Y Cymry ym Mrwydr Gettysburg
- Cyhoeddwyd
Mae mis Gorffennaf yn nodi 160 o flynyddoedd ers Brwydr Gettysburg, sef un o'r digwyddiadau pwysicaf yn Rhyfel Cartref America (1861-1865).
Yn Gettysburg, Pennsylvania, bu brwydro dros dri diwrnod rhwng byddin yr Undeb (y taleithiau gogleddol) dan arweinyddiaeth George Gordon Meade, a byddin Taleithiau Cydffederal America (y taleithiau deheuol) dan reolaeth Robert E. Lee.
Ond beth oedd rôl y Cymry yn y frwydr? Bu'r haneswyr Huw Griffiths a Bob Morris yn trafod y pwnc ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru.
"Roedd llawer o Gymry'n rhan o'r ymladd, ac nifer o rheiny'n chwarelwyr oedd yn hanu o ogledd Cymru yn wreiddiol," meddai Huw Griffiths. "Yn eu mysg oedd dau ŵr yn eu 20au - John Williams a John Rowlands, roedd y ddau wedi ymsefydlu yn nhalaith Vermont, ac fe 'nath y ddau gadw dyddiaduron manwl yn ystod y brwydro."
Aeth Huw Griffiths ymlaen: "Yn ôl Jerry Hunter, awdur Llwch Cenhedloedd sy'n olrhain hanes y Cymry yn y Rhyfel Cartref, roedd hyd at 9,000 ohonynt yn ymladd ym myddin y gogledd. Roedd llawer o'r rhain wedi eu geni yng Nghymru, ac wedi allfudo gyda'u teuluoedd i ddianc rhag tlodi a gormes.
"Roedd eraill wedi eu geni yn America a gyda gwreiddiau yno ers cenedlaethau, gyda nifer sylweddol wedi dal ymlaen i'r Gymraeg. Yn 1850 roedd tua 30,000 o bobl a gafodd eu geni yng Nghymru bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau, ac roedd 90% o rhain yn byw mewn pedair talaith yn y gogledd; Efrog Newydd, Pennsylvania, Ohio a Wisconsin."
Ond beth oedd wrth wraidd y gwrthdaro? Yr hanesydd Bob Morris sy'n esbonio: "Yn 1860 mi roedd 'na 34 o daleithiau, ac roedd 19 ohonyn nhw wedi gwahardd caethwasiaeth, gyda 14 yn dal i ddefnyddio caethweision. Roedd hyn yn creu dipyn o ddrwgdeimlad rhwng y taleithiau.
"Yr hyn 'nath achosi'r Rhyfel Cartref oedd nid caethwasiaeth ei hun ond y ffaith bod taleithiau'r gogledd eisiau atal caethwasiaeth rhag ymestyn i'r tiroedd newydd roedd ganddyn nhw yn y gorllewin - tiroedd oedd ddim yn daleithiau eto. Tra roedd taleithiau'r de isio gweld caethwasiaeth yn ymestyn i'r tiroedd hynny.
"Felly, dyma 'na blaid newydd, y Blaid Weriniaethol, yn ennill etholiad 1860 o dan arweiniad Abraham Lincoln, yn benderfynol eu bod nhw ddim am adael i gaethwasiaeth ymestyn i'r gorllewin, a dyma 11 o'r taleithiau yn y de yn neilltuo ac yn gadael yr Undeb ac yn sefydlu gweriniaeth eu hunain, y Cydffederasiwn. Ac aeth y gogledd i ryfel wedyn o dan Abraham Lincoln nid gymaint i atal caethwasiaeth ond i rwystro'r wlad rhag cael ei rwygo'n ddau a chadw'r undeb."
Dechreuodd y rhyfel yn Charleston, De Carolina, ar 12 Ebrill 1861 pan wnaeth y Byddin Cydffederal ymosod ar Fort Sumter, un o amddiffynfeydd y gogledd.
Roedd nifer fawr o'r Cymry ym myddin y gogledd yn ddiddymwyr ac yn gweld y rhyfel fel rhan anorfod o'r ymgyrch i ddileu caethwasiaeth yn America.
Catrodau Cymreig
Roedd llawer iawn o gatrodau ym myddin y gogledd yn llawn Cymry, fel esboniai Bob Morris: "Roedd wyth catrawd o Gymry wedi dod o Dalaith Efrog Newydd - llefydd fel Oneida County, ac roedd 'na 10 catrawd o Ohio gan fod llawer iawn o Gymry'n byw yno.
"Roedd y Cymry mewn pedair catrawd o Minnesota, naw catrawd o Pennsylvania (o'r ardaloedd pwysig diwydiannol yno), ac 11 catrawd o Wisconsinin, ble roedd 'na lawer iawn o ffermwyr Cymreig, ac hefyd llawer iawn o chwarelwyr Cymreig a oedd yn gweithio mewn chwareli llechi a gwenithfaen."
