Cwtogi hyd Ras yr Wyddfa oherwydd y tywydd
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid addasu cwrs Ras yr Wyddfa eleni oherwydd tywydd anffafriol gan olygu nad oedd modd i'r cystadleuwyr redeg yr holl ffordd i'r copa.
Ar ôl asesu'r sefyllfa ddiweddaraf ganol y bore, fe benderfynodd y trefnwyr bod modd parhau â ras eleni, ond i'w chwtogi i ryw dri chwarter y ffordd i fyny'r mynydd.
Ond roedd angen cwtogiad pellach ar y funud olaf gan fod y gwyntoedd mor gryf.
Enillydd ras ryngwladol y dynion oedd yr Eidalwr Isacco Costa, a'r Albanes Holly Page oedd yn fuddugol yn ras y merched.
'60 milltir yr awr'
Yn wreiddiol, "oherwydd y tywydd a diogelwch pawb ar y mynydd" fe benderfynwyd mai'r man pellach y gallwn fynd i fyny'r Wyddfa yw Clogwyn".
Ond wrth i'r trefnwyr gadw golwg ar yr amodau, fe ddaeth yn amlwg bod rhaid cwtogi eto, gydag 20 munud i fynd tan ddechrau'r ras am 14:00.
O'r herwydd, bu'n rhaid i'r oddeutu 450 o redwyr droi am yn ôl yn Allt Moses yn hytrach.
Yn ôl y trefnydd Stephen Edwards, roedd yna wyntoedd o "90 milltir yr awr neithiwr" ar y mynydd, ac roedden nhw ond wedi gostegu i "60 milltir yr awr am ugain munud i ddau".
Roedd y trefnwyr wedi cydnabod "cyfrifoldeb personol" rhedwyr o ran eu galluoedd a'u diogelwch, ac y byddai cwtogi'r ras "yn newyddion siomedig" ond bod diogelwch cystadleuwyr a swyddogion y ras ar y mynydd "o'r pwys mwyaf".
Roedd y tywydd yn ardal Llanberis ddydd Sadwrn yn cyferbynnu'n llwyr â gwres tanbaid y llynedd, pan fu'n rhaid gosod gorsafoedd dŵr ar hyd y llwybr a chynghori'r rhedwyr i yfed digon.