mor isel rhagor a dwi'n credu oedd iechyd meddwl fi yn really effeithio fy tics.
"'Sa i wedi cael seizure ers dwy flynedd felly i fod yn onest mae e wedi mynd reit lawr i beth oedd e."
"Dwi dal yn tico pam 'y fi'n teimlo bach yn nerfus a bach yn drist ac ambell waith mae iechyd meddwl fi yn mynd i lawr ond hwnna yw bywyd. Mae hwnna yn digwydd i bawb."
Mae Megan yn credu bod Lewis Capaldi wedi gwneud penderfyniad doeth wrth gyhoeddi na fydd yn perfformio'n fyw am gyfnod, gan iddi hithau weld cymryd seibiant yn llesol:
"Mae Capaldi'n dangos i bobl be' ti'n gallu cyflawni os wyt ti yn gwthio drwyddo gyda Tourette's ond ambell waith, mae gwthio drwyddo yn 'neud e'n waeth.
"Mae'r byd mae e'n gweithio ynddo, mae e mor galed, ac i ffeito Tourette's a iechyd meddwl yr un pryd, mae'n straen.
"O'n i wedi treial ffeito Tourette's wrth fynd i'r ysgol a phopeth a doedd hwnna jest ddim yn helpu. Oedd rhaid i fi gymryd cam yn ôl a siarad gyda rhywun pob dydd i weithio drwyddo fe."
Pasio prawf gyrru, priodi a dod yn fam
O deimlo fel nad oedd hi'n gallu gadael y tŷ, i basio prawf gyrru, gadael cartref, gweithio a chychwyn ei theulu ei hun, mae Megan wedi cyflawni llawer yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Priododd Megan â Matthew fis Ionawr 2023, gan ddod yn rhieni i Noa ym mis Mai.
Dechreuodd y ddau eu perthynas bum mis ar ôl i Megan ddangos symptomau o'r cyflwr am y tro cyntaf:
"Mae e wedi bod yn gefnogol o'r cychwyn. Mae e mor dda. Helpodd e fi shwt gymaint, 'sa i'n credu bydden i fan hyn hebddo fe.
"Ry'n ni wedi symud i Windsor oherwydd gwaith Matthew. Mae fe'n gweithio i ffwrdd lot, mae 'da fi y tŷ i fi fy hunan a fi'n gallu mynd mas o'r tŷ a 'neud pethe."
Sut mae Megan yn ymdopi â dod yn fam newydd a byw gyda syndrom Tourette's?
"Mae bod yn fam i Noa yn rhoi rheswm i fi ddihuno, cael rwtîn a mynd i'r siop i nôl bwyd. Mae'n rhaid i fi fwyta i fwydo fe. Mae gorfod 'neud y pethau hyn wedi helpu loads."
'Mae pobl mas yna all gefnogi chi'
Dyna gyngor Megan i unrhyw un sy'n pryderu eu bod yn datblygu syndrom Tourette's.
"Mae eisiau i ti ffeindio'r gefnogaeth, os dydi rhywun ddim yn dy gefnogi di, symuda ymlaen, ffocysa arnat ti dy hun a byddi di'n ffeindio'r gefnogaeth ti angen yn y pendraw.
"Mae grwpiau ar Facebook, grwpiau mewn person ac mae help gan yr NHS. Mae fe'n cymryd amser ac ambell waith chi'n stryglo i gael yr help ond mae fe mas yna."
Hefyd o ddiddordeb: