Cyflwr ME: 'Galaru am fywyd ry'n wedi'i golli'
- Cyhoeddwyd
"Mae effaith andwyol ME ar gleifion ac ar deuluoedd yn ofnadwy," medd tad o Gaerfyrddin sydd ar hyn o bryd yn cerdded pum milltir bob bore ar doriad gwawr er mwyn codi ymwybyddiaeth a cheisio cael gwell triniaeth feddygol.
Mae mab Rob Messenger, Cerith, bellach yn 30 oed ac wedi bod yn byw â chyflwr difrifol ME ers yn 11 - bu'n rhaid iddo adael ei ysgol uwchradd yn fuan ym Mlwyddyn 7 ac mae wedi gorfod treulio cyfnodau estynedig o'i fywyd yn y gwely mewn ystafell dywyll.
Ar hyn o bryd, ar ôl i'w gyflwr waethygu, mae'n methu cerdded, darllen, gwylio'r teledu na goddef golau a sain.
Mae'r weithred leiaf, yn gorfforol neu'n feddyliol, yn gallu arwain at anhwylder ôl-ymarfer (post-exertional malaise) iddo - un o brif symptomau ME.
Rhyw ddwy flynedd wedi i Cerith gael diagnosis fe gafodd Eleri ei chwaer wybod ei bod hithau hefyd â'r salwch.
'Dad yn cario fi i'r gwely bob nos'
"Mae'r cyfan wedi bod yn ofnadwy o anodd i ni a gweddill y teulu," meddai Eleri wrth siarad â BBC Cymru Fyw.
"Ro'n i'n 15 ar y pryd - yn edrych 'mlaen at flwyddyn TGAU. Ro'n i wedi diodde' gyda nifer o infections o'dd yn cadw dod 'nôl ers rhai blynyddoedd ac yn y diwedd ar ôl un ohonyn nhw 'nes i ddim gwella, dim ond parhau i waethygu.
"Ro'n i, fel Cerith, yn active iawn. Ro'n i'n hapus iawn yn yr ysgol, yn disgwyl 'mlaen at fod yn rhan o'r sioe gerdd ddiweddara' a symud lan i'r Chweched, wedi bod ar deithiau tramor i'r Eidal ac Iwerddon a chwblhau gwobr efydd Dug Caeredin.
"Ond ddechrau 2006 es i wir yn sâl. I ddechrau ro'n i gallu cerdded rywfaint, gyda chymorth, o'r settee i'r tŷ bach. Ond yn raddol fe 'nes i golli'r gallu i sefyll lan.
"Ro'dd Dad yn gorfod cario fi i'r gwely bob nos. Ro'dd 'na adegau pan o'n i'n methu dal cwpan ac yn gorfod cael fy mwydo.
"Ro'n i mewn poen cyson, weithiau'n methu siarad ac yn cael problemau cognitive a synhwyrol.
"O'r pwynt yma 'mlaen ro'dd hi'n amhosib i fi barhau gyda'n addysg, o'dd yn golled enfawr i fi.
"Bu'n rhaid i fi gael gwely arbenigol, cadair olwyn a lifft ar gyfer y grisiau yn y tŷ.
"Ro'dd fy ffrindiau i'n hollol wych, ond allwn i ddim peidio galaru am y bywyd ro'n i'n ei golli. Ro'n i'n dyheu am gymdeithasu ac am fynd i'r brifysgol.
"Yn ystod y blynyddoedd yma, tra bod Dad yn y gwaith, na'th Mam ofalu am Cerith a fi gytre - a wastad yn trio cadw pethe mor normal â gallai hi mewn sefyllfa hollol abnormal.
"Cadw ni lan â phethe o'dd yn digwydd, dyddiau neu ddathliadau arbennig, a chadw cyswllt ar ein rhan ni â'r byd tu allan - a helpu ni gadw gobaith.
"Dros y blynyddoedd fe 'nes i ddechrau gwella'n raddol bach fel bo fi'n gallu 'neud mwy ond yn dal gorfod trio cadw o fewn be' fydde'n i'n galw yn fy energy envelope er mwyn osgoi'r anhwylder ôl-ymarfer neu PEM.
"Mae PEM yn golygu bod pob symptom yn gwaethygu - y boen, y trymder a'r gwendid, trafferth cysgu, sefyll, rhesymu a chyfathrebu.
"Dwi'n dal i orfod rheoli'r salwch bob dydd sy'n golygu lot o gynllunio o flaen llaw ar gyfer unrhyw weithgaredd - a gorffwys yn gyson."
'Cysgod o'r person ddylwn fod'
Mae Eleri bellach wedi sefydlu busnes gwerthu cardiau ei hun o adref, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi priodi.
"Mae mor bwysig codi ymwybyddiaeth am ddifrifoldeb y cyflwr," ychwanegodd.
"Mae ddim wastad yn amlwg o edrych ar rywun pa mor sâl ydyn nhw.
"Dwi mor ffodus o ŵr cefnogol sy'n gallu gweithio adre' a felly yn gallu helpu fi yn ystod y dydd gyda phethau fel paratoi bwyd a glanhau.
"Fyddai'n mynd i Tafwyl gyda stondin ddiwedd yr wythnos, sydd wedi golygu lot fawr o gynllunio.
"Mae 'ngŵr, teulu a ffrindie yn dod i helpu a dwi wedi gorfod cael gwesty yn ymyl fel mod i'n ddigon agos i fynd yn ôl ac ymlaen i'r stondin mewn cadair olwyn.
