Alison Cairns yn ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Alison Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddysgodd Alison Cairns yr iaith heb gael unrhyw wers ffurfiol

Mewn seremoni ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd fe gyhoeddwyd mai Alison Cairns o Ynys Môn yw enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Yr Albanes sydd bellach yn byw yn Llannerch-y-medd ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 40 eleni.

Fe gafodd 29 o unigolion eu cyfweld eleni - y nifer fwyaf erioed - ac roedd unigolion o Gymru a thu hwnt wedi cael eu henwebu.

Yn ôl y beirniad - Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Tudur Owen - roedd y gystadleuaeth yn un o safon uchel.

Y tri arall ar y rhestr fer oedd Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.

Disgrifiad,

Cyfweliad ag Alison Cairns o Fôn

Yn wreiddiol o Perthshire, mae Alison Cairns yn fam i saith o blant.

Fe ddechreuodd ddysgu'r iaith drwy wrando ar BBC Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch.

Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg ffurfiol. Erbyn hyn hyn mae hi'n byw ei bywyd yn y Gymraeg a dyna yw iaith y teulu.

Fel un sy'n gweithio yn y maes gofal, dywed Alison ei bod yn sylweddoli pa mor werthfawr yw defnyddio'r Gymraeg wrth ddelio gyda chleifion. Fe fydd yn priodi ei phartner, Siôn yn yr hydref.

Mae hi'n mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio ac mae hi'n gneifiwr profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd.

Mae Alison yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300, ac mae'r tri arall oedd yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un. Cyngor Tref Pwllheli wnaeth cyfrannu'r gwobrau ariannol.