Sut i ddiddanu'r plant dros y gwyliau

  • Cyhoeddwyd
plant yn neidioFfynhonnell y llun, Nick David

Gyda phob tegan bellach yn 'boring', a'r wythnosau heb ysgol yn ymestyn yn hir o'ch blaenau, beth fydd yn cadw'r plant yn hapus dros y gwyliau?

Dyma ychydig o syniadau gan Cymru Fyw am beth fydd yn sicrhau bod y plantos yn ddistaw am ychydig... gobeithio.

Mae'r wefan yn llawn rhai o'u hoff raglenni teledu, gemau gwych a chaneuon anhygoel fydd yn aros yn y cof (am ychydig yn rhy hir).

I blant ychydig yn hŷn, mae gwefan Stwnsh, dolen allanol hefyd yn llawn rhaglenni, gemau a fideos gwyllt a gwirion.

Beth am bodlediad Cymraeg addas ar gyfer plant? Mae yna gasgliad o rai i blant o bob oed ar wefan Y Pod, o Stori Tic Toc i'r plant lleiaf, i bodlediad Cylchgrawn Cip yr Urdd a phodlediadau gan ddisgyblion ysgol uwchradd ar gyfer y plant hŷn.

Ffynhonnell y llun, Christopher Hopefitch

Eisiau llyfrau newydd i'r plantos, ond ddim yn siŵr beth fyddai at eu dant? Mae gwefan Sôn am Lyfra yn adolygu llyfrau plant, felly gewch chi syniad da o beth fyddai'n addas cyn mentro i'r siop lyfrau leol.

Y gwyliau yw'r amser delfrydol i ddysgu sgil newydd, ac mae gan sianel YouTube Cymru FM nifer o fideos allai helpu, o ddysgu sut i arddio a bît-bocsio i chwarae Minecraft a phaentio wynebau.

Mae BBC Radio Cymru yn rhoi rhestr wrando o ganeuon cyfoes Cymraeg at ei gilydd bob mis, sydd yn wych ar gyfer cael Disgo Cegin!

Ar gyfer y bobl ifanc-sydd-ddim-cweit-yn-oedolion yn eich cartref, mae digon o fideos sy'n trafod testunau amrywiol, o gerddoriaeth, byw gydag awtistiaeth, ffilmiau, iechyd meddwl, i bynciau ychydig mwy aeddfed hefyd.

Ffynhonnell y llun, Mayur Kakade

Mae nifer o blant yn gwneud ioga neu sesiynau meddwlgarwch yn yr ysgol y dyddiau yma, felly beth am barhau'r ymarfer gartref gyda fideos ioga sy'n addas i blant.

Hen bryd i'r plant ddatblygu eu sgiliau coginio, ac mae yna ryseitiau ar wefan CogUrdd y gallan nhw eu coginio er mwyn gwneud rhywbeth blasus i'r teulu.

Mwy o syniadau:

Ffynhonnell y llun, Mentrau Iaith Cymru

Mae nifer o Fentrau Iaith ledled Cymru yn cynnal clybiau gofal a gweithgareddau dros wyliau'r haf, felly beth am edrych am ddigwyddiad sy'n cael ei gynnal gan eich Menter leol chi?

Ar wefan Cadw mae rhestrau o syniadau am beth i'w wneud gyda'ch diwrnod allan; o'r 10 castell gorau i blant, i'r lleoedd gorau ar ddiwrnodau gwlyb. Diwrnod gyda'ch gilydd, awyr iach a chael dysgu am hanes yr un pryd - beth well?

Peidiwch ag anghofio chwaith am safleoedd Amgueddfa Cymru, dolen allanol ledled y wlad. Ynghyd â'r arddangosfeydd parhaol, mae yna'n aml weithgareddau a digwyddiadau penodol i blant a theuluoedd dros y gwyliau ysgol a phenwythnosau.

Ffynhonnell y llun, Blend Images - JGI/Jamie Grill

Mae pyllau nofio ledled Cymru yn cynnal sesiynau am ddim i blant o dan 16 oed. Cofiwch wirio amseroedd gyda'ch canolfan hamdden ymlaen llaw, a chofiwch eich gwisg nofio!

Eisiau gadael y tŷ, ond ddim yn siŵr beth i'w wneud? Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddigon o awgrymiadau sut allwch chi gael hwyl yn yr awyr agored. Ewch i feicio mynydd, neu ddod o hyd i fywyd gwyllt mewn codwigoedd, neu hyd yn oed geogelcio (geocaching - ddim yn gwybod beth ydi o? Cliciwch y ddolen!).

  • Dysgu am fyd natur

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, dolen allanol, sy'n dathlu 60 mlynedd o weithio gyda bywyd gwyllt eleni, ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, dolen allanol yn cynnal amryw o ddigwyddiadau fel glanhau traethau, sesiynau ar achub gwenyn, gweithdai crefftio a theithiau cerdded.

Ffynhonnell y llun, ballyscanlon

I ble bynnag ewch chi, mae taith ar y trên bob amser yn hwyl, ac ar hyn o bryd mae plant o dan 16 oed, sydd yn teithio gydag oedolyn, yn cael teithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Gallwch ddod o hyd i lwybrau am dro pell ac agos, cyfarwydd ac anghyfarwydd yn grŵp Facebook Dro Da, gyda chyngor am le i barcio, os yw'n addas ar gyfer pram, pa mor anodd yw'r llwybr, a mwy.

  • Gwyliau a dyddiau o hwyl

Ar wefan Croeso Cymru mae rhestrau o'r gwyliau a'r digwyddiadau sy'n digwydd ledled Cymru ym mis Gorffennaf, dolen allanol a mis Awst, dolen allanol. Mae yna hefyd restr o atyniadau sy'n addas i bobl ag awtistiaeth, dolen allanol.

MWYNHEWCH!

Ffynhonnell y llun, J J D

Pynciau cysylltiedig