'Do'n i byth yn ffitio mewn i'r bocs traddodiadol'
- Cyhoeddwyd
Mae’r delynores Cerys Hafana wedi bod yn siarad am y cyfnod pan wnaeth hi godi gwrychyn rhai o hoelion wyth byd y delyn deires Gymreig.
Cafodd ymateb chwyrn i erthygl a ysgrifennodd yn 2022 yn sôn am ei phrofiad fel cerddor ifanc yn chwarae’r offeryn traddodiadol a'i barn bod cerddoriaeth werin yn rhywbeth sydd, ac a fydd, yn newid.
Cafodd ei chyhuddo o ddiffyg dealltwriaeth a diffyg parch at y traddodiad.
“O'n i 'di bod yn aros iddo fo ddigwydd achos dwi wedi adnabod y bobl oedd yn arwain yr holl beth ers o’n i’n blentyn a dwi’n gwybod sut maen nhw’n teimlo,” meddai wrth siarad fel rhan o sgwrs ehangach ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru.
“Ac o'n i’n gwybod sut fyse nhw’n teimlo [am] be' o'n i'n neud felly doedd hi ddim yn syndod - oedd hi ella’n syndod pa mor haerllug oedd yr holl beth.”
Yn dal yn ddim ond 22 mlwydd oed mae’r cerddor o Fachynlleth wedi cyhoeddi ei hail albwm, Edyf, yn 2022 ac mae ei dyddiadur gigio yn llawn.
Mae'n cael ei disgrifio fel telynores sy’n arbrofi a thrawsnewid cerddoriaeth draddodiadol.
Ysgogodd ei herthygl deimlad cryf gan rai oedd yn credu bod ei hagwedd yn un fyddai’n lladd traddodiad bregus y delyn deires a oedd wedi goroesi o drwch blewyn yn unig, diolch i rai wnaeth warchod y traddodiad.
“Ond, [ar] ddiwedd y dydd, dwi’n meddwl 'nath gymaint o bobl ddangos eu cefnogaeth i fi a gymaint o bobl dwi’n parchu... oedd hi'n anodd teimlo rhy negatif am yr holl beth achos roedd y gefnogaeth yn anhygoel.”
Dylanwadau
Wedi syrthio mewn cariad gyda’r delyn yn ferch fach a dechrau cael gwersi ar y deires yn wyth oed, drwy gerddoriaeth werin mae hi wedi tyfu fel cerddor a chyfansoddwr - a dyna ei diléit yn dal i fod.
Ond mae hi hefyd yn dod â phob math o ddylanwadau eraill i'w chyfansoddi a’i chwarae, rhywbeth ddigwyddodd yn organig ac yn naturiol meddai, nid penderfyniad bwriadol.
Mae wedi dweud bod "peryglon glynu'n ormodol at draddodiad".
'Ddim yn ffitio'
Yn ogystal â thrafod ffitio i reolau traddodiad cerddorol mae Cerys hefyd wedi siarad am beth mae hi hefyd yn ei deimlo o ran ffitio i'r syniad o un rhyw neu’r llall.
Mae’n disgrifio ei hun fel person cwiar sy’n achosi dryswch i lawer o bobl sydd ddim yn siŵr ai merch neu fachgen ydi hi.
"Do'n i byth yn ffitio mewn i’r bocs traddodiadol o be' oedd yn cael ei gysidro yn ferch yn yr ysgol, neu'n fachgen rili: o'n i mewn ryw drydydd bocs ar fy mhen fy hun o ran sut roedd pobl yn ymdrin â phethau fel'na," meddai wrth Beti George.
“Oedd hi bach yn unig ond 'sa hi 'di gallu bod lot yn waeth,” meddai am ei chyfnod yn Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth.
Mae’r trafodaethau milain sy’n digwydd ar hyn o bryd am ryw, rhywedd a phobl traws yn gwneud pethau’n anodd, meddai Cerys.
“Dwi’n teimlo bach yn anghyfforddus weithie yn cael y drafodaeth achos dwi fy hun ddim yn hollol siŵr sut dwi’n ffitio mewn iddo fo o ran hunaniaeth fi fy hun...
"Mae’r drafodaeth yn Lloegr yn y cyfryngau prif ffrwd wedi mynd mor erchyll mae’n anodd weithie ymdopi efo hynna.
“Dwi’n ffeindio fo weithie yn anodd ac mae’n codi ofn arna fi y ffordd 'dan ni'n mynd efo’r drafodaeth dros hawliau pobl traws a’r awydd sydd yma rŵan i 'neud o’n anoddach ac yn anoddach iddyn nhw fodoli yn y byd.”
Mae'n teimlo nad yw pobl eraill yn sylweddoli yr effaith uniongyrchol all hyn ei gael ar fywydau bob dydd “nid yn unig i bobl traws ond i bobl sydd ddim yn ffitio, o ran sut maen nhw'n edrych, i mewn i’r ddau categori cul yma mae'r byd wedi dysgu ni sy’n hollbwysig .”
