Epilepsi: Cerdded i Esmi a Nanw

  • Cyhoeddwyd
Catrin, Nanw (blaen), Esmi (cefn), MathewFfynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Catrin, Nanw (blaen), Esmi (cefn) a Mathew

"Dwi isio gwneud y cyflwr mor normal â phosib iddyn nhw."

Dyna eiriau Catrin Jones o Rostryfan sydd yn fam i Esmi a Nanw.

Mae Esmi, sy'n bedair oed, a Nanw, sy'n ddwy oed, wrth eu boddau yn chwarae y tu allan, dringo, yn hoff o'u doliau L.O.L a Spider-Man.

Mae'r ddwy hefyd wedi cael diagnosis o epilepsi yn ddiweddar.

Ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf, cerddodd Catrin, ei gŵr Mathew a 24 arall o amgylch ardal Yr Wyddfa i godi ymwybyddiaeth o epilepsi ac i gasglu arian er budd yr elusen Epilepsy Action Cymru.

Diagnosis

Dyw Catrin na Mathew ddim yn ymwybodol o unrhyw hanes o epilepsi yn y teulu. Ond ym mis Mawrth 2022, derbyniodd Esmi ddiagnosis o'r cyflwr, cyn i'w chwaer fach Nanw dderbyn diagnosis fis Mawrth eleni.

Eglura Catrin: "Efo Esmi doeddan ni ddim yn siŵr iawn be' oedd yn digwydd i ddechrau arni, methu pwyntio bys yn union ar be' oedd yn bod ond yn gwybod bod yna rwbath ddim yn iawn.

"Wedyn 'nath y cylch meithrin gysylltu efo ni yn pryderu bod hi yn cael absences felly yn amlwg nathon ni ddechrau cadw llygad ar hynna.

"Jest yn sydyn iawn ar ôl hynna, yn ystod y broses o ymchwilio i weld os oedd hi yn cael absences, 'nath hi ddechrau cael trawiadau (seizures) eraill, rhai efo symudiad corff felly wnathon ni gadw cofnod o hynna, recordio nhw a gafodd Esmi ddiagnosis fel'na.

"Ychydig bach dan flwyddyn union, 'nath yr un fath ddigwydd efo Nanw."

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Esmi a Nanw

Bellach, mae Esmi yn derbyn dau wahanol fath o feddyginiaeth bob bore a nos:

"Dydi o heb stopio y trawiadau ond dwi'n meddwl eu bod nhw bendant yn helpu ac mae hi'n cael llai na be' oedd hi.

"Mae hi hefyd efo rescue medication felly os ydy hi yn cael trawiad am fwy na phum munud, 'dan i'n cael rhoi be' maen nhw yn ei alw yn midazolam iddi hi sydd yn stopio y trawiad mewn ffordd.

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cerdded o amgylch ardal Yr Wyddfa i godi ymwybyddiaeth

"Wedyn mae Nanw ar un math o feddyginiaeth bob bora a nos. Oedd hi ar un arall ond doedd o ddim yn gweithio o gwbl ac yn rhoi side effects annifyr ofnadwy iddi."

Ar hyn o bryd, mae'n anodd i'r arbenigwyr roi diagnosis pendant o'r math o epilepsi, gyda'r genethod mor ifanc ac yn dal i ddatblygu.

Eglura Catrin: "Focal Epilepsy mae nhw 'di diagnosio Esmi efo (sy'n effeithio un ochr i'r ymennydd) a mae o'n gallu datblygu i Generalised. Rydan ni dal yn disgwyl canlyniadau i Nanw, ond gan eu bod nhw mor ifanc mae o reit gymhlath a'r broses dal yn newydd i ni."

Dysgu eraill am y cyflwr

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Catrin, Mathew a'r teulu cyfagos wedi gorfod dysgu am y cyflwr, beth i wneud pan fydd Esmi a Nanw yn cael trawiadau, a pharhau i roi bywyd normal i'r ddwy.

Ond un peth sy'n pryderu Catrin yw cyn lleied mae pobl yn ei ddeall am y cyflwr.

"Mae o wedi'n dychryn ni cyn lleiad o wybodaeth sydd gan bobl am y cyflwr, yn enwedig y gwahanol fathau o drawiadau sydd yna.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl efo gwybodaeth am y rhai mawr sy'n cael fwy o sylw mewn canllawiau cymorth cynta'.

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mathew a Catrin ar y daith gerdded yn codi ymwybyddiaeth ac arian er budd Epilepsy Action Cymru

"Ond efo y rhai llai amlwg fel yr absences 'ma neu jest y Focal seizure sydd ddim yn edrych fel dy typical seizure di, mae jest y diffyg dealltwriaeth amdano fo yn reit frawychus.

"A dweud y gwir, dwi'n poeni weithia', be' os ydyn nhw yn cael un a dwi ddim yna? Ydy pobl o'u cwmpas nhw yn mynd i ddeall be' sy'n digwydd?"

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gerddwyr y daith sydd hefyd eisiau addysgu pobl am epilepsi

Un o'r rhesymau dros gefnogi'r elusen Epilepsy Action Cymru oedd oherwydd ymroddiad yr elusen i addysgu eraill am epilepsi.

