Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd: 'Pob dim yn dod at ei gilydd'
- Cyhoeddwyd
Gyda phythefnos i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd mae'r cyffro'n amlwg, gydag un o'r trefnwyr yn dweud bod "pob dim yn dod at ei gilydd".
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain fod staff wedi gwneud "gwaith anhygoel" wrth i docynnau Maes B werthu'n gynt nag erioed o'r blaen, a thros fil 1,200 o safleoedd wedi eu bwcio ar y maes carafanau.
Ond gyda thrafod ar y cyfryngau cymdeithasol am bynciau fel rheol iaith yr Eisteddfod yn troi'n hyll ar adegau, mae un hanesydd yn teimlo bod sefydliadau Cymreig wedi cael eu llusgo i mewn i'r "rhyfeloedd diwylliant" erbyn hyn.
Ac mae un o gynghorwyr yr ardal wedi cwestiynu a yw'r hollti barn hwnnw mewn gwirionedd wedi gwneud niwed i'r Eisteddfod ac i'r Gymraeg.
Ar raglen Newyddion nos Wener dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, bod rhaid bod yn barchus wrth drafod a sicrhau bod y Gymraeg yn gynhwysol.
'Culture wars wedi cyrraedd'
Gyda'r Brifwyl ddechrau Awst yn prysur agosáu, mae Michael Strain eisoes yn teimlo'r cyffro.
"Mae 'di bod yn bedair blynedd reit hir, mae 'na lot o waith yn mynd i mewn i drefnu Steddfod," meddai.
"Mae 'di bod yn agoriad llygad i mi i fod yn rhan o rywbeth felly, a dwi jyst yn rhyfeddu sut mae pob dim yn dod at ei gilydd.
"Mae 'na bobl yn gweithio'n wrifoddol, yn dawel, yn ddygn, diwyd, mae 'na staff proffesiynol y Steddfod yn gwneud gwaith anhygoel i ddod â'r ŵyl at ei gilydd, a dwi'n siŵr y bydd hi'n chwip o wythnos yma ym Mhen Llŷn."
Ond, yn ystod y misoedd diwethaf, mae trafod cyhoeddus tanllyd wedi bwrw cysgod dros y paratodau - arwydd, yn ôl un academydd, fod 'rhyfeloedd diwylliant' wedi cyrraedd byd y Cymry Cymraeg.
O ddyfodol y cystadlaethau torfol i'r rheol iaith mae'r dadlau ar-lein, ar adegau, wedi troi'n gas, gyda Betsan Moses eisoes wedi dweud fod rhai pobl wedi bod yn "haerllug ac yn bersonol iawn".
"Faswn i'n deud fod y culture wars wedi cyrraedd y sîn Gymraeg," meddai Dr Mari Wiliam, darlithydd Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, eglurodd fod y term yn cyfeirio at bynciau lle mae anghytuno a phegynnu barn mewn gwerthoedd cymdeithasol.
"'Dan ni wedi ei weld o yng nghyswllt Trump yn America, ac yng nghyswllt selebs yma ym Mhrydain," meddai.
Mae'r farn am Boris Johnson, Brexit a newid hinsawdd hefyd, meddai, yn enghreifftiau o bynciau sy'n hollti barn aruthrol ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Faswn i'n dadlau fod yr hyn 'dan ni'n ei weld efo'r Eisteddfod a Sage Todz ac yn y blaen yn ymestyniad o hynny," ychwanegodd.
'Cyfryngau cymdeithasol wedi newid pethau'
Nid yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig sydd wedi cael blas o'r pegynnu barn hwnnw eleni chwaith.
Mae eisteddfodau Llangollen a'r Urdd hefyd wedi cael eu llusgo i mewn wrth i bynciau dadleuol gorddi'r dyfroedd.
Yn ôl Dr Mari Wiliam, er fod yna elfen "faleisus" ar adegau i'r cyfnewid sylwadau ar-lein, mae hi'n credu fod yna le i gael trafodaeth gyhoeddus am y pynciau sydd wedi codi yn ddiweddar.
"Faswn i'n dweud fod yna elfen eitha iachus fod y trafodaethau yma, sy'n digwydd am ddiwylliant yng Nghymru a thrwy'r Gymraeg," meddai.
Mae'r darlithydd o Lansannan yn dweud fod yna elfen o 'ryfeloedd diwylliannol' wedi bodoli erioed o fewn cymunedau'r Cymry Cymraeg.
