Carcharu dyn am ymosodiad rhyw 'arswydus' ym Mharc Biwt
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 38 oed o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am ymosodiad rhyw ar ddynes ym Mharc Biwt yn y brifddinas ym mis Awst 2022.
Roedd dynes 32 oed yn cerdded drwy'r parc tua 06:40 ar ddydd Sul, 31 Awst 2022 pan wnaeth Dale Edey afael ynddi ac ymosod yn rhywiol arni ger Pont y Gored Ddu ar Lwybr Taf.
Fe blediodd Edey o Bentwyn yn euog i ymosod yn rhywiol ac ymosod gan achosi niwed corfforol.
Yn Llys y Goron Casnewydd, cafodd ddedfryd o bedair blynedd ac 11 mis o garchar, gyda thair blynedd estynedig ar drwydded.
Cafodd Edey ei arestio dair wythnos wedi'r ymosodiad ar ôl cael ei adnabod drwy dystiolaeth DNA ar ddillad y ddynes.
Yn wreiddiol fe wnaeth o wadu'r troseddau, ond fe bleidiodd yn euog ar ddiwrnod cynta'r achos yn ei erbyn ym mis Mehefin.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Simon Hicks o Heddlu De Cymru: "Roedd hwn yn ymosodiad arswydus ar ddynes ar ei phen ei hun yng ngolau dydd.
"Hoffwn gydnabod dewder a chryfder y dioddefwr yn adrodd ar yr hyn ddigwyddodd, ac yn siarad mor ddewr am yr effaith ddifrifol y mae gweithredoedd Edey wedi eu cael arni.
"Rydym yn gobeithio y bydd y dedfrydu yn rhoi rhywfaint o deimlad o ddiweddglo iddi, ac y bydd yn ei galluogi i adfer ei hyder a symud ymlaen gyda'i bywyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022