"Er gwaetha' popeth fe gafon ni ddiwrnod priodas gwych. Fe gafon ni gymaint o gymorth gan deulu a ffrindiau er mwyn gwneud e'n bosib - ond y tristwch mawr wrth gwrs oedd nad oedd Cerith yn gallu bod yno.
"O ran y dyfodol mae pobl gyda ME yn gorfod ailfeddwl yn llwyr eu dyheadau - mae'n anodd dychmygu sut allen i gael plant oni bai mod i'n gwella'n sylweddol, er enghraifft.
"Mae pobl yn aml yn dweud eich bod chi'n teimlo fel cysgod neu chwarter y person y dylech chi fod."
Roedd Rob Messenger yn bennaeth adran mewn ysgol yn Ninbych-y-pysgod ond bu'n rhaid iddo newid swydd, mynd yn rhan amser ac yna ymddeol yn gynnar i helpu i edrych ar ôl y plant.
Dim ond unwaith mae e a'i wraig wedi bod bant ar wyliau ers 2004.
Ers dechrau Mehefin mae e wedi bod yn cerdded i ben bryn Tŵr Paxton ar doriad gwawr bob diwrnod.
Ar y canfed diwrnod fe fydd wedi cerdded 500 milltir ac wedi dringo ddwywaith cymaint ag Everest, ond y nod yw codi arian i ddwy elusen sy'n ariannu ymchwil biofeddygol i ME, ac un arall sy'n cefnogi cleifion yng Nghymru.
Mae e hefyd yn annog dioddefwyr ME neu Covid hir yng Nghymru i gymryd rhan mewn astudiaeth geneteg - yr un fwyaf erioed drwy'r byd ar ME.
'Cymru yn anialwch llwyr'
"Mae'n bwysig i sylweddoli faint mae pobl yn gorfod brwydro wrth ddelio â'r clefyd sy'n newid bywydau yn llwyr," meddai.
"Mae Cerith, er enghraifft, wedi bod yn ddifrifol wael. Bu'n rhaid iddo gael ei fwydo drwy diwb a mae hefyd wedi gorfod treulio cyfnod mewn hosbis.
"Ro'dd e'n fachgen hynod o fywiog, wastad yn cicio pêl ac yn ifanc iawn yn darllen llyfrau fel Harry Potter ac ro'dd e'n hynod gerddorol.
"Ond wedi iddo gael ME ro'dd rhaid iddo fynd nôl i ddarllen llyfrau Mr Men, un dudalen ar y tro - dyna ddifrifoldeb y sefyllfa a pha mor sâl o'dd e.
"Tra bod 'na rai canolfannau arbenigol yn Lloegr, mae Cymru wastad wedi bod yn anialwch llwyr o ran gwasanaethau i gleifion ME.
"Does yna ddim un ymgynghorydd arbenigol y gall meddygon teulu droi atyn nhw am gyngor," ychwanegodd Mr Messenger.
"Sut all hynny fod yn iawn, o gofio faint o effaith mae'r clefyd yn ei gael ar gleifion?
"Mae'n rhaid i ni fel rhieni Cerith wneud y rhan helaeth o'r cydlynu rhwng y gweithwyr iechyd amrywiol sy'n ymateb i'w gwahanol anghenion, achos does 'na ddim arbenigwr all ymgymryd â'r rôl yma.
"Mae angen arbenigedd sy'n ateb gofynion canllawiau NICE 2021 ar ME - canllawiau sy'n nodi ei fod yn salwch cronig a chymhleth, sy'n effeithio ar nifer fawr o systemau'r corff."
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn deall yr effaith y gall ME ei gael ar fywyd dyddiol pobl a'u teuluoedd ac ry'n wedi ymestyn gwasanaethau Adferiad, dolen allanol i gynnwys pobl gyda ME a chyflyrau eraill sydd â symptomau tebyg.
"Ein nod yw sicrhau fod pobl sy'n byw gyda chyflyrau tymor hir yn cael mynediad teg i wasanaethau ac y bydd y gwasanaethau yn gwella iechyd meddyliol a chorfforol pobl sy'n byw gydag ME."
'Haul ar fryn i gleifion ME'
Mae Cerith ac Eleri ymhlith 13,000 o ddioddefwyr yng Nghymru ond mae'n anodd gwybod yr union nifer gan nad oes digon o ymchwil wedi bod yn y maes a bod y salwch heb ei gymryd ddigon o ddifri, medd Mr Messenger.
"Fy ngobaith i yw bydd fy nhaith i yn codi mwy o ymwybyddiaeth. Rwy'n dechrau yn oriau mân y bore gan mai dyna'r adeg sy'n gyfleus - mae'n amhosib yn ystod y dydd oherwydd fy nyletswyddau gofal.
"Ar y daith rwy'n rhannu sgyrsiau rwy' wedi eu cael gan bobl allweddol ac yna yn eu rhoi ar fy ngwefan.
"Dwi'n mwynhau'r daith ond yn ymwybodol bod yn rhaid i fi fod yn ffit ar gyfer y dyfodol - dwi'n 68 ac mae'n rhaid i fi gadw i fynd er mwyn y teulu.
"Wrth weld y wawr yn torri bob bore o gopa Tŵr Paxton fy ngobaith mwyaf yw daw eto haul ar fryn i glefion ME."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018