'Angen mwy o ymchwil' am redeg tra'n feichiog
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr yn dweud bod angen gwneud mwy i ddeall sut mae'r corff yn ymateb i redeg wrth ddisgwyl babi.
"Yn anffodus dy'n ni ddim yn gwybod lot am fenywod sy'n rhedeg tra'n disgwyl," meddai Dr Izzy Moore, sy'n arwain astudiaeth i'r mater.
Mae ei thîm ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn bwriadu edrych ar ddata 30 o fenywod er mwyn cynnig gwell cyngor am ymarfer corff yn y dyfodol.
"Mae rhedeg mor hir ag sy'n bosib yn y beichiogrwydd yn bwysig iawn oherwydd mae 'na gymaint o fanteision i'r fam a'r babi," meddai Dr Moore.
Mae nifer o famau sy'n rhedeg wedi croesawu'r ymchwil, gan ddweud fod parhau i hyfforddi'n ddiogel yn ystod y beichiogrwydd yn gymorth iddyn nhw yn "gorfforol ac yn feddyliol".
'Dod i 'nabod dy gorff pan ti'n rhedeg'
I Elliw Haf, sy'n 35 oed ac o Wynedd, roedd rhedeg yn help i'r corff a'r meddwl tra roedd hi'n disgwyl babi.
"Pryd wyt ti'n disgwyl, mae pob dim allan o dy reolaeth di," meddai'r fam i ddau.
Mae'r athrawes wedi bod yn rhedeg ers blynyddoedd, gan gynrychioli Cymru, ac mae'n dweud bod yr ymarfer yn rhan o'i hunaniaeth.
Wrth ddisgwyl Mabon, ei babi cyntaf sydd bellach yn dair oed, roedd Elliw â phwys arni yn y boreau. Roedd ymarfer corff yn helpu hynny, meddai.
"O'n i'n mynd am run cyn gwaith ac o'n i'n teimlo'n well."
Un person oedd wedi cefnogi Elliw i redeg yn ystod ei beichiogrwydd oedd ei bydwraig "gefnogol ond gofalgar".
Roedd eraill, meddai, wedi ysgogi amheuaeth gan gwestiynu ei phenderfyniad i redeg.
"O'n i'n ddigon parod i stopio os o'dd fy nghorff yn d'eud wrtha i stopio," dywedodd.
Wrth ddisgwyl ei ail blentyn, Idris, sy'n bum wythnos oed, roedd rhedeg yn anoddach i Elliw yn y dyddiau cynnar wrth i'w chorff ymateb yn wahanol.
"Ti yn dod i 'nabod dy gorff pan ti'n rhedeg. Ti'n adnabod dy gorff yn ofnadwy o dda," dywedodd.
Fe ailgydiodd Elliw yn ei harferion rhedeg wythnosau ar ôl iddi eni ei babanod o ganlyniad i "wrando" ar ei chorff, meddai.
"Nes i ddisgwyl tan o'dd fy nghorff i'n dweud 'ti'n barod' ac o'dd hynna ar ôl tua thair wythnos."
'Rhwystrau mawr yn bodoli'
"Ry'n ni'n gwybod bod nifer o rwystrau yn bodoli i fenywod wrth iddyn nhw ymarfer corff tra'n disgwyl babi, neu ar ôl yr enedigaeth. Pethau fel amser, ofn, gôr bryder," meddai Dr Izzy Moore.
"Ond mae ein hymchwil wedi dangos taw un o'r rhwystrau mwyaf ydy gwybod sut mae ailddechrau hyfforddi ar ôl cael y babi."
Y nod, felly, i'r tîm yn y brifddinas ydy cynnig tystiolaeth o'r newydd fyddai'n gallu bod yn sail i ganllawiau a chyngor yn y dyfodol.
"Mae rhedeg yn ffordd dda o wneud hynny oherwydd bod 'na gymaint o redeg mewn ymarferion eraill," meddai Dr Moore.
I Gemma Louise Rous, un o'r menywod sy'n rhan o'r ymchwil, tystiolaeth ydy'r peth hollbwysig.
"Nes i dipyn o ymchwil tra'n disgwyl ond doedd 'na ddim llawer o gyngor," meddai'r fam i ddau.
"Ges i'r cyngor i barhau gyda'r hyn oedd yn 'arferol' i fi tra fy mod i'n teimlo'n iawn."
Er hynny, mae Gemma yn dweud bod nifer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi gwneud "sylwadau rhyfedd" ynglŷn â'r ffaith ei bod yn seiclo i'w hapwyntiadau.
Fe benderfynodd Gemma herio rhai o'r sylwadau oherwydd bod 'na "ddiffyg tystiolaeth" i gefnogi'r amheuon.
Mae Rebecca Williams, 37 oed, yn hyfforddwraig bersonol yn y Barri sy'n rhedeg grŵp Bygi Heini i famau.
"Dylai 'na fod fwy o ymchwil," meddai'r fam i ddwy.
Nod sesiynau Bygi Heini, meddai Rebecca, ydy cynorthwyo'r mamau i hyfforddi'n ddiogel ond hefyd i fagu hyder.
"Dwi o hyd yn annog iddyn nhw 'neud beth sy'n teimlo'n iawn iddyn nhw," meddai.
Pŵer y grŵp, meddai Rebecca, ydy'r gallu i "rannu profiadau" wedi cyfnod, fel mam newydd, sy'n "gallu bod yn eithaf unig".
"Paid â chymharu dy hun, fyddai un o'n negeseuon i. Ma' 'na gymaint o bethau gwahanol sy'n gallu mynd 'mlaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2023
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2022