Alex Humphreys: 'Da ni angen siarad am epilepsi'
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n cofio dod o'r ysbyty ar ôl cael y diagnosis, a fy yncl i'n gofyn 'Sut aeth hi?', a 'nes i jyst crio... a dyna'r unig adeg dwi'n cofio crio amdano fo. Ar ôl hynny, 'nes i jyst trio anghofio amdano fo, achos oedd y doctor wedi deud 'tria fyw bywyd normal', so dyna 'nes i."
Mae'r cyflwynydd Alex Humphreys yn un o'r 32,000 o Gymry sydd yn byw gyda'r cyflwr epilepsi, a hynny ers iddi fod yn 17 oed.
Er ei bod hi'n 20 mlynedd bellach ers y diagnosis, dydi hi erioed wedi trafod y peth yn agored, nac wedi dysgu llawer am y cyflwr niwrolegol.
Ei siwrne hi i siarad a dysgu am epilepsi yw testun y bennod ddiweddaraf o gyfres DRYCH S4C, sef Alex Humphreys: Epilepsi a Fi.
"Do'n i ddim yn gwybod lot am epilepsi, ac i fod yn onest, dwi ddim yn meddwl mod i rili isho gwybod chwaith," meddai Alex, sydd yn wreiddiol o Laneurgain, Sir y Fflint, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Pan gafodd y cynnig i wneud y rhaglen, bu'n rhaid iddi bendroni os oedd hi am ei wneud neu beidio.
"O'n i ddim yn siŵr os o'n i am ddweud ia neu na, achos o'n i ddim isho gwybod mwy amdano fo rili, o'n i dal mewn bubble bach fy hun bod popeth yn iawn."
Ac roedd popeth yn 'iawn'; doedd Alex ddim wedi cael trawiad (seizure) ers dros 15 mlynedd, roedd ei meddyginiaeth yn gweithio iddi, a bywyd, ar y cyfan yn eithaf 'normal', meddai.
Fodd bynnag, penderfynodd fynd ati i wneud y rhaglen, a mynd ar siwrne anodd ac emosiynol.
Un o bob tri
Yn y rhaglen, mae Alex yn cyfarfod Cymry eraill sydd yn dioddef o epilepsi, a beth sylweddolodd yw fod ganddyn nhw brofiadau gwahanol i'w phrofiadau hi â'r cyflwr.
"Roedd o'n ddiddorol, dwi wedi dysgu lot - o'dd gen i ddim clem. Dydi meddyginiaeth ddim yn gweithio i un o bob tri person, sydd yn anhygoel. Dwi'n lwcus fod y meddyginiaeth yn gweithio i mi, a dwi'n teimlo mor drist dros bawb dwi 'di cwrdd â nhw sydd efo fo'n waeth na beth sydd gen i."
Yn ei hugeiniau, sylweddolodd pa mor hanfodol yw hi ei bod yn llym iawn gyda chymryd ei thabledi, eglura, a hynny pan gafodd ei thrawiad diwethaf, tua 2006, pan oedd hi newydd ddechrau gweithio i'r BBC ar ôl graddio.
"O'n i wedi mynd bach yn ddiog efo fy nhabledi... o'n i'n gwybod mod i'n gallu mynd dwy noson heb gymryd tabled, ac os o'n i'n gwybod mod i'n rhedeg allan, o'n i'n dechrau staggro nhw.
"O'n i wedi mynd dair noson heb gymryd tabled, a ges i seizure. Dyna oedd yr unig seizure ges i lle o'n i'n deffro ar fy mhen fy hun; pob tro arall, o'n i'n deffro efo paramedics ar droed y gwely a fy nheulu o gwmpas.
"'Nes i ddeffro yn plygu wrth y cwpwrdd yn taflu dillad, ac o'n i fel taswn i'n ypset ac yn chwilio am rywbeth. 'Nes i gerdded i lawr y grisiau, wedyn 'nes i ddeffro go iawn. Mae o rili'n gneud pethau rhyfedd i ti."
Math arbennig - a chymharol brin - o epilepsi o'r enw Nocturnal epilepsy sydd gan Alex, sy'n golygu mai dim ond dros nos mae hi'n cael trawiad. Dydi hi felly byth yn cael pyliau yn ystod y dydd.
Mae hyn yn wahanol i'r math sydd gan nifer o'r bobl ar y rhaglen, fel Ela, merch yn ei harddegau sydd yn cael trawiadau mawr yn fisol a chyfnodau o absenoldeb (absences) llai yn ddyddiol, neu Gavin, sydd yn cael trawiadau mor eithafol fel ei fod wedi gorfod cael llawdriniaethau i geisio trwsio anafiadau gwael i'w ysgwydd o ganlyniad i syrthio yn ystod y pyliau.
Dydi bywyd bob dydd Alex ddim yn cael ei effeithio yn yr un modd, meddai.
"Dwi wedi dod i arfer efo byw bywyd normal, a dwi mewn ffordd wedi anghofio bod gen i o. Ond 'nath clywed profiadau eraill 'neud i mi sylweddoli fod dal rhaid i mi fod yn ofalus.