Roedd rhaid i'r gogledd alw am fwy o filwyr oherwydd fod y de'n ennill tir, fel yr esboniai Huw Griffiths: "Erbyn haf 1862 roedd byddin y gogledd angen milwyr ar fyrder ar ôl dioddef colledion enbyd, ac felly penderfynwyd ffurfio catrodau newydd i wasanaethu am gyfnod o naw mis yn unig. Un o'r catrodau oedd y 14th Vermont, catrawd a oedd yn cynnwys nifer o chwarelwyr Cymreig, gan gynnwys John Williams a John Rowlands."
"Ond roedd stigma yn perthyn i'r milwyr hyn, gyda'r wasg yn eu beirniadu am beidio ag ymrestru'n gynt, yn gwatwar, a honni eu bod yn cael bywyd rhy hawdd yn y fyddin.
"Gyda chwta deufis ar ôl ar eu cytundeb, doedd milwyr catrawd y 14th Vermont dal heb danio bwled. Felly roedd dynion naw mis fel John Williams a John Rowlands yn awchu i gael profi eu hunain ar faes y gad, a phrofi'r beirniaid yn anghywir."
Y gorchymyn i ymosod
"Ond daeth tro ar fyd i'r ddau chwarelwr. Roedden nhw, a degau o filoedd eraill am fynd benben gyda'r gelyn, ond gorchmynnodd Robert E. Lee, arweinydd lluoedd y de i'w fyddin fynd a'r rhyfel at y gogleddwyr. Ar ddiwedd Mehefin 1863 roedd byddin y de wedi ymgasglu tu allan i dref fach wledig Gettysburg yn Pennsylvania."
"Yno hefyd oedd cavalry y gogledd, ac fe gychwynnodd sgarmes rhwng y ddwy ochr, ac fe ddechreuodd Brwydr Gettysburg. Y bore wedyn ar 2 Gorffennaf a chatrawd y 14 Vermont dan fryncyn dan y dref fe ddechreuon nhw ymladd yn ôl i amddiffyn eu safle yn erbyn milwyr y de."
Dyma sut y disgrifiodd John Williams ei fedydd tân ar faes y gad: 'Gorffennaf yr 2ail, dechrau saethu'n fore. Yr ydym yn cael ymladdfa, skirmishing gwyllt, yna dechreuodd y Rebels agor arnom, a'r shells fel cenllysg o'n cwmpas.'
Dywed Huw Griffiths fod un penderfyniad gan Lee yn dyngedfennol yn y frwydr: "Y diwrnod canlynol penderfynodd Robert E. Lee yn erbyn cyngor ei is-gadfridogion, i ruthro ymlaen yn erbyn ac ymosod am linellau ar y gogleddwyr ar gefnen cemetary ridge.
"Rhuthrodd 12,000 o filwyr y de o dan y Cadfridog Pickett ar draws y caeau yn don ar ol ton, taflwyd lluoedd y Cyd-ffederal ymlaen fel wyn i'r lladdfa wrth i ynnau'r gogledd lawio arnynt. Dyma oedd Pickett's Charge, un o ddigwyddiadau mwyaf tyngedfennol y Rhyfel Cartref gyfan, ac roedd John Williams a John Rowlands ymysg y milwyr i wynebu'r cyrch."
Colledion anferthol
Hyn oedd gan John Williams i'w ddweud am y 'charge' enwog: 'Daeth milwyr y de 'mlaen amdanom. Rhuthrasom arnynt, ac gwnaethom bwynt i sgidadlo, eu lladd a chymryd eu baneri rhyfel a channoedd yn garcharorion - roedd yn ymladdfa galed. Yn yr hwyr, cawsom ein rhyddhau a daethom i'r rear i gysgu.'
"Methiant llwyr bu Pickett's Charge," meddai Huw, "ac ar ôl tridiau o frwydro gwaedlyd daeth Brwydr Gettysburg i ben, a milwyr y 14th Vermont yn cael eu cymeradwyo yn arbennig am chwarae rôl mor allweddol yn gwrthsefyll y deheuwyr. Roedd ffigyrau y colledion ar ddiwedd yr ymladd yn sobreiddiol. Y de yn colli treian o'i milwyr, a chyfanswm o 50,000 o golledion yn y ddwy ochr yn y frwydr."
Cafodd y frwydr dipyn o effaith ar y Cymro John Rowlands ac fe nodir hyn yn ei ddyddiadur: 'Dyma'r diwrnod mwyaf ofnadwy a fu ar fy mhen erioed, ac nid wyf yn dymuno gweld yr un o'i fath eto.'
Erbyn diwedd mis Gorffennaf roedd John Williams a John Rowlands yn ôl yn eu cartrefi yn Vermont - roedd eu cytundeb naw mis gyda'r fyddin wedi dod i ben.
Lladdwyd dros 600,000 yn Rhyfel Cartref America, rhyw 2% o'r boblogaeth - cymaint â chyfanswm colledion yr Unol Daleithiau ym mhob rhyfel ers hynny, gan gynnwys y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, a Fietnam.
Fe wnaeth dref Gettysburg enw i'w hun yn yr ugeinfed ganrif fel man pwysig yn y diwydiant dodrefn. Heddiw, mae'r dref o tua 7,200 o bobl yn fan poblogaidd gyda thwristiaid, gydag actorion yn ail-fyw'r frwydr enwog bob 1-3 Gorffennaf.
Hefyd o ddiddordeb: