Heddwas yn gwadu ymosod ar ddyn yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Llys LivaleFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mikael Boukhari yn honni i Gediminas Palubinskas ymosod arno mewn gardd yn Llys Livale

Mae swyddog Heddlu Gwent wedi gwadu achosi niwed corfforol i ddyn drwy ymosod arno.

Fe wnaeth Gediminas Palubinskas, 33 o Gwmbrân, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe brynhawn Gwener.

Mae Mikael Boukhari yn honni i'r heddwas ymosod arno mewn gardd yn Llys Livale, Casnewydd, ar 9 Gorffennaf 2021.

Cafodd Mr Palubinskas ei ryddhau ar fechnïaeth tan i'r achos yn ei erbyn ddechrau ar 15 Ionawr 2024.

Mae disgwyl i'r achos bara pedwar diwrnod.

Pynciau cysylltiedig