Menyw'n byw ei bywyd yn syllu ar y nenfwd
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n gweithio'n galed bob eiliad o'r dydd i gadw'n fyw ond mae'n mynd yn fwy a mwy anodd."
Mae Jenny Rowbory yn 35 ac wedi bod yn ei gwely ers dros ddegawd.
Mae cyflwr genetig yn golygu nad yw'r gewynnau yn ei gwddf yn gallu cynnal ei phen ac mae'n treulio'i dyddiau'n syllu ar yr un darn o'r nenfwd.
Ei hunig obaith yw llawdriniaeth yn yr Unol Daleithiau, ond mae ei theulu'n amcangyfrif y bydd yn costio £750,000 - a 'does ganddyn nhw mo'r arian.
Mae ei mam, Ann, yn ysgwyd ei phen gan ddweud: "Ddylai neb orfod byw fel hyn, gan wybod mai arian yw'r unig reswm."
Gofal nos a dydd
Mae Ann a'i gŵr Ian yn gofalu am eu merch ddydd a nos yn eu cartref mewn pentref gwledig yng Ngwynedd.
Mae un o'r ddau wrth law bob amser, a dydyn nhw byth yn gadael y tŷ efo'i gilydd, rhag ofn y bydd Jenny angen cymorth.
"Mae'n rhaid i un ohonom fod yma. Os ydi hi'n gollwng rhywbeth pwy sy'n mynd i bigo fo i fyny? Fedr hi ddim," meddai Ann.
Roedd Jenny'n ferch ysgol llawn bywyd, yn mwynhau chwaraeon ac roedd hi newydd ddechrau yn y brifysgol pan gafodd ei tharo'n wael yn 2004.
Heddiw, nid yw'n gallu gwneud unrhyw beth drosti ei hun: mae'n ddibynnol ar badelli gwely (bedpans); nid yw'n gallu ymolchi na mynd i'r gawod heb gymorth, na gwisgo amdani.
Ar y cychwyn cafodd ddeiagnosis o Myalgic Encephalomyelitis - ME - sydd weithiau'n cael ei alw'n Chronic Fatigue Syndrome.
Bu'n wael iawn, yn flinedig iawn, ac yn dioddef poenau yn ei brest a gwingiadau yn ei chyhyrau.
Roedd hi'n gaeth i'w gwely y rhan fwyaf o'r amser ond roedd gwaeth i ddod.
Cyflwr etifeddol prin
Yn 2015 dangosodd profion bod Jenny'n dioddef o gyflwr o'r enw Syndrom Ehlers-Danlos Fasgwlar.
Mae'r cyflwr genetig yn golygu bod ei chorff yn cynhyrchu colagen diffygiol - sef protein sy'n angenrheidiol ar gyfer adeiladu gewynnau a thendonau.
Mae'n gallu arwain at gymalau gor-ystwyth, cyflyrau croen, ac mewn achosion prin fel un Jenny, gwythiennau brau.
Yn 2020, roedd ansefydlogrwydd ei gwddf yn peryglu ei bywyd a bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth i asio esgyrn yn ei gwddf, ond nid oedd y driniaeth yn llwyddiant.
Beth yw Syndrom Ehlers-Danlos?
Syndrom Ehlers-Danlos (EDS) yw'r enw ar 13 o gyflyrau etifeddol prin sy'n effeithio ar weoedd cysylltiol;
Mae meinweoedd cysylltiol (connective tissues) yn gweithredu fel 'gliw' i gynnal y croen, gewynnau, gwythiennau, organau mewnol ac esgyrn;
Mae gan Jenny fath difrifol o EDS sy'n golygu bod ei chefn a'i gwddf yn ansefydlog;
Mae ffurf fasgwlar EDS hefyd yn golygu ei bod hi mewn perygl oherwydd gwythiennau gwannach.
Mae'r cyflwr yn rhwystro Jenny rhag symud ei phen rhag ofn y byddai hynny'n creu rhagor o ddifrod neu'n cyfyngu llif y gwaed.
"Mae gwahanol rannau o fy ngwddf yn teimlo fel pe baen nhw'n cael eu tynnu ar wahân i wahanol gyfeiriadau," ysgrifennodd Jenny mewn neges ddiweddar ar ei gwefan, sy'n cofnodi ei brwydr yn erbyn ei chyflyrau.
"Mae'n rhaid i mi dreulio 18 awr y dydd yn brwydro i ddal fy mhen a fy ngwddf mewn un lle penodol."
Ers y lawdriniaeth aflwyddiannus dywed Jenny a'i theulu nad oes opsiynau eraill am driniaeth yn y DU.
Yn lle hynny mae eu gobeithion yn nwylo llawfeddyg arbenigol yn yr UDA - un o lond llaw o lawfeddygon drwy'r byd sy'n deall cyflwr Jenny.
Yn ôl y teulu, y meddyg hwn yw'r unig un yn y byd sy'n arbenigo mewn gwyrdroi llawdriniaethau asio esgyrn y gwddf, ac mae wedi dweud wrthynt y byddai Jenny angen o leiaf tair llawdriniaeth i gynnig unrhyw obaith o welliant i'w hiechyd.
Ond mae pris i'w dalu.
Byddai angen tîm meddygol gyda hi ar yr awyren i'r UDA, ac yna byddai'n wynebu cost y llawdriniaeth a'r adferiad.
"Mae gwybod bod yna lawfeddyg allan yna sydd â'r profiad i allu ei helpu hi, ond nad oes gennym yr arian i'w chael hi yno yn hynod rhwystredig," medd ei mam.
Ond mae Jenny a'i theulu'n benderfynol o godi'r arian sydd ei angen arnynt.
Mae Jenny wedi bod â diddordeb mewn barddoniaeth erioed, a fis Medi y llynedd, lansiodd lyfr o'i cherddi dan y teitl We Are The Winter People, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at gost ei thriniaeth.
Yn ystod y cyfnod clo yn 2020 cafodd noson arbennig ei chynnal ar-lein, oedd yn cynnwys cefnogaeth gan yr actores Olivia Colman a'r digrifwr Lee Mack.
Ac ar gyfer ei menter godi arian ddiweddaraf, mae Jenny'n gofyn i bobl ei helpu hi i symud tegan meddal - jiráff o'r enw Jenny - o gwmpas y byd, gan dynnu lluniau ohono mewn gwahanol leoliadau tra'n ei ddilyn ar-lein.
"Byddai'n creu stori, y gallai pobl ei dilyn gobeithio, a byddai hynny wedyn yn annog pobl i feddwl am roi arian," meddai tad Jenny.
"Does gen i ddim syniad sut mae hi wedi delio efo'i salwch. Fel rhieni, rydym wedi bod yna i gynnig unrhyw gefnogaeth y gallwn ni," meddai.
"Ond iddi hi, mae hi'n byw drwyddo - mae hi'n byw drwy'r hunllef."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2020