Josh Navidi yn ymddeol oherwydd anaf 'difrifol' i'w wddf
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rheng-ôl Caerdydd a Chymru, Josh Navidi, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi oherwydd "anaf difrifol i'w wddf."
Dechreuodd Navidi ei yrfa gyda chlwb Caerdydd yn 2009, a dros y blynyddoedd mae wedi cynrychioli Cymru 33 o weithiau.
"Gyda thristwch, a balchder mawr dwi'n cyhoeddi fy ymddeoliad o rygbi," dywedodd Navidi.
"Er yr oeddwn yn gwybod y byddai'r diwrnod yn dod yn y pen draw, dwi ddim yn credu yr oeddwn byth yn gallu paratoi fy hun ar gyfer pa mor anodd fyddai i roi mewn i eiriau cymaint o effaith mae'r gêm wedi cael ar fy mywyd.
"Rwy'n hynod o ddiolchgar i bawb yn Rygbi Caerdydd. Dechreuais fy ngyrfa gyda'r clwb yn 2009, a dros y 14 mlynedd hynny, rydw i wedi gwneud gymaint o atgofion fydd gyda mi am weddill fy mywyd."
Yn ystod ei yrfa bu Navidi'n rhan o dri thîm wnaeth ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac yn 2019 fu'n rhan o'r tîm gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd.
Mewn datganiad dywedodd clwb Caerdydd: "Bydd Josh Navidi yn ymddeol o rygbi ar unwaith ar ôl methu gwella'n llawn o anaf difrifol i'w wddf."
Ychwanegoodd y prif hyfforddwr Dai Young: "Gall Josh fod yn hynod falch o'i yrfa a phopeth mae wedi cyfrannu boed yn gwisgo glas a du neu'r crys coch.
"Mae pawb yng Nghaerdydd yn danfon ein dymuniadau gorau at Josh am y dyfodol ac edrychwn ymlaen at ei weld fel cefnogwr yn y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2023