A ddylai bod tâl mynediad i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa Genedlaethol CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Cymru, fel gweddill y DU, ddim yn codi tâl mynediad i amgueddfeydd

Fe ddylai'r polisi mynediad am ddim i amgueddfeydd cenedlaethol Cymru gael ei ailystyried yn sgil pwysau ariannol, yn ôl cyn-weinidog treftadaeth.

Dywedodd Alun Ffred Jones y gall talu am fynediad wella cynnig Amgueddfa Cymru ac ehangu ei apêl.

Daw ei sylwadau ar ôl i adroddiad newydd rybuddio bod dirywiad yn ansawdd arlwy yr amgueddfa yn "anochel", oni bai bod modd cyflwyno mwy o hyblygrwydd i'r ffynonellau incwm.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n edrych ar ei argymhellion a datblygu cynllun gweithredu.

'Cydbwyso incwm yn well gyda chostau'

Un syniad sydd wedi ei gyflwyno gan un gyn-guradur amgueddfa yw y dylai ymwelwyr o du allan i Gymru dalu tâl mynediad.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith safle ac maen nhw'n cadw, cyflwyno a hyrwyddo diwylliant y wlad.

Dydy Cymru, fel gweddill y DU, ddim yn codi tâl mynediad i amgueddfeydd.

Cafodd y polisi hwnnw ei gyflwyno gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2002.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Castell Sain Ffagan yw un o'r adeiladau o dan ofal Amgueddfa Cymru

Fe sefydlwyd yr Adroddiad Teilwredig yn Awst 2022 a bu'n cael ei arwain gan David Allen, cyn-gadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Fe edrychodd ar berfformiad yr amgueddfa, ei threfniadau llywodraethu ac effeithiolrwydd ei gwasanaethau.

Un o'i gasgliadau oedd y dylai'r polisi mynediad am ddim barhau, ond bod angen "ystyried ymhellach" codi tâl am arddangosfeydd arbennig, er bod hynny'n digwydd eisoes.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, fe ddisgrifiodd Mr Allen Amgueddfa Cymru fel un o "brif drysorau" diwylliant y wlad, ond rhybuddiodd bod rhaid ehangu ei apêl i fwy o gymunedau a phobl.  

"Os nad ydy'r amgueddfa yn cydbwyso ei incwm yn well gyda chostau, yna mewn cwpl o flynyddoedd fe fyddan nhw'n wynebu anawsterau mawr o ran cynnal yr adeiladau a chadw'r staff i gyd," meddai.

Roedd Alun Ffred Jones yn weinidog treftadaeth Llywodraeth Cymru yn y glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur rhwng 2008 a 2011.

Disgrifiad o’r llun,

Efallai bod angen ystyried codi tâl ar rai pobl, medd Alun Ffred Jones

Fe bwysleisiodd ei fod yn gefnogol i'r polisi mynediad am ddim, ond dywedodd bod y sefyllfa ariannol yn edrych yn anodd i bob maes dros y blynyddoedd nesaf.

"Felly mae'n rhaid i chi feddwl yn radical a bod yn barod i wynebu rhai pethau sydd efallai ddim yn dderbyniol i'r rhan fwyaf o bobl, ond efallai fyddai'n rhoi cyfle i chi aildrefnu i gyrraedd mwy o bobl a gwneud i rai pobl dalu," meddai. 

"Mae hynny'n beth cyffredin iawn mewn llawer o orielau ac amgueddfeydd, a dwi'n meddwl bod rhaid o leiaf ystyried hynny fel ffordd o wella'r gwasanaeth a sicrhau fod o'n cyrraedd mwy o bobl yn holl ardaloedd Cymru."

Os ydy'r gwasanaeth yn dirywio, meddai, "dwi ddim yn gwybod pwy sydd ar eu hennill... a rhaid edrych ar ffyrdd eraill i godi pres".

Ffynhonnell y llun, Gareth Davies
Disgrifiad o’r llun,

Amgueddfa Lofaol Cymru yn Nhorfaen

Dywedodd Dr Dafydd Roberts, cyn-guradur yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis, bod ganddo "gydymdeimlad" gyda galwad Mr Jones.

Mae'n credu y dylai mynediad am ddim barhau i bobl o Gymru, ond y dylai ymwelwyr o'r tu allan dalu.

"Mi fysa'n rhaid cael ryw fath o gerdyn o ran gweithredu hyn, ond os fysa rhywun yn cyflwyno cerdyn cenedlaethol er enghraifft mi fysa 'na fodd wedyn i ychwanegu buddion a chyfleoedd eraill."

Ychwanegodd fod pobl yn barod i dalu am bethau eraill yng Ngwynedd, "fel y wifren wib uwchben chwarel y Penrhyn".

"Os ydyn nhw'n dod yma i wario pres felly pam na all yr Amgueddfa Lechi, er enghraifft, gynhyrchu rhywfaint o incwm hefyd?"

'Byddwn i'n barod i dalu'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dan Phillips y byddai ef yn hapus talu am fynediad i Big Pit

Roedd ymwelwyr i'r Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru, yn Nhorfaen yn dweud nad oedd ganddyn nhw deimladau cryf am y syniad o dâl mynediad.

"Fe fyddwn i yn barod i dalu," meddai Dan Phillips o Swydd Efrog oedd ar wyliau efo'i deulu.

"Ond mae'n wych ei fod am ddim oherwydd mae'n golygu bod gymaint mwy o bobl yn gallu ei ddefnyddio. Fe fydda i'n gwario arian yn y siop fodd bynnag."

Disgrifiad o’r llun,

Hefyd yn hapus talu oedd Emma, hynny er mwyn cyfrannu at gynnal a chadw'r safle

Dywedodd Emma o Ogledd Dyfnaint: "Ry'n ni wedi bod i lefydd lle bu'n rhaid talu, fel Rheilffordd Mynydd Brycheiniog, ac mae'n helpu i gynnal a chadw'r lle felly mi fyswn i'n hapus i dalu."

Yn y flwyddyn cyn y pandemig yn 2019-2020, fe wnaeth dros 1.8 miliwn o bobl ymweld â'r amgueddfeydd.

Ond yn y flwyddyn i fis Mawrth 2023, fe ostyngodd nifer yr ymwelwyr bron 28% i 1.3 miliwn.

Llywodraeth Cymru sy'n darparu rhan fwyaf o arian Amgueddfa Cymru, gyda 80% hynny yn dod drwy grant.

Dywedodd Dawn Bowden A.S., y dirprwy weinidog dros y celfyddydau a diwylliant: "Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion weithio drwy'r adroddiad terfynol gydag Amgueddfa Cymru, i edrych ar oblygiadau pob argymhelliad a datblygu cynllun gweithredu a llinell amser."