Mark Drakeford ddim am sefyll i fod yn AS yn yr etholiad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Drakeford eisoes wedi dweud ei fod am roi'r gorau i fod yn Brif Weinidog

Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau na fydd yn sefyll i fod yn Aelod o Senedd Cymru yn yr etholiad nesaf.

Roedd Mark Drakeford wedi dweud yn 2020 ei fod am roi'r gorau i fod yn Brif Weinidog cyn diwedd tymor presennol y Senedd.

Ond mewn sesiwn cwestiwn ac ateb ar faes yr Eisteddfod ym Moduan, fe gadarnhaodd nad yw'n dyheu am yrfa wleidyddol ar y meinciau cefn.

"Dydw i ddim am fod yn Aelod o'r Senedd ar ôl 2026, ond dydw i chwaith ddim am gamu nôl o'r ddadl a pheidio â meddwl am ddyfodol Cymru," meddai Mr Drakeford.

Yn ymateb i gwestiwn gan y Llywydd Elin Jones, fe ddywedodd y Prif Weinidog y byddai hi'n "anodd i'r bobl fydd yn gwneud y gwaith yn y dyfodol i gael pobl fel fi yn eistedd y tu ôl iddyn nhw".

"Dwi ddim eisiau gwneud hynny".