Pryder am ddyfodol Eisteddfod Môn heb gymorth cymunedau
- Cyhoeddwyd
Mae pryder y bydd Eisteddfod Môn yn wynebu cyfnod caled yn y 10 mlynedd nesaf oherwydd prinder ardaloedd i fod yn gyfrifol amdani.
Un o eisteddfodwyr mwyaf pybyr Môn - Ellis Wyn Roberts o Fodffordd - sy'n darogan hynny, mewn cyfweliad gyda'r Post Prynhawn.
Ers sefydlu Cymdeithas Eisteddfod Gadeiriol Môn yn 1906, bu'r ŵyl yn symud o gwmpas cymunedau'r ynys.
Cafodd ei chynnal yn ardal y Gaerwen y llynedd, ond eleni doedd dim un ardal wedi mynegi diddordeb i'w chynnal.
Felly penderfynodd Mr Roberts - sy'n un o lywyddion anrhydeddus Llys Eisteddfod Môn, ac yn enillydd medal goffa Syr T.H. Parry Williams - i ofalu amdani.
Mae ganddo gysylltiad â'r ŵyl ers dros 70 mlynedd - fel adroddwr, hyfforddwr ac fel ysgrifennydd yr eisteddfod fwy nag unwaith, gan gynnwys yn ystod ei chanmlwyddiant yn 2006.
'Cymdeithas wedi newid'
Er mwyn cynnal yr eisteddfod eleni mae wedi cael cymorth nifer o aelodau'r Mudiad Ffermwyr Ifanc lleol i fod yn ysgrifenyddion y gwahanol adrannau.
Ond mae Mr Roberts yn pryderu am ddyfodol yr eisteddfod yn y blynyddoedd sydd i ddod.
"Dwi'n gobeithio y cawn ni eisteddfod lwyddiannus - ond mae hi'n fwy anodd", meddai.
"Dwi yn deall bod yr eisteddfod yn mynd i Fro Alaw yn 2024 ac mae 'na ryw sôn y gall hi fynd i Landegfan yn 2025. Ond dwi ddim yn siŵr am wedyn - a dwi'n bryderus am hynny."
Mae'n cofio pan roedd 40 o eisteddfodau bach ar yr ynys - nifer ohonynt yn cael eu trefnu gan gapeli. Ond mae cymdeithas wedi newid wrth i gapeli gau, meddai, ac mae yna lai o wirfoddolwyr ar gael i drefnu eisteddfodau.
"Dwi ddim isio gweld Eisteddfod Môn - os ydy hi'n bosib - yn peidio â bod ond mae gen i ofn yn ystod y 10 mlynedd nesa' y byddwn ni'n wynebu cyfnod caled", meddai ar BBC Radio Cymru.
"Mae hi yn fwy anodd bellach. Mae hi wedi mynd yn anodd oherwydd does 'na ddim cymaint o bobl yn barod i 'neud... does 'na ddim cymaint o gorau, corau plant ac yn y blaen."
Roedd o hefyd yn cydnabod fod cost i gymunedau ynghlwm â threfnu Eisteddfod Môn - a bod arian yn fwy prin.
Ymgais i ddenu cystadleuwyr
Mae Mr Roberts hefyd o'r farn bod rhaid ystyried newid rhai cystadlaethau er mwyn ceisio denu cystadleuwyr o'r newydd - ac eleni mae tair cystadleuaeth yn gyfyngedig i Fôn yn y testunau yn ogystal â dwy ysgoloriaeth.
"Mae 'na ddwy ysgoloriaeth i bobl ifanc o dan 26 oed sydd yn werth £500 yr un", meddai. "Un yn yr adran gerdd a'r llall ar gyfer dwy fonolog yn yr adran llefaru.
"Ac ar ben y £500 mae 'na dlws er cof am Myrddin Jones [oedd yn cael ei adnabod fel Mei Jones] - sef Wali Thomas wrth gwrs - yn rhoddedig gan John Pierce Jones sef Arthur Picton."
"Wedi trio 'ngorau i wneud ydw i beth bynnag, a dwi'n gwybod y cai gefnogaeth dwi'n siŵr ar draws yr ynys."
Bydd eisteddfod eleni yn cael ei chynnal yn Ysgol Gyfun Llangefni ar 20 Mai 2023.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021