Penybont yn dangos y ffordd i glybiau Cymru yn Ewrop
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Penybont i gipio gêm gyfartal 1-1 gartref yn erbyn FC Santa Coloma i roi gobaith i'w hunain o gyrraedd ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Fe aethon nhw ar ei hôl hi ar Faes y Bragdy 10 munud cyn yr egwyl, wrth i gic rydd Mario Mourelo sleifio heibio i'r golwr Alex Harris i roi'r ymwelwyr o Andorra ar y blaen.
Ond fe rwydodd y bytholwyrdd Chris Venables yn yr ail hanner ar ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb, i roi gobaith i dîm Rhys Griffiths cyn yr ail gymal oddi cartref ddydd Iau nesaf.
Colli fodd bynnag oedd hanes y ddau glwb arall o Uwch Gynghrair Cymru oedd hefyd yn chwarae yn rownd ragbrofol gyntaf Cyngres Europa.
Cafodd Cei Connah eu trechu o 2-0 oddi cartref yng Ngwlad yr Ia gan KA Akureyri, gyda Hallgrimur Steingrimsson a Daniel Hafsteinsson yn sgorio yn yr ail hanner.
Ac fe sgoriodd Adenis Shala dros Shkëndija ar ddechrau'r ail hanner i sicrhau bod y tîm o Ogledd Macedonia yn trechu Hwlffordd o 1-0.
Bydd Cei Connah a Hwlffordd yn croesawu eu gwrthwynebwyr i Gymru nos Iau nesaf felly yn gwybod fod angen buddugoliaethau arnyn nhw os am unrhyw obaith o gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth.
Nos Fercher fe gollodd Y Seintiau Newydd o 3-1 yn erbyn BK Häcken o Sweden yng nghymal cyntaf eu gornest nhw yng Nghynghrair y Pencampwyr.