Ffilmio yn golchi dwylo
Un o’r profiadau od mae hi wedi ei gael ydi cael ei ffilmio yn golchi ei dwylo mewn toliedau yn Aberystwyth rai wythnosau yn ôl.
“Ella oedden nhw’n ffan mawr o ngwaith i?” meddai gyda’i thafod yn ei boch, “ond dwi ddim yn meddwl.”
“...o mhrofiad i, ac o weld sut mae’r trafodaethau yma’n mynd, mae jyst yn teimlo fel y moral panic yma sy’n teimlo fel ailadroddiad o sut oedd pobl yn trafod hawliau hoyw yn yr wythdegau.
“Dwi meddwl mai be' mae'r holl panic am bobl traws yn dod yn ôl at mewn gwirionedd yw casineb ac ofn o bethe sy'n mynd yn erbyn be' maen nhw 'di cael eu dysgu sy’n normal.”
'Dinistrio'r atgof' o Nansi Richards
Mae Cerys wedi ei chyhuddo hefyd o beidio parchu traddodiad Nansi Richards, y delynores o Faldwyn a ystyrir fel achubwr y delyn deires a’r un sy’n gyfrifol am gadw’r traddodiad yn fyw.
Ei chysylltiad gyda’r gymuned Romani yng Nghymru a ysbrydolodd Nansi Richards i chwarae’r delyn deires, a dysgu ganddyn nhw.
Oni bai am hyn credir y byddai traddodiad yr offeryn a’r alawon oedd yn gysylltieidg â hi wedi diflannu.
“Un o’r pethau oedd mod i’n dinistrio yr atgof ohoni hi achos o'n i’n chwarae yn wahanol i sut oedd hi'n chwarae,” meddai Cerys.
“Ond dwi wedi dysgu cwpl o bethe amdani hi – oedd hi mewn cross dressing all-female comedy troop am sbel, yn ôl Wikipedia, felly dwi meddwl oedd 'na lot mwy iddi hi, ac oedd hi ella’n fwy o hwyl na mae pobl weithiau’n 'neud allan.
"A dwi hefyd yn adnabod Llio Rhydderch wnaeth yn amlwg gael ei dysgu gan Nansi.
"Mae hi'n teimlo’n gryf iawn dros ddatblygu neu mynegi chi'ch hunan trwy gerddoriaeth a gwneud yr amrywiadau o’r alawon gwerin ond mewn ffordd sy’n bersonol i chi
“Mae hi'n dweud mai dyna be wnaeth Nansi ddysgu iddi hi.”
Eironi
“Mae’n eironig bod y bobl sy’n clodfori Nansi Richards gymaint yn ofni dylanwadau allanol rŵan. Achos yr unig reswm mae’r deires yn dal i gael ei chwarae ydi’r dylanwad allanol wnaeth wedyn droi mewn i ddylanwad mewnol wedyn, wrth gwrs, wrth i’r Romani ddod yn rhan hollbwysig o ddiwylliant Cymru.”
Ond mae Cerys yn cytuno gydag un o bryderon ei beirniaid, sef pwy fydd yma i barhau’r traddodiad gwerin mewn cenedlaethau i ddod?
Buddsoddi yn y dyfodol
Mae hi'n poeni am y diffyg addysg gerddorol yn y gyfundrefn addysg, y diffyg cyfle i bobl ifanc ddysgu chwarae offeryn a'r ffaith fod telynau teires yn "amhosibl" i gael gafael arnyn nhw heb sôn am fod yn ddrud. Fydd unrhyw un yn chwarae cerddoriaeth werin o gwbl ?
“Dwi ddim yn meddwl bod 'na bwynt i gwyno am 'sut' maen nhw’n gwneud cerddoriaeth werin; dwi’n meddwl mae’n ddilys i boeni am 'os' ydyn nhw'n gwneud ac os ydyn nhw’n cael y cyfle i wneud hynna.
“Ond i wedyn mynd a dweud 'na, 'da chi'n neud hi yn y ffordd anghywir', dwi ddim yn gweld sut mae hynna'n mynd i helpu unrhyw beth; heblaw am wneud i bobl fynd 'wel 'nai jyst mynd i wneud rhywbeth arall te'.
“Achos mae cerddoriaeth yn ffordd o fynegi eich hunan; mae’n rhywbeth creadigol ac mae cerddoriaeth werin yn rhywbeth sydd i fod i berthyn i’r bobl”
“Mae'n wych bod 'na bobl sy'n edrych ar y llawysgrifau ac yn recordio stwff fel y byse fe wedi swnio' - mae’r gwaith yna’n bwysig iawn.
"Ond dwi'n meddwl bod plant yn eu harddegau eisiau mwynhau efo’u ffrindiau ac eisiau mynegi eu hunain ac os ydyn nhw'n dewis gwneud hynna efo ffidil ond mewn ffordd sy’n cymryd ysbrydoliaeth gan Daft Punk a turbo folk, mae hynna'n grêt.”
Gallwch wrando ar y sgwrs lawn gyda Cerys, yn trafod ei magwraeth, ei theulu a'i cherddoriaeth ar Beti a'i Phobol ar BBC Sounds.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd4 Awst 2015
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022