Ymgyrch chwilio wedi i berson gael ei ysgubo i'r môr

  • Cyhoeddwyd
Gwylwyr y Glannau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu wedi gofyn i bobl gadw draw o ardal Bae Trearddur tra bod y chwilio'n mynd yn ei flaen

Bu Gwylwyr y Glannau yn chwilio yn ardal Bae Trearddur, Ynys Môn, ar ôl adroddiadau bod person wedi ei ysgubo i'r môr mewn digwyddiad ddydd Sadwrn.

Roedd hofrennydd a badau achub yr RNLI yn rhan o'r chwilio, a ailddechreuodd yn gynnar ddydd Sul, cyn dod i ben tua 16:00 gyda neb wedi eu canfod.

Roedd Gwylwyr y Glannau Caergybi, Moelfre a Rhosneigr hefyd yn rhan o'r ymgyrch ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd Andy Hodgson o orsaf bad achub Bae Trearddur: "Cawsom ni ein galw ddoe am 19:05 i adroddiadau bod rhywun wedi cael ei ysgubo o'r creigiau tra'n pysgota.

"Gwnaeth criwiau o'n dau fad achub chwilio tan ganol nos, gan ail ddechrau'r chwilio eto ar doriad y wawr, tua 05:30."

Dydd Sadwrn dywedodd yr heddlu fod "digwyddiad heddlu difrifol yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd" yn Raven's Point ym Mae Trearddur.

"Rydym yn gofyn yn gwrtais i aelodau o'r cyhoedd i adael / beidio dod i'r ardal oherwydd mae eu presenoldeb yn amharu ar y gweithredu yno," ychwanegodd y llu.