Meleri Wyn James yn ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Meleri Wyn James: Ennill yn brofiad 'gwefreiddiol'

Meleri Wyn James o Aberystwyth yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Enillodd y fedal am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Porth'.

Daeth 16 o geisiadau i'r gystadleuaeth, ond roedd "gwahaniaeth mawr rhwng y goreuon a'r gwannaf" meddai'r beirniaid.

Daeth tri i'r brig, ond "nofel syml ond haenog" gan 'Fi a Ti' sy'n fuddugol, nofel "brydferth, dyner a gorffenedig".

Mae Meleri Wyn James yn awdur ac yn olygydd creadigol i wasg Y Lolfa, ac mae hi wedi cyhoeddi llyfrau ar gyfer plant ac oedolion, gan gynnwys y gyfres boblogaidd Na, Nel! i blant.

Mae hi wrth ei bodd yn darllen ac ysgrifennu ac yn mwynhau mynd i ysgolion, gwyliau ac eisteddfodau i ysgogi plant a phobl ifanc i ddarllen ac i ddefnyddio eu dychymyg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meleri Wyn James yn gweithio i wasg Y Lolfa

Cafodd ei geni a'i magu yn Llandeilo ac fe symudodd y teulu i Beulah ger Castellnewydd Emlyn ac yna i Aber-porth.

Fe raddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth ac astudio MA mewn Ysgrifennu Creadigol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Fe gyhoeddodd ei llyfr cyntaf, casgliad o straeon byrion o'r enw Mwydyn yn yr Afal, ar ôl ennill Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd yn Nhaf Elái yn 1991.

Yn y blynyddoedd diwethaf, cyhoeddodd y nofel Blaidd wrth y Drws i oedolion a Cors Caron, nofel i bobl ifanc.

Mae hi'n byw yn Aberystwyth ers dros 20 mlynedd gyda'i gŵr, Sion Ilar a'u merched, Mia Seren ac Esther Alys.

Disgrifiad o’r llun,

Meleri Wyn James yw awdur y gyfres boblogaidd i blant, Na, Nel!

Mae hi'n aelod o Glwb Athletau Aberystwyth, yn mwynhau marchogaeth ceffylau, ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn ffasiwn ac mae hi'n hoffi gwnïo dillad.

Fe ddechreuodd hi ysgrifennu'r nofel Hallt yn syth ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion gyda'r bwriad o geisio rhoi llais i blant a rhieni sydd yn byw gyda heriau a holl bleser llywio taith bywyd gydag anghenion ychwanegol.

Mae'n derbyn y fedal a gwobr ariannol o £750 er cof am Robyn a Gwenan Léwis, gan y teulu.

Y feirniadaeth

Y beirniaid oedd Menna Baines, Lleucu Roberts ac Ion Thomas.

Wrth draddodi o'r llwyfan, dywedodd Menna Baines iddynt "fwynhau rhywbeth yn y rhan fwya' o'r gweithiau ac mae'n dda gallu dweud bod safon y goreuon yn uchel".

Roedd tri wedi gwneud argraff, meddai, "'Porth' gan Merch y Wendon Hallt - gwaith "chwareus, a'i chynnwys, fel y sylwodd Ion, yn hollol Gymreig ac Eisteddfodol".

Yng nghasgliad straeon byrion 'Trothwy', mae Teithiwr yn dangos "cydymdeimlad dwfn â'i bobl", ac "yn sylwebydd cymdeithasol craff".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hallt yn "cydio o'r dechrau gan adeiladu at uchafbwynt dramatig" meddai Menna Baines

Ychwanegodd: "Mae un gwaith ar ôl, sef 'Hallt' gan Fi a Ti. Nofel am fam a'i merch 16 oed sydd ag anghenion arbennig.

"Y 'porth' fan hyn yw'r trothwy rhwng byd plentyn a byd oedolyn. Mae'r stori'n cael ei hadrodd gan Elen, y fam, a Cari, y ferch, bob yn ail.

"Wrth i Cari aeddfedu'n gorfforol a chyfarfod pobl newydd gan gynnwys bachgen, dilema Elen a'i gŵr yw faint o ryddid i'w ganiatáu iddi.

"Dyma stori sy'n cydio o'r dechrau gan adeiladu at uchafbwynt dramatig.

"Mae'r portread o Cari yn un hyfryd. Oes, mae 'na ryw letchwithdod cynhenid yn perthyn iddi sy'n gwneud cymdeithasu'n anodd, ond yn raddol down i weld heibio hynny at ei hanwyldeb a'i natur onest, agored.

"Weithiau, yn wir, mae ei gonestrwydd yn ein llorio. Fel pob person ifanc mae'n edrych i'r dyfodol ac fel pob rhiant mae'r rhaid i'w mam ddysgu gollwng gafael.

"Mae Merch y Wendon Hallt, Teithiwr a Fi a Ti yn awduron medrus iawn.

"Ond wrth drafod ac ail-drafod, y gwaith yr oedden ni'n dod yn ôl ato o hyd oedd nofel Fi a Ti - y nofel syml ond haenog yma am berthynas mam a merch ac am dderbyn pobl fel maen nhw.

"Nofel brydferth, dyner a gorffenedig. Nofel ddyrchafol hefyd. Fi a Ti sy'n cael y Fedal eleni."