ME: "Mae ei bywyd hi jest wedi stopio"
- Cyhoeddwyd
Mae Natalie Price, cariad Jonathan Vaughan, yn dioddef o ME (Myalgic Encephalomyelitis) ers pedair blynedd. Dyma gyflwr sydd yn achosi blinder eithafol, ac yn atal y person sy'n dioddef rhag gallu byw bywyd normal.
Siaradodd Jonathan mewn digwyddiad yn y Senedd Ddydd Mercher 24 Hydref lle cafodd ffilm am y cyflwr ei ddangos.
Yn ei eiriau gonest ei hun, dyma oedd ganddo i'w ddweud am sut beth yw hi i fyw â'r cyflwr, a'r effaith mae wedi ei gael arno ef a Natalie.
Nes i gwrdd â Natalie bron i bum mlynedd yn ôl, a 'nethon ni ddod at ein gilydd yn fuan wedyn. Ro'dd hi'n caru rhedeg, ro'dd hi'n arlunydd anhygoel. Ro'dd hi'n astudio - newydd orffen un gradd ac yn dechrau ar un arall, mewn dieteg.
Ym mis Medi 2016, ro'dd rhaid iddi roi'r gorau i weithio rhan amser - ro'dd hi wedi bod yn sâl am rhyw ddwy flynedd a hanner erbyn hynny - ac ym mis Mawrth 2017 ro'dd rhaid iddi adael y brifysgol, o'dd yn benderfyniad anodd iawn iddi.
Ym mis Mehefin 2018, ethon ni i apwyntiad doctor... a dyna'r tro dwetha' iddi fynd i lawr stâr. Mae hi wedi bod yn sownd yn y gwely ers 'ny.
Dwi 'di gorfod sefyll 'na a gweld person penderfynol, llawn bywyd yn toddi mewn i rywun sydd ddim hyd yn oed yn gallu bwyta powlen o gawl ei hun nawr achos ma'n cymryd gormod o egni. Mae ei bywyd hi jest wedi stopio.
Dwi'n gofalu amdani llawn amser, a hefyd yn gweithio llawn amser. Fi sy'n coginio, glanhau, golchi'r dillad, newid y dillad gwely, rhoi olew magnesiwm ar ei choesau, rhoi trefn ar y cyffuriau ac yn y blaen. A phan mae hi angen cawod, mae hi'n eistedd ar gadair yn y bath a dwi'n 'molchi hi.
Dydi hyn yn amlwg ddim yn hwyl.
Gofyn i gŵgl...
Cymrodd y diagnosis eitha' dipyn o amser - rhyw ddwy flynedd, sydd ychydig llai na'r cyfartaledd - ond doedd e ddim yn grêt. Gawson ni 'chydig o gyngor gan y GP bryd 'ny, ond o'dd e ond yn ddau air - "Google it".
Dywedodd y meddyg fod 'na ddim byd yng Nghymru, dim arbenigwr, neb all helpu. Felly ro'dd rhaid i ni fynd ar fforymau a dod o hyd i bethau ein hunain.
Wrth gwrs, wrth drio delio â'r ffaith fod ei chorff hi yn methu, daeth yr iselder. Dechreuodd y meddyg daflu tabledi gwrth-iselder ati. 'Nath y cyffur cynta' waethygu ei symptomau hi, a 'nath hi stopio gallu mynd mas o'r tŷ.
Mae'r cyffur newydd mae hi'n ei gymryd nawr yn effeithio ar rannau o'r ymennydd sy'n cynyddu sensitifrwydd i olau a sain. Felly o fod ar y cyffuriau 'ma, mae ei gallu i wylio'r teledu o gwbl wedi ei gymryd oddi wrthi. Diolch byth am lyfrau llafar. Dyna'r unig beth sy' ganddon ni, rili.
O ran gofal iechyd, dy'n ni ddim wedi cael lot o help. Gofynnon ni 'sa hi'n gallu cael chwistrelliadau magnesiwm, ond allwch chi ddim cael rhain ar y GIG, felly dwi'n cymysgu saline ac Epsom salts cryf. Mae Natalie yn ei gymryd 'da nebuliser bob dydd, am rhyw hanner awr i awr, gyda masg. Ac mae nebulisers yn swnllyd, felly dyw hyn wir ddim yn helpu â'i sensitifedd i sŵn.
Byw mewn stafell dywyll
Mae 'na lot o ymchwil wedi bod i B12 'da chleifion ME, ac mae bron pob claf ME dwi wedi siarad â nhw wedi sylwi ar wellhâd arwyddocaol ar ôl cymryd B12. I Natalie, 'arwyddocaol' ydi mynd i'r toilet ddwywaith y dydd yn lle unwaith, achos dyna'r unig amser mae hi'n gallu dod mas o'r gwely.
Ry'n ni wedi edrych mewn i hyn, ond ro'dd ei lefelau hi bach yn rhy uchel er mwyn ei gael gan y doctor. Felly 'ni'n ei shipio fe draw o'r Almaen, a fi sy'n rhoi'r injections iddi fy hun. Lwcus, ro'dd Mam yn nyrs, felly dysgodd fi sut i 'neud e.
Ry'n ni 'di gwneud hyn ers rhyw bump wythnos, a mae Natalie, o'r diwedd, yn gallu treulio rhyw ddwyawr ar ei ffôn bob dydd. Dyma, yn llythrennol, ei hunig ffenest ar y byd - oherwydd fod golau mor boenus iddi, ry'n ni wedi gorfod duo'r ffenestri. Mae hi'n treulio ei dyddiau mewn stafell dywyll.
Ac mae'r sensitifrwydd mor wael, dwi ddim yn gallu aros yn y stafell 'da hi'n hir iawn. Dwi'n cael gweld fy nyweddi am ryw hanner awr y dydd. Ro'dd hi fod yn wraig i mi ddwy flynedd yn ôl, ond yn amlwg 'nath hynny ddim digwydd…
Dwi'n prowd o fod yn Gymro ac o fyw yng Nghymru - ry'n ni'n edrych ar ôl ein gilydd yma. Felly mae hi mor rhyfedd mai'r cyngor ry'n ni'n ei dderbyn gyda diagnosis ME yw "Google it". Mae'n rhaid i help ddod o rywle.