"Dwi'n gwybod bod stress ddim yn helpu, felly os ma' pethau yn mynd yn rili prysur o ran gwaith, dwi'n gwybod fod rhaid cymryd pethau yn arafach.
"A'r peth pwysicaf yn fy mywyd i ydi i gymryd y tabled 'na bob dydd."
Gorfod newid cynlluniau
Dydi hynny ddim i ddweud bod bywyd Alex ddim wedi ei effeithio o gwbl gan y cyflwr, wrth gwrs.
Ar y rhaglen, mae Ela yn trafod sut mae epilepsi wedi effeithio ar ei bywyd yn gyfangwbl, ac mae hi wedi gorfod newid cynlluniau oedd ganddi, a gwneud penderfyniadau mawr am ei dyfodol; rhywbeth roedd Alex yn ei ddeall yn iawn, meddai.
"Ar ôl cael y diagnosis, dwi'n meddwl mai beth wnaeth fy mrifo i fwy na dim - mwy na'r ffaith fod gen i epilepsi - oedd mod i wedi gorfod tynnu allan o glyweliadau prifysgol. O'n i rili isho actio, a 'nes i drio am le mewn conservatoires cerddoriaeth ac ysgolion drama.
"Roedd gen i chwe chlyweliad i baratoi ar eu cyfer, ond roedd rhaid i mi dynnu allan o bob un. Roedd y doctor yn dweud fod epilepsi unai yn y teulu, neu os ti wedi cael anaf i'r pen, neu stress... a doedd o ddim y ddau gynta', felly roedd rhaid i mi drio torri allan yr holl stress o mywyd.
"A 'nath o frifo am flynyddoedd. Mae o dal yn fy mrifo i rŵan, yn siarad am y peth. Pan ti'n ifanc, ac mae gen ti freuddwyd, ac mae o'n newid fel'na... O'n i'n hollol gutted."
Yn ffodus i Alex, mae hi wedi bellach ffeindio'i llwybr fel cyflwynydd teledu, er yn fath gwahanol o 'berfformwraig' i beth roedd hi wedi ei obeithio.
"Doedd cyflwyno byth ar y radar," meddai, "ond weithiau mae bywyd yn ffeindio ffordd."
Ddim yn 'cyfadde'
Mae Alex yn cydnabod ei bod hi wedi treulio'r degawdau ers ei diagnosis yn peidio trafod neu hyd yn oed gydnabod y ffaith fod ganddi'r cyflwr ar adegau.
Ddim eisiau i'w theulu a'i ffrindiau boeni amdani yw'r rheswm am hynny mae'n siŵr, meddai, felly heblaw am ddweud wrth ffrindiau neu bobl roedd hi'n rhannu tŷ â nhw fod ganddi epilepsi, doedd y sgwrs ddim yn mynd ddim pellach.
Ond un o'r prif heriau oedd cwestiynu os y dylai 'gyfaddef' am ei chyflwr yn ei gweithle, cofiai:
"O'n i'n poeni bod nhw am ddeud wrtha i mod i ddim yn gallu gweithio mewn stiwdio. Ac er mod i'n gwybod mod i ddim am gael seizure, o'n i'n poeni byddan nhw yn meddwl mod i ddim ffit.
"Mae pawb yn gwybod mod i'n gallu cyflwyno erbyn hyn, a'i fod o ddim yn effeithio ar fy ngwaith... ond mae gan bobl dal y meddylfryd yna."
Angen siarad
Mae Alex yn amlwg dan deimlad ar y rhaglen, yn arbennig mewn golygfa pan mae hi'n cymryd rhan mewn grŵp cefnogaeth yng Nghaernarfon i bobl sydd wedi eu heffeithio gan epilepsi.
"O'dd hwnna'n rili anodd; o'dd ganddyn nhw i gyd straeon mor drist. Dwi ddim yn licio fo pan mae gan bobl bethau anodd yn mynd ymlaen, ac roedd o'n anodd clywed hynny, oherwydd bod 'na ddim ateb. Mae'n anodd dweud 'mi fydd o'n ocê'... achos ti ddim wastad yn gwybod os fydd o."
Mae hi'n teimlo fod gwneud y rhaglen wedi ei agor ei llygaid i'r angen am drafodaeth agored am epilepsi, er mwyn addysgu ac i gael gwared ar stigma ac anwybodaeth.
"'Da ni angen siarad amdano fo achos mae o'n rhywbeth sy'n difetha bywydau. Er ei fod o wedi bod yn brofiad eitha' emosiynol a chaled i fi ar adegau, dwi'n falch mod i wedi ei 'neud o.
"'O'dd dwy o'r genod o'n i'n eu holi - Ela a Manon - mor ddiolchgar am y cyfle. 'Nath o rili 'neud i mi sylweddoli mor falch o'n i mod i'n ei 'neud o, achos maen nhw angen siarad amdano fo ac maen nhw angen y platfform.
"Fel pobl, 'da ni angen siarad am y peth, a rŵan dwi ddim ofn dweud wrth bobl."
Gwyliwch DRYCH: Alex Humphreys - Epilepsi a Fi ar S4C nos Sul 16 Ebrill am 21:00
Hefyd o ddiddordeb: