Twmpdaith yn galw twmpath
- Cyhoeddwyd
Mae naw o gerddorion ifanc yn teithio o amgylch neuaddau pentref a rhai o brif wyliau'r haf ar hyn o bryd yn galw twmpath.
O Neuadd Mynytho, i Tafwyl, o Sesiwn Fawr Dolgellau i Bandstand Aberystwyth, mae'r naw talentog wedi bod yn teithio'r wlad mewn bws mini yng nghwmni Rhian Davies, y trefnydd.
Bydd y daith yn dod i ben yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, ond tan hynny maen nhw'n dal i deithio a'r bwriad yn ôl Rhian yw "tynnu pobl i mewn i ddawnsio a dangos bod dawnsio gwerin yn addas i bob oed ac yn lot o hwyl".
Twmpdaith ar y lôn
Ariennir Twmpdaith gan y Cyngor Celfyddydau ac mae'n un o is-brosiectau Wyth sy'n hyrwyddo dawnsio gwerin a chlocsio yng Nghymru.
Mae Rhian Davies yn Swyddog Datblygu gyda Menter Iaith Maldwyn a hi sy'n gyfrifol am arwain a chydlynu Twmpdaith.
"Wnaethon ni hysbysebu am gerddorion a dawnswyr rhwng 16-25 oed a wnaethon ni ddewis naw ohonyn nhw i gael eu cyflogi am yr haf.
"Gawson nhw wythnos o hyfforddiant ar sut i alw twmpath, sut i chwarae efo'i gilydd, sut i ddefnyddio system PA, sut i 'neud gender neutral calling, a 'dan ni hefyd wedi cael hyfforddiant ar sut i addasu dawnsfeydd ar gyfer pobl gyda gwahanol anghenion ac anableddau, fel Parkinson's."
Ers yr hyfforddiant ddechrau'r haf, mae Twmpdaith wedi bod ar y lôn ac mae Rhian a'i phartner, Bryn, wedi bod yn eu gyrru mewn bws mini i gynnal twmpathau a nosweithiau gwerin.
Cadi a'r delyn deires
Un o gerddorion a dawnswyr Twmpdaith yw Cadi Glwys Davies o Faldwyn sydd newydd orffen ei blwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth.
"Dwi'n chwarae'r delyn deires a hefyd yn clocsio a dawnsio gwerin. Mae'r prosiect yma rili 'di helpu fi i ddatblygu'r sgiliau yna a chwrdd a lot o bobl sydd efo'r un diddordebau, sydd wedi bod yn ffab!
"Mae'n gyfle gwych i allu rhannu diwylliant gwerin Cymreig efo pobl achos dwi wedi bod yn ddigon ffodus o gael cyfleoedd i fynd i dwmpathau a nosweithiau gwerin wrth dyfu i fyny ond dydi pawb heb gael y cyfle yna felly mae mynd â thwmpathau o gwmpas y wlad a rhoi platfform i gerddoriaeth a dawnsio gwerin, i fi, roedd e'n gyfle rhy dda i golli."
Arbrofi â thraddodiad
Er mai cerddoriaeth werin a thraddodiadol sy'n cael ei chwarae gan Twmpdaith, mae'r holl gerddorion yn dod o gefndiroedd cerddorol amrywiol, ac mae'n gyfle i arbrofi ag arddulliau a rhoi tro newydd ar hen draddodiad.
Meddai Cadi: "Beth sy'n dda ydi bod ni o gefndiroedd cerddorol gwahanol felly mae gynnon ni Huw y gitarydd oedd arfer bod mewn band pync, Tal y drymiwr sydd fel arfer yn chwarae roc a stwff a mae ganddon ni ambell gerddor clasurol hefyd fel Lleucu sy'n chwarae ffliwt a Catrin sydd ar y ffidil.
"Mae o wedi bod yn brofiad gwych cymysgu'r holl arddulliau gwahanol yna achos dwi'n chwarae mathau eraill o gerddoriaeth hefyd ond mae Twmpdaith wedi rhoi cyfle i fi i wella sgiliau gwerin a hefyd sgiliau cyfeilio, sy'n sgil sydd ddim yn cael ei ddysgu llawer i chi pan 'dach chi'n ifanc.
Cyfle i atgyfodi twmpath dawns
Gobaith Cadi yw y bydd y cerddorion yn dychwelyd adref i'w hardaloedd eu hunain ar ôl diwedd y daith ac y bydd yna fwy a mwy o dwmpathau yn cael eu cynnal ledled Cymru: "Gobeithio pan fyddwn ni yn mynd nôl adre byddwn ni'n gallu cyfeilio i grwpiau dawns neu be' bynnag sydd angen wedyn a defnyddio'r sgiliau mae Twmpdaith wedi eu rhoi i ni.
"'Dan ni gyd wedi dod yn gymaint o ffrindiau; o gael hyfforddiant dwys am wythnos i wedyn fod yn styc ar fws mini a rhannu llwyfan, rydan ni wedi bod drwy lot gyda'n gilydd. Felly pwy a ŵyr beth wnawn ni gyda'n gilydd ar ôl diwedd y daith."
'Mae pawb yn cofio Jac-y-do'
O dwmpathau dydd Gŵyl Dewi, i dwmpathau gwersylloedd yr Urdd ac mewn ysgolion cynradd, mae gan lawer iawn atgof o dwmpath.
Cynnau'r atgofion hynny yng nghof y gynulleidfa mae Cadi yn hoff o'i wneud gydag un o'r ffefrynnau:
"Un o'n hoff ddawnsiau i ddysgu i bobl ydi Jac-y-do achos mae lot wedi dysgu Jac-y-do yn yr ysgol gynradd neu'n ifanc a wedyn maen nhw'n cael gymaint o fwynhad o ddychwelyd at hwnna.
"Mae twmpath yn ffordd mor wych o gymdeithasu, cadw'n heini a chwrdd â phobl newydd. Un o'n targedau ni ydi dangos bod twmpathau i bobl o bob oed ac ar gyfer neiniau a theidiau, mamau a thadau a phlant!
Ymateb
Yn ôl Rhian, mae'r ymateb wedi bod yn wych ac mae pobl ymhobman wedi bod wrth eu boddau yn "cael pobl ifanc brwdfrydig, egnïol yn eu tynnu i mewn i fod yn rhan o'r twmpath."
Ond sut mae Rhian wedi ymdopi â bywyd ar y lôn?
"Bryn fy mhartner i sydd wedi bod yn gyrru'r bws mini felly mae'r ddau ohonan ni wedi bod efo nhw ac yn cael lot o hwyl.
"Dwi wedi bod yn teimlo fel mod i yn ddeunaw oed eto, erbyn diwadd y daith falla fydda i'n teimlo yn fwy fel 80 oed!
"Dwi jest mor falch ohonyn nhw. Dair wythnos yn ôl doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw erioed wedi cyfarfod â'i gilydd o'r blaen ac i feddwl bo' nhw yn chwarae cystal efo'i gilydd a jest yn dod ag egni i'r llwyfan i wahanol gynulleidfaoedd, maen nhw wedi codi eu gêm bob tro a wedi rhoi perfformiad gwych at ei gilydd."
Bydd Twmpdaith ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd nos Lun 7 Awst ac yn y Tŷ Gwerin nos Fercher 9 Awst.
Hefyd o ddiddordeb: