Cyfarwyddwr Rygbi Caerdydd yn gadael y clwb

  • Cyhoeddwyd
Dai YoungFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae cyfarwyddwr rygbi clwb Rygbi Caerdydd wedi gadael y clwb yn barhaol.

Cafodd Dai Young ei wahardd o'i rôl gyda Rygbi Caerdydd ar 20 Ebrill eleni yn dilyn honiadau o fwlio - honiadau yr oedd wedi gwadu'n llwyr.

Oherwydd natur yr honiadau, fe wnaeth clwb Rygbi Caerdydd gomisiynu bargyfreithiwr i gynnal ymchwiliad annibynnol iddyn nhw.

Yn dilyn proses drylwyr, daeth y bargyfreithiwr i'r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi'r honiadau, ac na ddylid cymryd camau pellach yn erbyn Mr Young mewn cysylltiad â'r honiadau.

Chwilio am olynydd

Ond mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y clwb fod y broses wedi creu straen ar y berthynas weithio rhwng y clwb a Mr Young.

"O dan yr amgylchiadau yna," medd y datganiad, "yn anffodus mae'r ddwy ochr wedi penderfynu cytuno i ddileu cytundeb cyflogaeth Dai ar unwaith yn unol â'r termau sy'n caniatáu hynny.

"Hoffai Rygbi Caerdydd ddiolch i Dai am ei gyfraniad diweddaraf i'r clwb dros y ddwy flynedd ddiwethaf a welodd y clwb yn gorffen fel y clwb uchaf o Gymru yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a dychwelyd i Gwpan Pencampwyr Ewrop.

"Rydym yn dymuno'r gorau i Dai gyda beth bynnag fydd yn y dyfodol iddo."

Bydd y gwaith nawr yn dechrau i ganfod olynydd a thîm hyfforddi newydd i Rygbi Caerdydd.

Fe fydd tipyn o frys i wneud hynny gydag ond 14 wythnos yn weddill cyn dechrau tymor 2023/24.

Pynciau cysylltiedig