Yr hyfforddwr Dai Young wedi ei wahardd gan Rygbi Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Dai YoungFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae BBC Cymru yn deall bod Dai Young wedi cael ei wahardd fel cyfarwyddwr rygbi Caerdydd.

Dywedodd Rygbi Caerdydd nad oedd Young, 55, yn bresennol ar safle ymarfer y clwb ym Mro Morgannwg ddydd Gwener.

Fe wnaethon nhw hefyd gadarnhau na fydd yr hyfforddwr gyda'r tîm ar gyfer gêm olaf y tymor - yr ornest Dydd y Farn yn erbyn y Gweilch yn Stadiwm Principality.

Mae adroddiadau wedi bod am nifer o gwynion yn erbyn Young gan staff.

Diwrnod tyngedfennol

Daeth y penderfyniad yn dilyn cyfarfod o'r bwrdd ddydd Iau, ac fe gafodd chwaraewyr wybod ddydd Gwener.

Ond mae'r amseru'n anffodus tu hwnt i'r rhanbarth, gan ddod ar drothwy gêm dyngedfennol i sicrhau lle yn Ewrop - a hynny'r un diwrnod ag angladd y cyn-gadeirydd Peter Thomas.

Dim ond pwynt sydd ei angen ar Gaerdydd yn erbyn y Gweilch i sicrhau eu lle yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf, fel y tîm Cymreig gorau yng nghynghrair y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Bydd yr is-hyfforddwr Richard Hodges, a siaradodd yng nghynhadledd i'r wasg y rhanbarth ddydd Iau, yn cymryd yr awenau ar gyfer yr ornest.

Dyma ail gyfnod Dai Young fel prif hyfforddwr Caerdydd - y clwb ble dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa - ar ôl dychwelyd yn 2021.

Pynciau cysylltiedig