Huw Edwards: Amddiffyn amser gymerodd y BBC i ymateb
- Cyhoeddwyd

Roedd y Fonesig Elan Closs Stephens yn ateb cwestiynau Pwyllgor Cyfathrebu a Digidol Tŷ'r Arglwyddi brynhawn Mawrth
Mae cadeirydd dros dro'r BBC wedi amddiffyn yr amser a gymerodd y gorfforaeth i ymateb yn gyhoeddus i honiadau a wnaed yn erbyn y cyflwynydd Huw Edwards.
Fe wnaeth papur The Sun gyhoeddi honiadau fod cyflwynydd adnabyddus y BBC wedi talu am luniau o natur rywiol gan berson ifanc.
Ddyddiau'n ddiweddarach, fe wnaeth gwraig Huw Edwards rannu datganiad yn dweud mai ei gŵr oedd y cyflwynydd dan sylw a'i fod yn cael triniaeth ysbyty am broblemau iechyd meddwl difrifol.
Wrth ymddangos o flaen pwyllgor yn Nhŷ'r Arglwyddi ddydd Mawrth, dywedodd y Fonesig Elan Closs Stephens fod gan fwrdd y BBC "ddyletswydd i weithredu'n rhesymegol".
Fe ychwanegodd y cadeirydd dros dro fod "llawer iawn o gwestiynau na ellid eu hateb".
"Roedd pwysau aruthrol i ddatgelu enw rhywun yr oedd gennym ddyletswydd gofal a dyletswydd o breifatrwydd iddo, yn ogystal â'r teulu dan sylw yn y trobwll hwn," dywedodd wrth Bwyllgor Cyfathrebu a Digidol Tŷ'r Arglwyddi.
"Roeddwn i ar y naill law yn ceisio sefydlu hawl y bwrdd i oruchwylio'r hyn oedd yn digwydd, ond ar yr un pryd roeddwn i'n ceisio fy ngorau glas i gael trafodaeth ddigynnwrf a rhesymegol cyn i ni gyd gael ein cario i ffwrdd i gyfeiriadau anghywir iawn."
Ni gyfeirwyd at Mr Edwards wrth ei enw yn ystod y gwrandawiad.

Mae Huw Edwards yn derbyn triniaeth ysbyty ar ôl dioddef problemau iechyd meddwl difrifol
Ar ôl i bapur newydd The Sun gyhoeddi'r honiadau, dywedodd cyfreithiwr ar ran y person ifanc fod y stori'n "rwtsh".
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davie, fod y gorfforaeth wedi bod mewn cysylltiad â pherson wnaeth gwyn yn wreiddiol. Credir bod y unigolyn yn perthyn i'r person ifanc.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd gwraig Huw Edwards y bydd yn ymateb i'r straeon sydd wedi ymddangos pan fydd yn ddigon iach i wneud hynny.
Dywedodd yr heddlu nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2023