Tri awdurdod yn bwriadu darparu prydau i blant

  • Cyhoeddwyd
Pryd ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae tri o gynghorau Cymru wedi dweud eu bod yn bwriadu darparu prydau bwyd am ddim i blant yn ystod y gwyliau er i Lywodraeth Cymru ddirwyn y cynllun cenedlaethol i ben.

Dywedodd gweinidogion y llywodraeth nad oedd digon o arian yn y coffrau i barhau gyda'r cynllun a gafodd ei gyflwyno yn ystod y pandemig.

Ond fe ddywedodd cynghorau Caerffili, Blaenau Gwent a Phowys eu bod wedi gallu dod o hyd i'r arian o'u cyllidebau eu hunain i barhau gyda'r ddarpariaeth.

Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y cynllun wastad wedi bod yn un oedd yn gyfyngedig o ran amser, ond y byddai nifer o grwpiau yn cynorthwyo teuluoedd dros y gwyliau.

Roedd nifer o arweinwyr awdurdodau lleol wedi mynegi pryder fod y cyhoeddiad wedi ei wneud yn hwyr yn y dydd. Cafodd cynghorau wybod ar 28 Mehefin na fyddai prydau am ddim ar gael dros y gwyliau ysgol.

Yr amcangyfrif yw fod cost y cynllun oddeutu £15m.

'Pryder dybryd'

Mae Cyngor Caerffili eisoes wedi cymeradwyo'r penderfyniad - ar gost o £900,000 - i dalu am dalebau i deuluoedd sydd â'u plant yn derbyn prydau am ddim.

Dywedodd arweinydd yr awdurdod, Sean Morgan fod y sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth leol yn golygu na fyddai nifer o gynghorau eraill yn gallu gwneud yr un peth.

Ychwanegodd fod awgrym wedi dod gan Lywodraeth Cymru y byddai'r cynllun yn gorffen, ond fod amseru'r cyhoeddiad yn "anodd".

Yn ôl Mark Pritchard, arweinydd y grŵp annibynnol ar Gyngor Wrecsam, doedd dim cynlluniau i'r cyngor gyflwyno cynllun talebau ei hun dros yr haf.

"Rydym yn cael trafferth darparu gwasanaethau statudol fel y mae hi," meddai. "Mewn byd delfrydol fe fydden ni'n ystyried hyn, ond does dim arian ar gael."

Pwysleisiodd Stephen Thomas, arweinydd Llafur Cyngor Blaenau Gwent, nad oedd yr awdurdod wedi cymeradwyo'r penderfyniad i ddarparu prydau am ddim dros yr haf - bydd y cyngor yn trafod y mater ddydd Iau.

Fe fyddai'n costio £300,000 i'r awdurdod.

Eglurodd fod "pryderon dybryd" y gallai plant fod yn newynog.

"Mae'n siom fod y cylliad yn dod i ben, ond rwy'n deall y sefyllfa y mae Mark Drakeford ynddi," meddai.

Bydd cabinet Cyngor Powys yn cwrdd ddydd Mawrth i ystyried cynnig i gyllido cynllun talebau bwyd o'u gronfa ei hun ac ar gost o £280,000.

Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru ddydd Llun ei fod yn ddiolchgar i gynghorau am "wneud mwy nag yr oedden nhw wedi cynllunio'n wreiddiol".

Heb fwy o arian yn ganolog, mae'n annhebygol y bydd y tri awdurdod yn gallu parhau gyda'r taliadau y tu hwnt i'r haf.