"'Dan ni wedi bod reit lwcus efo'r elusen 'dan ni'n codi arian iddyn nhw. Maen nhw wedi rhoi ni ar ben ffordd efo lot o wahanol bethau fel cwnsela i rieni, maen nhw hefyd hefo llwyth o wybodaeth ar y wefan a gwahanol fideos yn dangos be' i 'neud os ydyn nhw yn cael trawiad neu sut i siarad efo plant eraill am y cyflwr sydd ganddyn nhw."

Sut mae cefnogi rhieni fel Catrin a Mathew?

Yn ôl Catrin: "Dysgwch gymorth cyntaf, mae'n bwysig bod pawb yn gwybod be' i 'neud yn ystod trawiad a gwnewch yn siŵr bo' chi'n ymwybodol o'r wahanol fathau sydd yna.

"A'r sgil effeithiau hefyd, unwaith mae'r trawiad drosodd dydi'r sgil effaith ddim drosodd i'r person sy'n diodda'; mae blinder yn dod efo fo neu golli cof hefyd. Mae'n bwysig deall hynny."

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cerddwyr y daith sy'n gymuned o bobl sy'n cael eu heffeithio gan epilepsi a sy'n cefnogi ei gilydd

Ei neges i rieni eraill sy'n wynebu taith debyg i'w thaith ei hun yw:

"Gofynnwch am ail farn os nad ydach chi'n hapus, a gwnewch yn siŵr eich bod chi yn recordio be' sy'n digwydd er fod o ddim yn beth neis i'w 'neud. Fel arall mae'n anoddach dangos be' sy'n digwydd.

"Hefyd chwiliwch am bobl eraill sydd yn mynd drwy yr un fath achos mae yna gymuned arlein eithaf mawr sy'n barod i gefnogi ac mae rhywun i siarad efo yn werthfawr pan ti ddim yn siŵr a phan mae o'n newydd."

Normaleiddio epilepsi i Esmi a Nanw

Un o'r pethau pwysicaf i Catrin yw ei bod hi a'i gŵr "yn gwneud y cyflwr mor normal â phosib i Esmi a Nanw.

"Da ni'n trio peidio panicio o'u blaenau nhw pan mae'n digwydd achos mae o ddigon brawychus iddyn nhw fel mae hi," eglura.

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddwy wrth eu boddau yn chwarae y tu allan

Wrth i'r ddwy dyfu'n hŷn ac yn dod i ddeall mwy, bydd eu rhieni'n addysgu'r ddwy chwaer am y cyflwr. Ar hyn o bryd, mae Esmi ym mlwyddyn meithrin Ysgol Rhostryfan tra bod Nanw yn mynd i'r cylch meithrin.

Er bod y ddwy'n ifanc iawn, mae Esmi wedi dechrau deall ei bod yn cael trawiadau ac yn dangos gofal o'i chwaer fach yn barod:

"Mae Esmi yn gwybod, mae hi'n trio cuddio fo weithia. Dwi'n meddwl ei bod hi'n teimlo bo' rhai trawiadau yn dod ymlaen ganddi a mae hi'n mynd i guddiad cyn iddo fo ddigwydd.

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Esmi a Nanw ar ddiwrnod y daith gerdded

"Dydi Nanw bendant ddim yn gwbod be' sy'n mynd ymlaen ond mae Esmi yn gallu gweld pan mae Nanw yn cael rhai a 'neith hi weiddi a deud bod Nanw'n cael un.

"Maen nhw'n ffrindia ac yn methu cwmni ei gilydd pan mae Esmi yn mynd i'r ysgol yn pnawn ond maen nhw'n gallu ffraeo fel dwy chwaer hefyd 'de," chwarddai Catrin.

Y daith gerdded

Un peth sydd wedi bod yn llesol i Catrin dros y flwyddyn ddiwethaf yw cerdded.

"Dwi'n teimlo bod cerdded wedi bod yn therapiwtig o ran mynd allan yn lle 'mod i adra yn synfyfyrio gormod a phoeni gormod am betha."

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Catrin yn cyrraedd Rhyd-ddu mewn tywydd llwm

Ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf, fe gerddodd criw o 26 sydd gyda chysylltiad ag epilepsi mewn tywydd garw ar hyd llwybrau cyhoeddus Eryri; o Waunfawr i gopa Moel Eilio, i lawr am Lanberis, o Ben-y-Pass i Feddgelert a Rhyd-ddu cyn dychwelyd i Waunfawr.

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogi Mam a Dad ar y diwrnod mawr

Tra roedd Nain a Taid 'Pinc' yn cyd-gerdded gyda Catrin a Mathew, roedd Nain a Taid 'Glas' yn gofalu am Esmi a Nanw ac yn dod â'r ddwy i chwifio a chlapio ar eu rheini ar hyd y daith.

Uchafbwynt arall i Esmi a Nanw yn ôl eu Mam oedd "croesawu pawb yn ôl ar ôl diwrnod heriol a helpu Hen Nain 'Pwti' i werthu raffl."

Ffynhonnell y llun, Catrin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y bwrdd raffl a Hen Nain 'Pwti'

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig