Enwi Huw Edwards fel cyflwynydd yng nghanol honiadau

  • Cyhoeddwyd
Huw Edwards

Mae gwraig Huw Edwards wedi cadarnhau mai'r Cymro yw'r darlledwr sydd ynghanol honiadau o dalu am luniau anweddus.

Fe wnaeth Vicky Flind ryddhau datganiad ar ran ei gŵr, yn dweud ei fod yn "dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol" a'i fod yn derbyn "triniaeth yn yr ysbyty ble bydd yn aros am y dyfodol rhagweladwy".

Cafodd honiadau eu hadrodd gyntaf ym mhapur newydd The Sun ddydd Gwener fod cyflwynydd, 61, wedi talu person yn ei arddegau am luniau anweddus.

Doedd y cyflwynydd heb gael ei enwi yn gyhoeddus, ond dywedodd y BBC eu bod yn gweithio mor sydyn â phosib er mwyn "sefydlu'r ffeithiau", a'u bod wedi gwahardd y cyflwynydd dan sylw.

Disgrifiad,

Adroddiad Newyddion S4C: Huw Edwards yn yr ysbyty ar ôl cael ei enwi wedi honiadau

Fe wnaeth y BBC hefyd gadarnhau eu bod wedi cyfarfod Heddlu'r Met ddydd Llun i drafod y mater.

Dydd Mercher dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cyflawni eu hasesiad ac na fydd camau pellach yn cael eu cymryd.

Mewn datganiad pellach, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod mewn cysylltiad gyda Heddlu'r Met yn dilyn gwybodaeth a ddaeth i law yn Ebrill 2023, ac nad oedd unrhyw droseddu wedi ei adnabod.

Dywedodd papur newydd The Sun bod "dim bwriad cyhoeddi rhagor o honiadau ynghylch Huw Edwards", ac y byddai'n "cydweithio gyda phroses ymchwilio fewnol y BBC".

Disgrifiad,

Dadansoddiad gohebydd BBC Cymru, Huw Thomas

Beth ddywedodd gwraig Huw Edwards?

Mewn datganiad i wasanaeth newyddion PA, dywedodd Vicky Flind: "Yn dilyn straeon diweddar ynghylch 'Cyflwynydd y BBC' rydw i'n gwneud y datganiad hwn ar ran fy ngŵr Huw Edwards, a hynny wedi pum niwrnod anodd tu hwnt i'n teulu.

"Rwy'n gwneud hyn yn bennaf oherwydd pryder am ei iechyd meddwl ac i warchod ein plant.

"Mae Huw yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol. Fel sydd wedi ei adrodd, mae wedi cael triniaeth am iselder difrifol yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf wedi gwaethygu pethau'n sylweddol, mae wedi dioddef unwaith eto ac mae nawr yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ble bydd yn aros am y dyfodol rhagweladwy.

"Unwaith y bydd yn ddigon da i wneud hynny, mae'n bwriadu ymateb i'r straeon sydd wedi eu cyhoeddi.

"I fod yn glir, cafodd Huw wybod am y tro cyntaf ddydd Iau bod honiadau'n cael eu gwneud yn ei erbyn.

"Dan yr amgylchiadau ac o ystyried cyflwr Huw, hoffwn ofyn fod preifatrwydd ein teulu a phawb arall sy'n rhan o'r digwyddiadau trist diweddar yn cael ei barchu.

"Rwy'n gwybod fod Huw'n flin iawn bod cymaint o gydweithwyr wedi cael eu heffeithio gan y sïon diweddar yn y cyfryngau. Gobeithiwn y bydd y datganiad hwn yn dod â hynny i ben."

Datganiad Heddlu De Cymru

Mewn datganiad nos Fercher, dywedodd Heddlu De Cymru bod y llu mewn cyslltiad â Heddlu'r Met a'r BBC yn dilyn cyfarfod ddydd Llun.

"Daeth gwybodaeth i law'r llu yn Ebrill 2023 ynghylch diogelwch oedolyn. Ni chafodd unrhyw droseddu ei adnabod.

"Yn dilyn digwyddiadau diweddar, mae ymholiadau pellach wedi eu cwblhau ac mae swyddogion wedi siarad gyda nifer o bobl i ganfod a oes honiadau troseddol yn cael eu gwneud.

"Ar hyn o bryd, does dim tystiolaeth bod unrhyw droseddau wedi eu cyflawni.

"Mae ymholiadau'n parhau gan Heddlu De Cymru.

"Ond, petai unrhyw dystiolaeth o droseddu neu faterion diogelwch yn dod i'r amlwg yn y dyfodol, byddwn yn ymchwilio."

Un o brif gyflwynwyr y BBC

Mae Huw Edwards wedi gweithio i'r BBC ers dros 40 mlynedd, ac mae'n fwyaf adnabyddus am gyflwyno prif raglenni newyddion y gorfforaeth.

Mae wedi bod yn wyneb i rai o brif ddigwyddiadau newyddion y DU dros flynyddoedd diweddar.

Yn ogystal mae'n wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau yng Nghymru, gan gyflwyno rhaglenni ar S4C a BBC Radio Cymru.

Yn byw yn Llundain gyda'i deulu, mae Huw Edwards wedi siarad am ei frwydrau gydag iselder yn y gorffennol.

Pynciau cysylltiedig