Gwirfoddoli am 40 mlynedd mewn 'Congl bach o'r nefoedd'
- Cyhoeddwyd
Mewn poced fach ar ochr de-orllewin arfordir Pen Llŷn mae pentref Rhiw.
Gyda golygfeydd lawr tuag at Ynys Enlli a Phorth Nigwl, mae'n leoliad poblogaidd iawn gyda ymwelwyr, gyda'r mwyafrif o'r eiddo yno bellach yn dai haf.
Un sydd wedi byw yno gydol ei oes yw Emlyn Jones, ffermwr wrth ei waith pob dydd a gwirfoddolwr ers canol yr 80au yn un o drysorau'r ardal.
Dyma hanes un o drigolion Rhiw, sydd wedi treulio ei fywyd yn ei filltir sgwar ac yn rhannu ei atgofion o un o ryfeddodau'r ardal.
Tyfodd Emlyn i fyny yn y 1950au mewn ardal cwbl Gymreig, ble roedd ei rieni yn ffermio'r tir arfordirol sy'n edrych dros Fae Aberdaron.
Yn 12 oed cafodd gynnig i ymweld â Phlas yn Rhiw. Pryd hynny roedd y plasty mawr yn cael ei ystyried yn rhywle cwbl breifat, nes i'r perchnogion ar y pryd wahodd Emlyn a'i frodyr i lawr am dê prynhawn.
Y chwiorydd Keating oedd berchen y plasty bryd hynny.
Mae Plas yn Rhiw yn dŷ sy'n dyddio nôl i'r 17eg ganrif. John Lewis oedd yn byw yn yr adeilad yr adeg hynny. Roedd ei deulu yn olrhain o Frenin Powys yn y nawfed ganrif ac roedd y teulu wedi bod yn y Rhiw ers cyfnod y Tuduriaid.
Tair chwaer ddibriod oedd Eileen, Lorna a Honora, o Nottingham yn wreiddiol, ac yn 1939 daethant hwy â'u mam Constance i fyw ym Mhlas yn Rhiw.
Bwriad y chwiorydd oedd rhoi cyfle i'r trigolion lleol gael cysylltiad gyda'r plasty. Ar ôl ei ymweliad cyntaf, roedd Emlyn wedi gwirioni gyda phopeth am y lle.
Mae'r plasty bellach yn nwylo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac ers canol yn 1980au, mae Emlyn wedi bod yn gwirfoddoli yno yn cyfarch ymwelwyr.
Calon ym Mhen Llŷn
Cafodd gyfnod hefyd weithiau o aros yn y plasty dros nos, yn enwedig mewn cyfnodau ble roedd ceidwad y plasty ar y pryd ar wyliau.
Does dim un wythnos wedi mynd heibio ers 1985 pan nad yw Emlyn heb fod yn cerdded y daith hanner milltir lawr o'i gartref yn Rhiw i'r plas.
"Y cof cyntaf sydd gen i fel plentyn pan o'n i tua 12 oed. Honor Keating, y ieuengaf o'r dair chwaer, ar y pryd roedd hi tua 70 oed, yn gwadd fi a fy mrodyr i lawr am de prynhawn.
"Cyn belled â bo fi yn y cwestiwn, dwi yma rŵan yn gwirfoddoli ers tua 38 o flynyddoedd," meddai Emlyn.
Ers 1981 mae'r plas wedi bod yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda dros 12,000 o ymwelwyr blynyddol.
Yn ôl Emlyn "Does 'na nunlla arall yr un fath a fo ym Mhen Llŷn.
"Fyddai yma'n gwadd a chroesawu pobl i'r tŷ a deud hanes y tŷ i ymwelwyr. I mi mae Plas yn Rhiw yn ofnadwy o bwysig yn bersonol.
"Y cysylltiad oedd gen i efo merched, er na Saeson oedden nhw, roedd eu calon nhw ym Mhen Llŷn," meddai.
Dros y blynyddoedd o fyw yn Rhiw, mae Emlyn wedi gweld newid enfawr yn nifer o'r tai sydd bellech yn cael eu defnyddio fel tai gwyliau.
"Pan o'n i'n blentyn yn y pentra yn y 50au, roedd 'na un neu ddau o dai efo mewnfudwyr yn byw ynddyn nhw, roedd pob tŷ arall yn y pentra yn dŷ hefo teulu Cymraeg efo rhan fwyaf o'r plant yn byw.
"Yn anffodus erbyn heddiw tydi hynny ddim yn gywir. Mae'r mwyafrif o'r tai yn dai haf neu hefo mewnfudwyr yn byw ynddyn nhw rownd y flwyddyn," meddai.
Congl bach o'r nefoedd
O ran Emlyn, mae ei wreiddiau'n parhau'n ddwfn iawn ym Mhen Llŷn, ac yn enwedig ym Mhlas yn Rhiw.
"Fe wnaeth rhywun ofyn i mi rhyw dro, be ydi'r teimlad sydd na wrth fod ym Mhlas yn Rhiw?
"Yr unig beth nes i ddeud oedd, os ydach chi yn Plas yn Rhiw ar ddiwrnod gwyllt yn y gaeaf, poeth yn yr haf fel heddiw, am rhyw eiliad bach, 'da chi'n cael y teimlad fod congl bach o'r nefoedd wedi twtchad y blaned, mae o mor arbennig a hynny," meddai.
Wrth i Emlyn edrych ymlaen at gyfnod prysur dros y gwyliau haf, mae hefyd yn edrych ymlaen at weld yr Eisteddfod ym Moduan, gan obeithio y gallai groesawu ambell i ymwelydd Eisteddfodol i Blas yn Rhiw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023