Aaron Ramsey'n cael prawf meddygol gyda Chaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Ramsey dros Gaerdydd am y tro cyntaf yn 2007

Mae capten Cymru, Aaron Ramsey yn agos at ddychwelyd i'w glwb cyntaf Caerdydd.

Mae Ramsey, 32, yn cael profion meddygol gyda'r clwb ddydd Iau, ar ôl i'w gytundeb gyda chlwb Nice ddod i ben.

Nid yw manylion terfynol unrhyw gytundeb gyda'r Adar Gleision wedi eu cadarnhau eto.

Mae Ramsey, sydd wedi chwarae dros Arsenal a Juventus yn ei yrfa, yn awyddus i symud yn agosach i'w gartref yn ne Cymru.

Byddai sicrhau Ramsey yn y garfan yn hwb mawr i Gaerdydd cyn dechrau tymor y Bencampwriaeth.

Y gred yw bod y rheolwr newydd, Erol Bullut, yn awyddus i ddod â Ramsey yn ôl i'r clwb ble dechreuodd ei yrfa.

Daeth drwy dimau ieuenctid yr Adar Gleision cyn arwyddo gydag Arsenal yn 2008. Chwaraeodd dros 250 o weithiau dros y Gunners.

Symudodd i Juventus yn 2019, ac yna Nice y llynedd, ond mae wedi dweud ei fod yn ystyried anghenion ei deulu wrth ddewis ei glwb nesaf.

Mae Ramsey wedi ennill 82 o gapiau dros ei wlad.