"Oedd 'na drafodaethau helaeth iawn yn ystod yr 20fed Ganrif," meddai gan roi engreifftiau o lythyrwyr fel Saunders Lewis a Bobi Jones.
"Roedd y cyfathrebu yna yn gallu bod yn danllyd, ond doedd o ddim o reidrwydd yn eithafol nac yn or-bersonol."
Petai Saunders Lewis yn fyw heddiw, mae Dr Wiliam yn credu y byddai wedi bod wrth ei fodd yn lleisio barn am bynciau eisteddfodol.
"Fo fasa un o'r bobl 'na fydda ar y cyfryngau cymdeithsol bob dydd yn dweud rhywbeth neu gilydd!" meddai dan chwerthin.
Ond mae'n dweud fod y platfformau cymdeithasol wedi trawsnewid y ffordd mae pobl yn mynegi barn.
"Fedrwn ni gyd chwipio'n ffonau o'n poced, ac ella o fewn pump eiliad 'dan ni wedi rhoi rhywbeth poenus i rywun arall neu wedi mynegi barn eithafol ac ella yn difaru hynny wedyn," meddai.
"Weithiau mae 'na trend yn datblygu lle 'dach chi'n meddwl 'dwi angen sgwennu rwbath am hyn', er falle does ganddoch chi ddim y dyfnder gwybodaeth am y pwnc."
Ffrae rheol iaith
Dros yr wythnosau diwethaf mae nifer wedi sôn am eu siom fod y drafodaeth ar blatfformau cymdeithasol ynglŷn â rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol wedi troi'n annifyr ar adegau.
Gyda'r Brifwyl eleni yng Ngwynedd mae cynghorwyr bellach wedi ymuno yn y sgwrs, gan ddatgan eu bod yn bleidiol i'r rheol Gymraeg ond wedi eu siomi o "weld tôn y drafodaeth".
"Mae artistiaid fel Sage Todz, Eädyth, Izzy Rabey a Dionne Bennett yn artistiaid poblogaidd ac yn mynd â'r Gymraeg a Chymreictod i glustiau cynulleidfa newydd ac yn llysgenhadon arbennig," meddai'r cynghorydd Beca Brown, sy'n gyfrifol am bortffolio addysg Cyngor Gwynedd.
Gydag adroddiadau bod rhai o'r artistiaid hynny wedi derbyn negeseuon a sylwadau hiliol yn dilyn y sylw gafodd y pwnc, mae Beca Brown yn teimlo y gallai hynny fod wedi gwneud niwed i'r Eisteddfod ac i'r Gymraeg.
"Mae sylwadau'n gallu brifo, a beth oeddwn i'n deimlo oedd bod y drafodaeth 'ma ar y cyfryngau cymdeithasol wedi gweithredu fel ffenest siop nid yn unig i'r Eisteddfod ond hefyd i'r iaith Gymraeg ac i Gymreictod," meddai.
"Taswn i'n berson oedd yn hwyrach yn meddwl dod i'r Steddfod am y tro cynta', meddwl gyrru 'mhlentyn i ysgol Gymraeg, ac yn gweld y drafodaeth yna, ydy hwnna'n denu pobl at y Gymraeg, at yr Eisteddfod, at Gymreictod?
"Dwi'm yn gwybod os ydy o 'de.
"Tra nad ydym am weld llacio'r rheol Gymraeg ar y maes, rydym yn cefnogi trafodaethau parchus a syniadau newydd gan ystod o bobl, fel bod yr Eisteddfod yn parhau i fod yn ŵyl gyfoes, groesawgar ac eang ei hapêl."
'Trafodaeth nid clickbait'
Mae Dr Mari Wiliam yn dweud fod y berthynas rhwng y cyfryngau a sefydliadau yn gallu bod yn "broblematig", os ydy'r stori yn "anesmwyth" i'r mudiad hwnnw.
"Ond rŵan, dwi'n meddwl ella ei bod hi wedi mynd yn rhy hawdd i [fudiadau] ddeud 'clickbait' ac yn y blaen," meddai.
"Tra actually yn aml, mae'r cyfryngau yn datgelu straeon sydd yn bwysig cael trafodaeth agored amdanyn nhw."
Yn ôl Dr Wiliam, weithiau mae'r cyfryngau prif ffrwd yn "gwneud ffafr" gyda chymdeithas drwy adlewyrchu profiadau bywyd.
