Cyhoeddi panel i fonitro darpariaeth gofal ac iechyd Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Doctor a chlafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd panel cynghori newydd yn monitro a chraffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella darpariaeth gofal Cymraeg

Cryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol a cheisio gwneud yn siŵr fod siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf yw nod y cynllun Mwy na Geiriau.

Ddydd Gwener fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, gyhoeddi aelodau'r panel cynghori newydd fydd yn monitro a chraffu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth o ofal Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Elin Wyn fydd yn cadeirio'r bwrdd a'r nod, yn ôl Llywodraeth Cymru, yw "sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn unol â'r camau a nodir yn y cynllun pum mlynedd, Mwy na Geiriau".

Mae Ms Wyn yn aelod annibynnol o Gyngor Prifysgol Bangor ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn natblygiad ysgol feddygol newydd y gogledd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Gweinidog Iechyd y nod yw cael system lle mae cleifion yn "cael cynnig eu gofal yn Gymraeg yn rhagweithiol"

Yng Nghymru mae bron i 200,000 o staff yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal, sef y cyflogwr mwyaf yng Nghymru o bell ffordd.

Mae'r gallu i dderbyn gwasanaethau Cymraeg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad siaradwyr Cymraeg ac yn gallu, medd arbenigwyr, cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a'u lles.

Ond mae pryder fod pobl yn aml yn ei chael hi'n anodd cael mynediad i'r gwasanaethau a'u bod yn gyndyn i ofyn pan nad yw gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.

Pwy yw'r aelodau eraill?

  • Dr Alwena Morgan - uwch ddarlithydd Biofeddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe;

  • Dona Lewis - Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;

  • Dr Huw Dylan Owen - cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd;

  • Dr Olwen Williams - meddyg ymgynghorol a chadeirydd Academi'r Colegau Brenhinol yng Nghymru;

  • Dr Rajan Madhok - dysgwr Cymraeg brwdfrydig a chyfarwyddwr anweithredol ar fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Addysgu Prifysgol Cilgwri;

  • Rhys Davies - cyn-ddeintydd ac is-gadeirydd Pwyllgor Safonau Cyngor Ynys Môn;

  • Teresa Owen - cyfarwyddwr gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

'Angen gweithredu'n gynt'

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod yn dal i glywed straeon am bobl sydd yn cael anhawster mawr cael gwasanaethau gofal Cymraeg a gwasanaethau iechyd Cymraeg wrth ymweld â meddyg teulu neu ddeintydd.

Yn ôl Sian Howys maen nhw'n poeni bod y cynllun yn symud yn rhy araf.

"Mae oedi wedi bod cyn cyhoeddi aelodaeth y bwrdd cynghori. Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y cynllun gwreiddiol," meddai.

"Mae sôn ein bod ni ond ym mlwyddyn gynta' y pum mlynedd nesa o Mwy na Geiriau. Ond rydyn ni yn sôn am genhedlaeth newydd eto sydd yn colli cyfle.

"Mae gwir angen cynllunio gweithlu ac adnabod hawliau a sicrhau bod hyn yn fwy na geiriau mewn gwirionedd."

'Gwasanaethau Cymraeg yn hawl'

Yn yr Eisteddfod ddydd Gwener fe fydd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn cyhoeddi mai "nod cynllun y llywodraeth yw creu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol lle mae pobl yn cael cynnig eu gofal yn Gymraeg yn rhagweithiol".

Ac ar faes yr Eisteddfod mae pobl sydd yn gweithio yn y maes yn dweud fod y strategaeth yn bwysig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ffion Travis fod gofal trwy gyfrwng eu mamiaith yn gwneud cleifion yn fwy cyfforddus

Mae Ffion Travis yn gydlynydd gofal dementia yng Ngwynedd.

Dywedodd: "Mae gofal trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i bobl fel bod modd iddyn nhw gael siarad yn eu mamiaith nhw eu hunain ac iddyn nhw gael teimlo yn gyfforddus."

Un arall sy'n teimlo fod gwasanaethau drwy eich iaith gyntaf yn bwysig yw Kerry Owen, sydd yn gynghorydd dementia gyda Dementia Gogledd Cymru.

"Mae'n bwysig i bobl siarad a chyfathrebu yn eu hiaith gyntaf, ac mae hyn yn help i gael cefnogaeth, cyfarfod pobl newydd ac aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael cymorth yn eich mamiaith yn sicrhau annibyniaeth, medd Kerry Owen sy'n gynghorydd dementia

Ond er bod y ddwy'n cytuno fod y cynllun yn bwysig, maent yn pryderu ynglŷn â sut mae'n cael ei weithredu.

Dywedodd Ms Travis: "Mae yn dibynnu ar yr ardal. Rwy'n gweithio yng Ngwynedd ac yn ddwyieithog ac mae pobl yn licio siarad Cymraeg â fi.

"Ond dwi yn clywed storïau lle ma' pobol wedi symud i mewn i gartrefi preswyl a dydyn nhw ddim yn gallu siarad Cymraeg bob dydd. Mae'n anodd iawn i sicrhau bod y Gymraeg ar gael iddyn nhw bob dydd".

I Gemma Halliday, cyfarwyddwr cynorthwyol y Gymraeg gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, mae gwasanaethau Gymraeg yn hawl i bawb.

Dywedodd: "Mae hyn i gyd yn ymwneud â hawl, a hawl pobl i siarad Cymraeg. Nid rywbeth neis i gael yw hwn - mae yn hawl i bobl i gael darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."

Newid eisoes ar waith

Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd y Gweinidog Iechyd mai'r peth pwysig yw bod yna symud nawr "o eiriau i sicrhau bod pethe yn digwydd" a bod yna gynllun "clir o ran beth sydd angen ca'l ei 'neud".

Y gobaith yw y bydd y canllawiau ar gyfer aelodau'r panel yn arwain at sicrhau "diwylliant newydd ac arweinyddiaeth yn newid" o fewn y sector.

Mae amcanion a chyfrifoldeb personol eisoes wedi eu rhoi i gadeiryddion byrddau iechyd ac arweinwyr gwasanaethau cymdeithasol, ac mae cwrs gorfodol wedi ei gyflwyno i staff ers hydref diwethaf i godi ymwybyddiaeth ynghylch hawliau iaith.

"Mae'n rhaid i ni 'neud yn siŵr bod hyn yn digwydd ar draws Cymru, ac nid jyst mewn pocedi," meddai Ms Morgan, cyn ychwanegu bod pobl yn aml yn gyndyn o fynnu gwasanaeth Cymraeg ac mae angen felly i staff wneud "cynnig actif" i gleifion.

Ond fe fydd angen amser i newid y sefyllfa, gan fod sgiliau iaith yr oddeutu 100,000 yr un sy'n gweithio yn y sectorau iechyd a gofal yn amrywio gymaint.

Dywedodd bod y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i godi hyder staff yn eu Cymraeg "ac yn cyflwyno Cymraeg i fod yn gwrtais i bobl sydd ddim yn medru'r Gymraeg o gwbl".

Mae "miloedd" o aelodau staff eisoes "wedi cael y cyfle i fynd trwy'r cyrsiau yma", meddai, ond fe fydd aelodau arbenigol y panel cynghori newydd "yn cadw pwysau ar y byrddau iechyd ac arnon ni fel llywodraeth i 'neud yn siŵr bod ni yn neud mwy na geiriau".

Pynciau cysylltiedig