Adran Dau: Wrecsam 3-5 Milton Keynes Dons
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Wrecsam yn eu gêm gyntaf yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr ers 15 mlynedd.
Wedi disgyn i'r Gyngres yn 2008 ond bellach yn chwarae ym mhedwaredd haen cynghreiriau proffesiynol Lloegr, roedd hi'n ddiwrnod mawr yn y ddinas wrth groesawu MK Dons.
Daeth y clwb dan berchnogaeth y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn 2020.
Ond gyda un arall o sêr y sgrîn fawr, Hugh Jackman, yn eistedd gyda'r perchnogion, roedd 'na ddisgwyliadau mawr ar y Cae Ras.
Perfformiad siomedig a gafon nhw, serch hynny, gyda Wrecsam yn wynebu'r safon uwch heb eu prif sgoriwr y tymor diwethaf, Paul Mullin, a dderbyniodd anaf drwg yn ystod taith y clwb i'r Unol Daleithiau dros yr haf.
Roedd hi'n ddechrau trychinebus i'r Dreigiau wrth i'r ymwelwyr sgorio ddwywaith yn y deng munud agoriadol.
Daeth y cyntaf wrth i Eohgan O'Connell benio'r bêl i'w rwyd ei hun cyn i Mohamed Eisa ddyblu mantais y Dons.
Wedi 42 munud fe hanerwyd mantais yr ymwelwyr wrth i Jacob Mendy roi gobaith i'r cefnogwyr cartref.
Ond yn benderfynol i sbwylio parti Wrecsam, sgoriodd Jonathan Leko wedi 51 munud cyn rhwydo eto 13 munud yn ddiweddarach i selio'r fuddugoliaeth.
Daeth gôl gysur i'r Dreigiau diolch i ergyd wych Jordan Davies wedi 82 munud.
Ond nid hynny oedd diwedd y sgorio wrth i Daniel Harvie rwydo i'r ymwelwyr wedi 93 munud cyn i gôl hyd yn oed hwyrach gan Anthony Forde barchuso'r sgôr rhywfaint.
Ond y Dons a adawodd y Cae Ras hapusaf wrth ddychwelyd i Swydd Buckingham gyda'r pwyntiau llawn.