Rhybudd tywydd i'r gogledd wrth i law trwm gyrraedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law ar gyfer rhannau helaeth o ogledd Cymru ddydd Sul.
Daw hynny wedi i'r rhagolygon eisoes ddangos bod disgwyl penwythnos gwlyb ar draws Cymru, a hynny ar benwythnos cyntaf gwyliau ysgol yr haf.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod disgwyl glaw "trwm ar brydiau" ddydd Sul a bod disgwyl i hynny darfu ar ddigwyddiadau awyr agored, yn ogystal ag effeithio ar drafnidiaeth.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a hynny rhwng 00:00 a 23:59 ddydd Sul.
Rhybudd i ymwelwyr
Daw hynny wrth i barciau cendlaethol Cymru rybuddio ymwelwyr i fod yn ofalus a chyfrifol wrth ymweld y penwythnos hwn, gyda disgwyl y bydd pethau'n prysuro nawr gyda gwyliau'r haf.
Dywedodd Judith Harvey, Pri Warden Bannau Brycheiniog, fod y rhaeadrau yn y parc yn un o'u hatyniadau mwyaf poblogaidd, ac felly bod angen i bobl sicrhau eu bod nhw'n gwisgo'r esgidiau cywir ar gyfer yr amodau.
"Cofiwch, does dim y fath beth â tywydd gwael, jyst gwisgo'n wael," meddai. "Felly os ydyn ni'n cael penwythnos gwlyb a gwyntog, arhoswch i ffwrdd o gopaon y mynyddoedd.
"Achos nid jyst y gwynt yw e - os ewch chi'n wly ar ben mynydd, mae'n mynd yn oer yn gyflym iawn os nad oes ganddoch chi'r dillad cywir.
"Cadwch draw o afonydd achos os 'dych chi'n baglu ger un sy'n llifo'n gyflym, gallai fod yn drychinebus."
Ychwanegodd bod rhai ymwelwyr hefyd yn "dangos diffyg parch" i gefn gwlad, gan atgoffa pobl i fynd â'u sbwriel gyda nhw.
"'Dyn ni'n gweld pobl yn troi lan gyda bocsys o lager, barbeciws, a chario nhw yma ond ddim yn mynd â'r gweddillion i ffwrdd gyda nhw, ac mae e lan i'n staff ni i lanhau e," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd y byddan nhw unwaith eto yn cadw llygad ar y sefyllfa barcio ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac yn cymryd "camau priodol" os oes angen.
"Rydyn ni'n annog pawb i gynllunio eu hymweliadau a'u gweithgareddau o flaen llaw, bod yn ystyriol i eraill a thrin cymunedau a'r amgylchedd gyda pharch."