"Hyd yn oed os ydy o'n clickbait a fod rhywun yn adrodd ar be' sydd yn y cyfryngau cymdeithasol, mae hynny yn rhan bwysig o fywyd bob dydd a phrofiade bob dydd pobl," meddai.
'Lot o negyddiaeth'
Wrth gael ei holi ar raglen Newyddion S4C fe ddywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses: "Mae gan bobol farn, ac mae'n rhaid bod yn barchus wrth i ni drafod, a sicrhau bod y Gymraeg yn gynhwysol.
"Dwi'n credu bod lot o negyddiaeth wedi bod dros y misoedd diwetha. Dwi'n mynd i ddweud ry'ch chi'n rhannol gyfrifol (Newyddion S4C)... mae straeon yn cael eu creu... mae trydariad yn cael ei gymryd ac mae'n brif stori..."
Fe gafodd ei hatgoffa gan y cyflwynydd Rhodri Llywelyn nad Newyddion S4C oedd wedi dweud mewn adroddiadau bod Sage Todz wedi ei wahardd rhag perfformio, ond honnodd mai "chi fel endid oedd wedi 'neud e, ac roedd pawb o fewn y Gorfforaeth yn ymwybodol ei fod yn un o'r bobl oedd yn cyflwyno rhaglenni'r Eisteddfod - felly doedd 'na ddim gwaharddiad o gwbwl".
Ychwanegodd Ms Moses ei bod wedi cael negesuon atgas a'i bod wedi dweud wrth staff i ddod oddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dadansoddiad Elen Wyn, gohebydd Newyddion S4C, ar ddyfodiad y 'culture wars' i fyd yr Eisteddfodau
Beth sy'n gyffredin rhwng y tywydd poeth diweddar â'r Steddfod Genedlaethol? Fawr ddim mae'n siŵr, heb law fod nifer o Eisteddfodwyr yn gweddio am haul ym Moduan ymhen pythefnos! Ond, mae yna gysylltiad...
Yn ddiweddar, er enghraifft, mae rhai o gyflwynwyr tywydd Prydain wedi cael eu tynnu i fewn yn annisgwyl i ryfel diwylliant am newid hinsawdd. Mae rhai wedi rhannu eu profiadau ar ôl i sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol droi'n gas wrth i ddarlledwyr gael eu cyhuddo o orliwio rhybuddion am dywydd eithafol.
Mae staff yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd wedi sôn am "gyfnod anodd" diweddar ar ôl i ddadleuon o blaid ac yn erbyn y rheol iaith gael cryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, a phobl wedi bod yn "haerllug ac yn bersonol iawn" yn ôl y prif-weithredwr.
Tydi'r Eisteddfod Genedlaethol ddim yn unigryw yn hyn o beth, - mae sefydliadau diwylliannol eraill Cymru hefyd wedi cael ei llusgo i mewn i ganol y culture wars wrth i bynciau dadleuol godi stormydd.
Mi ddaeth tymhestl cynta'r flwyddyn yng nghanol mis Mawrth, wrth i gynlluniau Eisteddfod Llangollen i newid yr arwyddair gynhyrfu'r dyfroedd.
Ddiwedd Mawrth mi godwyd terfysg arall, wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol gyhoedddi newidiadau i'r cystadlaethau torfol, cyn i gymeriadau newydd prif seremonïau Eisteddfod yr Urdd achosi corwynt ddiwedd Mai.
Ond y ddrycin ddiweddara, a'r un ffyrnicaf ar y platfformau digidol oedd pan gyhoeddodd y rapiwr Sage Todz na fyddai'n perfformio yn y Genedlaethol eleni oherwydd y defnydd o'r Saesneg yn ei ganeuon.
Does na'm anheuaeth fod yma bynciau trafod teilwng ond pan fo'r sgwrs yn troi'n annifyr mae pobol o'r ddwy ochr yn cael eu brifo.
Galwad Llywydd Llys yr Eisteddfod oedd i bobl fod "yn barchus i'n gilydd" mewn trafodaethau eisteddfodol.
Mi fydd y mwyafrif yn cytuno, a gawn ni weld be ddaw. Mae'n sicr bod llawer mwy o drafod i ddod yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Mae yna felin wynt anferth yn edrych dros faes yr Eisteddfod eleni ac mi dybiwn i mi fydd sawl melin drafod hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023