S4C 'ddim am ymddiheuro' am Saesneg ar y sianel

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
S4C
Disgrifiad o’r llun,

Yn ddiweddar mae S4C wedi denu beirniadaeth dros gynnydd yn y defnydd o Saesneg ar raglenni fel Pobol y Cwm

Mae S4C yn dweud na fyddan nhw'n "ymddiheuro" am gyflwyno peth Saesneg ar y sianel.

Mae'r sianel wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn cychwyn sgwrs a thrafodaeth ar y defnydd o Saesneg.

Yn ddiweddar fe gafodd S4C ei beirniadu am fod mwy o Saesneg yn ymddangos ar raglenni fel Pobol y Cwm.

Yn ôl Sara Peacock, arweinydd strategaeth Gymraeg S4C: "Mae yn bwysig i ni fod Cymru gyfan yn cael ei weld a'i chlywed ar S4C.

"Ry'n ni'n trio yn galed i sicrhau fod pob math o Gymraeg sydd yn cael ei siarad yn y wlad yn cael ei hadlewyrchu ar ein rhaglenni ni mewn un ffordd neu'r llall.

"Ry'n ni hefyd yn trio helpu ein cymunedau, gan annog pobl i ddysgu Cymraeg a mynd mas i siarad Cymraeg yn ein cymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sara Peacock fod pobl yn "defnyddio ambell air Saesneg weithie yn y Gymraeg a ma' hynny'n beth naturiol i 'neud"

Wrth drafod cywirdeb iaith fe ddywedodd Ms Peacock fod hynny yn "bwysig iawn, a bod y sianel bob tro yn trio'n galed i sicrhau fod sgriptiau wastad yn gywir".

Cynyddu hyder yn yr iaith yw un o amcanion y sgwrs, meddai.

"Os oes rhywun yn dod aton ni ac yn gwneud cyfweliad a dy'n nhw ddim efallai yn hyderus ac yn defnyddio 'chydig o Saesneg yn eu Cymraeg, mae hynny yn hollol fine.

"Mae'n bwysig i bobl glywed fod pobl ar y stryd neu yn y siop yn defnyddio ambell air Saesneg weithie yn y Gymraeg, a ma' hynny'n beth naturiol i 'neud."

Ond wrth ymateb i'r cwestiwn ynglŷn â sut mae cael y cydbwysedd yn iawn, a phwy sydd â'r gair olaf ar y mater wrth benderfynu faint o Saesneg sy'n dderbyniol, dywedodd fod "sgyrsiau Saesneg yn digwydd weithie mewn cyd-destun lle mae'n bwysig i'r rhaglen".

"Weithie mae'n bwysig i ni glywed ambell lais yn y Saesneg, ond sicrhau nad yw hynny'n ormodol sy'n bwysig, felly penderfyniad golygyddol yw e i sicrhau nad yw'r Saesneg yn cymryd drosodd."

'Adlewyrchu pob math o Gymraeg'

Yn ddiweddar mae cymeriad di-Gymraeg wedi ymddangos ar Pobol y Cwm, ac mae hynny wedi ei feirniadu gan rai.

"Ydy, mae wedi creu 'chydig bach o stŵr," meddai Ms Peacock.

"Y bwriad yw bod y cymeriad yma yn dysgu Cymraeg, felly bydd hi yn defnyddio mwy o'r Gymraeg yn y blynydde i ddod.

"Mae'n bwysig i weld sut y gallwn ni gefnogi'r dysgwyr yn ein plith, ac mae Pobol y Cwm yn lle da i 'neud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sianel yn mynnu nad yw ei chanllawiau iaith wedi newid ond bod "rhaid i ni ystyried bod yr iaith yn newid"

Eisoes mae cwestiynau wedi eu codi ynglŷn â phwysigrwydd cynnal y Gymraeg ar S4C, gan mai dyma'r unig sianel deledu Gymraeg.

Dywedodd Ms Peacock: "Mae'n rhaid cael cydbwysedd a chlywed pob math o Gymraeg sy' yn cael ei siarad.

"Weithie ma' rhai pobl - yng Nghaerdydd, er enghraifft - yn defnyddio lot o Saesneg yn eu hiaith, ond Cymraeg yw e.

"Mae'n ffurf naturiol o'r iaith. Ry'n ni am adlewyrchu pob math o Gymraeg ar S4C."

