Ymestyn safonau'r Gymraeg i gyrff rheoleiddio iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi y bydd angen i gyrff rheoleiddio proffesiynau iechyd gydymffurfio â safonau'r iaith Gymraeg erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd hyn yn golygu y gall gweithwyr iechyd gofrestru â'r cyrff rheoleiddio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe fydd hefyd yn cynnig hawliau iddynt o ran achosion cyfreithiol, ac arwain at osod safonau gwasanaethau a gweithredu pellach.
Dyma'r tro cyntaf i Efa Gruffudd Jones osod safonau'r Gymraeg ar gyrff ers cychwyn yn ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg yn gynharach eleni.
Dywedodd Ms Jones: "Nod y Safonau yw sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru a bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hybu a'i hwyluso'n amlwg.
"Ym maes iechyd mae'n hollbwysig fod pobl yn cael cynnig derbyn gwasanaeth yn eu dewis iaith ac mae'r cam hyn heddiw o roi hysbysiad cydymffurfio i gyrff rheoleiddio'r proffesiynau iechyd yn ehangu'r hawliau i weithwyr y sector.
"Er mwyn i'r Gymraeg oroesi ac iddi fod yn iaith fyw y gellir ei defnyddio'n ddyddiol, mae angen iddi gael ei gweld yn amlwg ymhob maes gwaith o fewn ein cymunedau ac o fewn sectorau gwahanol."
Pa gyrff sydd dan sylw?
Y naw corff a fydd yn gorfod cydymffurfio â'r safonau o fis Rhagfyr 2023 yw:
Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol
Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Y Cyngor Optegol Cyffredinol
Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023