Eryri: Canfod corff wrth chwilio am gerddwr coll
- Cyhoeddwyd

Mae corff wedi ei ganfod yn ardal y Carneddau yn Eryri
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod corff dyn wedi cael ei ddarganfod gan dimau achub mynydd oedd yn chwilio am gerddwr coll.
Fe ddechreuwyd chwilio am Daniel Adams o dref Selby yn Sir Efrog ddydd Llun, a daethpwyd o hyd i gar y dyn 26 oed ym Methesda, Gwynedd.
Ddydd Mawrth daeth cadarnhad fod corff bellach wedi ei ganfod yn ardal y Carneddau yn Eryri, cyn iddo gael ei adnabod yn ffurfiol yn ddiweddarach.
Fe wnaeth yr heddlu hefyd diolch i'r asiantaethau, gwirfoddolwyr a'r cyhoedd a fu'n cynorthwyo gyda'r chwilio.