Sedd flaen ym mhafiliwn yr Eisteddfod ers 1977

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ann Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Jones o Bwllheli wedi bod yn mynychu'r Eisteddfod yn ddi-dor ers dros 40 o flynyddoedd

Wrth gerdded drwy dref Pwllheli gwta wythnos cyn i'r brifwyl ymweld â'r ardal, prin y gallai Ann Jones symud bum cam cyn i rywun ei chyfarch wrth fynd heibio.

Mae pawb yno'n adnabod Ann Jones, sy'n byw ynghanol y dref ac yn 84 mlwydd oed. Mae hi'n un o'r bobl brin sydd wedi mynychu pob Eisteddfod Genedlaethol ers diwedd y 1970au yn ddi-dor.

Nid yn unig mae Ann wedi bod ym mhob Eisteddfod ers dros 40 mlynedd, ond mae hi'n enwog am eistedd yn rhes flaen y pafiliwn o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r cystadlu.

Mae eleni yn teimlo'n wahanol; does dim rhaid trefnu llety fisoedd ymlaen llaw, na chwaith drefnu cludiant i rywle filltiroedd i ffwrdd, gan fod yr Eisteddfod ddim ond bedair milltir o'i chartref.

Ei chalon ym Mhen Llŷn

Mae Ann yn cael ei hadnabod yn lleol fel Ann Dwynant, gan mai dyna oedd enw ei chartref nes iddi golli ei gŵr, Twm 'Dwynant' nôl yn 2010.

Wedi ei magu ym Motwnnog a gweithio drwy ei hoes mewn siopau gwahanol ym Mhwllheli, dyw Ann erioed wedi gadael Pen Llŷn, ardal sy'n golygu cymaint iddi. Erbyn hyn, mae'n gwirfoddoli chwe diwrnod o'r wythnos yn siop elusen Hosbis yn y Cartref ym Mhwllheli ac mae'n mynd i'r capel bob dydd Sul.

Mae'r Eisteddfod yn uchafbwynt ei blwyddyn, felly mae'r cyfuniad o'r brifwyl yn Llŷn yn ogystal â'i gwreiddiau yn gyfuniad perffaith iddi.

Ffynhonnell y llun, Ann Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ganwyd Ann ym 1939 ac fe'i magwyd ym mhentref Botwnnog

Dymuniad ei gŵr, Twm 'Dwynant'

Mae'n anodd gan Ann gredu bod cymaint o flynyddoedd wedi mynd heibio ers yr Eisteddfod gyntaf iddi fynd iddi yn Wrecsam yn 1977.

Yn ddi-ffael ers hynny byddai Ann a'i gŵr Twm yn eistedd yn rhes flaen y pafiliwn drwy'r dydd, yn cymharu nodiadau am gystadleuwyr ac yn dweud eu dweud wrth ei gilydd am bwy oedd yn haeddu dod yn fuddugol.

Ers 2010, mae sedd wag wrth ochr Ann yn dilyn marwolaeth Twm, ond dymuniad ei gŵr oedd y byddai Ann yn parhau i fynychu'r Eisteddfod hebddo.

Meddai Ann: "Un o'r pethau diwethaf ddwedodd Twm wrtha' i cyn iddo farw oedd, 'Paid â stopio gwneud be oedden ni'n fwynhau ei neud efo'n gilydd ar ôl i mi fynd."

Atgofion

Dyna wnaeth Ann ac er nad ydi hi'n gallu gyrru car, mae hi wastad yn dod o hyd i ffyrdd o gyrraedd maes yr Eisteddfod bob blwyddyn, ble bynnag y lleoliad.

Gwely a brecwast lleol yw ei dewis o ran llety. Does dim awydd ganddi aros mewn carafán.

"Fe wnaethon ni aros mewn carafán unwaith yn 1999 ar gyfer Eisteddfod Ynys Môn yn Llanbedrgoch. Naethon ni fyth wedyn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann i'w gweld yn aml yn seremoniau'r Eisteddfod yn eistedd yn y rhes flaen. Dyma hi ar y chwith i'r osgordd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

"Mae 'na bobl wedi bod yn dda hefo fi dros y blynyddoedd yn mynd â fi efo nhw yn y car, weithiau fydda i'n dal trên fel yng Nghaerdydd yn 2018, ac yn dechrau cynllunio am lety blwyddyn o flaen llaw."

O ran trefn y dydd, mae Ann yn cyrraedd y Maes am naw y bore gyda phecyn bwyd, cael paned ym mhabell Merched y Wawr cyn gadael i dreulio'r dydd yn y pafiliwn.

Fydd hi ond yn symud i fynd am dro yn ystod toriadau ar y llwyfan.

Mae ganddi gymaint o atgofion; o bafiliynau gwahanol i stormydd yn bygwth dod â'r cystadlu i ben fel yn Eisteddfod Tŷ Ddewi yn 2002 ac Ynys Môn yn 2017.

Yno i goroni beirdd Llŷn

Does dim syndod mai rhai o'i huchafbwyntiau yw bod yn y pafiliwn a gweld pobl o Lŷn yn codi ar eu traed. Guto Dafydd yn Llanrwst yn 2019 ac Esyllt Maelor yn Nhregaron y llynedd yw'r ddau sy'n dod i'w chof yn syth.

"Roedd gweld y ddau a hwythau o Ben Llŷn yn arbennig iawn. Dwi'n cofio Esyllt yn cerdded i lawr gyda'r osgor, ac fe afaelodd yn fy mraich wrth gerdded heibio tuag at y llwyfan.

"Roedd o'n deimlad braf iddi hi gael gweld wyneb cyfarwydd ar y llwybr lawr i gael ei choroni."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael gweld Esyllt Maelor yn cael ei choroni y llynedd yn Nhregaron yn un o uchafbwyntiau Eisteddfodol Ann

Un cyfraniad arbennig arall mae Ann yn ei wneud i'r Eisteddfod yw noddi gwobrau ers 2005.

Mae Medal Goffa Twm Dwynant yn cael ei gyflwyno i arweinydd y côr ieuenctid buddugol, er cof am ei diweddar ŵr. Mae hefyd Medal Ann Dwynant yn cael ei roi i'r côr ieuenctid gorau yn flynyddol.

Pob Eisteddfod yn arbennig

I Ann, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi pleser mawr iddi, o'r cyfle i gyfarfod hen ffrindiau a gwneud rhai newydd bob blwyddyn, i werthfawrogi'r gefnogaeth a chyfeillgarwch ddangosodd rai o staff yr Eisteddfod a'r gwirfoddolwyr tuag ati ar ôl iddi golli ei gŵr.

Er bod y brifwyl eleni ar ei stepen drws, mae Ann yn grediniol y dylai'r Eisteddfod barhau i deithio'n flynyddol a does ganddi yr un "hoff Eisteddfod":

"Mae'n amhosib dewis un hoff Eisteddfod," meddai.

"Mae pob un yn arbennig am wahanol resymau, a mi fydda i wrth fy modd yn cael ymweld â gwahanol leoliadau o amgylch Cymru."

Gydag Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd eleni y 45fed prifwyl iddi ymweld â hi'n ddi-dor, does gan Ann "ddim bwriad o arafu i lawr". Ar ôl wythnos ym Moduan, bydd hi'n dechrau ei threfniadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.