Sioe Frenhinol 2024 i gael Pentref Garddwriaethol

  • Cyhoeddwyd
Sioe Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Adran Arddwriaeth yn un oedd yn absennol eleni

Mewn cyfarfod ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Mawrth fe gafodd cynlluniau eu datgelu ar gyfer adran arddwriaeth yn y sioe y flwyddyn nesaf.

Yn ystod y lansiad amlinellodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC), y weledigaeth newydd ar gyfer y Pentref Garddwriaethol a rhannodd syniadau dylunio posibl o sut y gall y pentref edrych.

Er bod yr adran wedi bod yn colli tua £40,000 bob blwyddyn, yn ôl y gymdeithas, roedd hi'n siom i rai yn y maes nad oedd adran o'r fath eleni.

Dywedodd Donald Morgan o siop Blodau'r Bedol yn Llanrhystud: "Roedd gyda ni feirniaid yn dod o dros Gymru a Lloegr aton ni. O ran yr adran gosod blodau, lle ro'n i'n gweithio, roedden nhw'n dweud wrtha' i bod y safon yn well na'r safon yn Chelsea."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Aled Rhys Jones yn croesawu barn cyfrannwyr i'r adran

Ond wrth amlinellu syniadau ar gyfer 2024, dywedodd Aled Rhys Jones: "Mae'r dyluniad wedi'i seilio ar syniadau allweddol ynglŷn â chynhwysedd a bioamrywiaeth, gyda llwyfan ar gyfer sgyrsiau, seminarau ac arddangosfeydd rhyngweithiol a lleoedd stondinau ar gyfer arddangoswyr.

"Yn ganolog i'r pentref fydd mannau ar gyfer dangos cystadleuol, yn arbennig y gosod blodau a'r cynnyrch llysiau y mae Sioe Frenhinol Cymru yn enwog amdanynt.

"Rydym yn dal yng nghyfnodau cynnar datblygu'r cysyniad hwn ac rydym yn gweld hyn fel prosiect cydweithredol ble gall gwahanol bartneriaid cyflenwi, noddwyr a rhanddeiliaid ein helpu i gyflawni'r weledigaeth uchelgeisiol hon."

Roedd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths AS hefyd yn bresennol a dywedodd: "Mae sector garddwriaeth bywiog yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu diwydiant amaethyddol cynaliadwy wrth iddo ddarparu amryw o fuddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

"Mae'n bwysig fod ein garddwriaethwyr yn rhan annatod o hyn, a dyna pam fy mod yn falch iawn o glywed y cynlluniau amlinellol ar gyfer y Pentref Garddwriaethol newydd yn Sioe'r flwyddyn nesaf."

Mae CAFC yn bwriadu agor y Pentref Garddwriaethol newydd yn Sioe Frenhinol Cymru 2024 ac mae'n gwahodd rhanddeiliaid, partneriaid a chefnogwyr i gymryd rhan a rhannu syniadau ac adborth yn y misoedd i ddod.