'Does 'na ddim amddiffyniad'

Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru dywedodd Ieuan Wyn o fudiad Cylch yr Iaith: "Does 'na ddim cyfiawnhad dros ddefnyddio Saesneg ar S4C. Does 'na ddim amddiffyniad.

"Mae'n amlwg y bod rhaid diogelu ein hunig sianel Gymraeg ni rhag dilyn strategaeth sy'n caniatáu'r defnydd o Saesneg.

"'Da ni'n sôn am gyfweliadau a defnyddio'r Saesneg fel eitemau, cymeriad mewn gweithiau creadigol ac yn y blaen."

Ychwanegodd: "Mae'r ddadl bod rhaid defnyddio'r Saesneg er mwyn yr hyn maen nhw'n ei alw'n 'realiti cymdeithasol', wel, nid yn unig bod o ddim yn rhesymegol, ond mae o'n beryglus.

"Os ydach chi'n seilio'r strategaeth ar hynny a'r Gymraeg yn dal i golli'r dydd yn gymunedol a chymunedau'n troi'n gynyddol ddwyieithog, yna pen draw hynny fyddai cynyddu'r defnydd o Saesneg i adlewyrchu hynny.

"Ymyriad y Saesneg, dyna'r bygythiad mwya' i'r Gymraeg. Mae rhaid i chi warchod cyfanrwydd diwylliannol a bywyd a'r diwylliant Cymraeg.

"Amddiffyn y Gymraeg ddylia S4C, hyrwyddo ei statws hi fel cyfrwng naturiol i bob agwedd ar ein bywyd ni fel Cymry Cymraeg. Hynny yw, gweld Cymru a'r byd trwy ffenest Gymraeg."

Hefyd yn siarad ar y rhaglen roedd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth cynnwys a chyhoeddi S4C.

Beirniaid ar dir moesol uwch?

Dywedodd: "Pan ry'n ni'n clywed rhywfaint o feirniadaeth ynglŷn â rhywfaint o Saesneg ar S4C ry'n ni'n awyddus iawn i gael sgwrs adeiladol gyda'r beirniaid yna, ac i drafod y ffordd ymlaen i ni fel sianel.

"Dwi'n credu bod hi'n bwysig wrth ddenu pobl at y Gymraeg ein bod ni'n croesawu unrhyw fath o Gymraeg, sdim ots beth yw'r safon.

"Un o'r pethe 'na ni'n clywed ar hyd y blynyddoedd yw 'dyw Nghymraeg i ddim digon da'. Wel 'dyn ni ddim eisie rhagor o hynny ar S4C ac er mwyn gwneud pobl i deimlo'n gartrefol ry'n ni moyn i nhw allu siarad y Gymraeg ma' nhw eisie siarad ar S4C.

Ychwanegodd: "Dwi'n credu bod ni'n synhwyro tamed bach fod y bobl sy'n barod iawn i feirniadu S4C fel 'se nhw'n teimlo bod nhw ar ryw dir moesol uwch na phobl S4C.

"Ma' rhan fwyaf o'r bobl dwi'n ymwybodol ohonyn nhw sy'n gweithio yn S4C wastad wedi gweithio i S4C a gweithio ar gynnyrch Cymraeg oherwydd dyna'u cyfraniad nhw i'r iaith.

"Ma' nhw ar dân dros yr iaith, ishe ei gweld hi'n ffynnu, ishe gweld y safon ore o raglenni'n cael eu cynhyrchu yn yr iaith Gymraeg.

"Dy' ni ymhell o fod yn elynion i'r iaith, beth ry'n ni'n anghytuno arno yw'r tactegau a'r ffordd ry'n ni'n mynd i ddenu pobol at y Gymraeg, a dwi ddim yn credu mai poeni am burdeb ieithyddol neu ddileu Saesneg ar y sianel yw'r frwydr dylen ni fod yn ei hymladd."

Dim newid i'r canllawiau

Mae'r sianel yn mynnu nad yw ei chanllawiau iaith wedi newid.

"Does dim byd wedi newid gyda ni," meddai Ms Peacock. "Dyw ein canllawiau ddim wedi newid o ran yr iaith.

"Ond mae'n rhaid i ni ystyried bod yr iaith yn newid ac mae yn rhaid i ni gadw lan gyda'r newid sy' yn digwydd o'n cwmpas.

"Mae adlewyrchu defnydd o'r iaith yn bwysig a dy'n ni ddim yn ymddiheuro am hynny er budd y Gymraeg."