'Risg i drysorau Cymru heb £65m o waith cynnal a chadw'
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Amgueddfa Cymru bod angen gwaith cynnal a chadw gwerth £65m ar rai o'i safleoedd
Mae problemau strwythurol sylweddol o fewn adeiladau Amgueddfa Cymru yn creu "risg parhaol" i gasgliadau cenedlaethol, yn ôl y corff.
Mae gan Gymru saith amgueddfa genedlaethol, gyda chasgliadau o bob cwr o'r wlad a'r byd.
Mae rhai o'r adeiladau wedi'u rhestru fel rhai Gradd I, gan gynnwys yr Amgueddfa Genedlaethol a Chastell Sain Ffagan yng Nghaerdydd.
Ond dywedodd y corff bod asesiadau wedi dangos bod angen gwaith cynnal a chadw gwerth £65m ar rai o'i safleoedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynnal a chadw, a datblygu ystâd Amgueddfa Cymru yn flaenoriaeth.
'Angen buddsoddiad sylweddol'
Fe ysgrifennodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd at Amgueddfa Cymru yn gofyn a allen nhw roi sicrwydd nad oedd yna "unrhyw risg i gasgliadau cenedlaethol" o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth Cymru eleni.
Mewn ymateb, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Amgueddfa Cymru, Peter Holt: "Tra ein bod yn teimlo bod y setliad ar gyfer Amgueddfa Cymru yn dderbyniol dros y ddwy flynedd nesaf, mae'r rhagolygon tymor hir yn edrych yn fwy ansicr a heb os yn cyflwyno heriau."
Ychwanegodd: "Mae yna broblemau strwythurol sylweddol o fewn adeiladau Amgueddfa Cymru gan olygu bod yna risg parhaol i Gasgliadau Cenedlaethol."
O'r £65m sydd ei angen, mae tua £15m o eitemau yn cael eu disgrifio fel rhai "allweddol sydd angen eu hatgyweirio ar frys".

Castell Sain Ffagan yw un o'r adeiladau Gradd I o dan ofal Amgueddfa Cymru
Aeth y llythyr ymateb ymlaen i ddweud: "Mae asesiadau pellach o'r gwaith mecanyddol, trydanol a'r gwaith plymio sydd eu hangen ar isadeiledd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dangos bod angen buddsoddiad sylweddol yn y meysydd yma.
"Mae yna nifer o opsiynau sydd angen eu hystyried ar gyfer hyn, ond mae'r un rhataf o'r rhain yn dangos bod angen £25m yn ychwanegol dros y saith mlynedd nesaf."
Ychwanegodd: "I roi sicrwydd i'r casgliadau cenedlaethol, bydd Amgueddfa Cymru angen £90m yn ychwanegol o arian cyfalaf dros weddill y degawd hwn.
"Fe fyddai hyn yn golygu cynllunio manwl i alluogi'r amgueddfa i fuddsoddi yn bwrpasol dros nifer o flynyddoedd ac rydym yn ymwybodol y byddai'r cyllid yma yn dod gan ffynonellau gwahanol."
Gwarchod 'trysorau'
Am dros 30 mlynedd, yn ei swydd fel curadur, Gerallt Nash oedd yn gyfrifol am adeiladau Sain Ffagan yng Nghaerdydd.
Dywedodd: "Gydag unrhyw hen adeilad mae angen gwaith trwsio er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn sych.
"Os ydy'r adeilad yn sych mae gobaith bod y casgliadau sy'n cael eu cadw yn cael eu diogelu.
"Os nad ydyn ni'n gwarchod yr adeiladau dydyn ni ddim yn gwarchod ein casgliadau sef treftadaeth Cymru."

Dywedodd Gerallt Nash bod angen gwarchod yr adeiladau er mwyn diogelu'r casgliadau
Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Diwylliant Senedd Cymru, Delyth Jewell AS, bod y casgliadau yn "drysorau" i'r wlad.
"Maen nhw'n adrodd ein stori ni fel cenedl ac maen nhw mor bwysig i ni eu gwarantu ar gyfer ein dyfodol ni.
"Mae'n rhaid i'r llywodraeth i weithio ar y cyd gyda'r amgueddfa i fynd i'r afael â'r broblem yma."
Yn ôl Llywodraeth Cymru - sy'n ariannu'r corff - mae cynnal a chadw a datblygu ystâd Amgueddfa Cymru, yn enwedig ei hadeiladau hanesyddol, yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi cyfalaf.
Dywedodd llefarydd: "Er gwaethaf y setliad ariannol heriol yr ydym wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU, yn 2022/23 rydym wedi darparu £474,000 o gyllid cyfalaf sydd yn ychwanegol i'n Cyllid Cymorth, yn ogystal â £2.652m o refeniw, ac fe ddarparwyd £1.3m ohono i helpu gyda chost gynyddol cyfleustodau oherwydd chwyddiant.
"Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn cael rhagor o arian gan ymddiriedolaethau, sylfeini, rhoddion a nawdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022