Theatr y Sherman: 50 mlynedd o greu'r 'teimlad o deulu'

  • Cyhoeddwyd
Perfformwyr Love CardiffFfynhonnell y llun, Chris Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae sioe newydd 'Love Cardiff' yn ddathliad o'r ddinas

Wrth i un o theatrau Caerdydd nodi ei hanner can mlwyddiant, mae pobl o gymunedau gwahanol o fewn y brifddinas wedi'u gwahodd i gymryd rhan mewn sioe newydd.

Mae 'Love Cardiff' yn ddathliad o'r ddinas a'r straeon sydd wedi codi o'i chymunedau gwahanol dros yr hanner can mlynedd ddiwetha'.

Ymhlith y grwpiau sy'n cymryd rhan ac yn adrodd eu straeon mae cynrychiolwyr o'r gymuned fyddar, grŵp cymunedol ballroom sy'n cynnig lle diogel i'r gymuned LHDT, Cymdeithas Iddewig de Cymru a Chymdeithas Cwrdaidd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bethau sy'n clymu'r holl gymunedau gwahanol sy'n rhan o'r cynhyrchiad ynghyd, medd Ffion Denman

"Mae'r sioe yn sôn am sut mae'r enw Sherman wedi dod i'r adeilad," meddai Ffion Denman, sy'n gynorthwyydd ymgysylltu creadigol yn y theatr.

"Mae hwnna'n dod o'r brodyr Sherman, a syniad y sioe yw dod â nhw'n ôl unwaith eto am un noson yn unig, i weld be' mae eu harian nhw wedi 'neud i ddod â chymunedau Caerdydd gyda'i gilydd.

"Achos 'naethon nhw farw cyn eu bod nhw wedi gallu gweld beth oedd wedi cael ei adeiladu yma."

Disgrifiad o’r llun,

"Dyma'r tro cynta' yn ein hanes fel pobl Cwrdaidd ry'n ni'n cael rhannu ein stori ar lwyfan," meddai Salah Rasood

Un sy'n gwerthfawrogi'r cyfle i gymryd rhan yw Salah Rasood, o'r gymuned Cwrdaidd.

"Dyma'r tro cynta' yn ein hanes fel pobl Cwrdaidd ry'n ni'n cael rhannu ein stori ar lwyfan," meddai.

"Ry'n ni wedi dod yma i Gaerdydd am resymau gwahanol - yn bennaf yn hawlio lloches oherwydd ein bod wedi cael ein herlid.

"Dydyn ni ddim yn gallu siarad ein hieithoedd yn rhai rhannau o Cwrdistan, felly mae ceisio rhannu ein profiadau yma i'r gynulleidfa Gymreig yn gyfle arbennig i ni."

Ffynhonnell y llun, Chris Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Love Cardiff : 50 Years Of Stories' yn Theatr y Sherman ddydd Sadwrn

Er bod gan yr holl gymunedau gwahanol sy'n rhan o'r cynhyrchiad brofiadau amrywiol, mae 'na bethau sy'n eu clymu ynghyd, yn ôl Ffion Denman.

"Fi'n credu yr elfen sy'n rhedeg trwy'r sioe i gyd yw'r teimlad o ffeindio teulu tu fas i'r teulu gwaed.

"Ffeindio teulu mewn cymuned, ffeindio cefnogaeth mewn cymuned a ffrindiau, a sut mae'r gymuned yn gallu cefnogi chi fel buasai mam neu dad yn gallu.

"Mae pob cymuned yn hollol wahanol, a'r sgiliau maen nhw'n dangos ar y llwyfan, ond beth sy'n rhedeg trwy nhw i gyd yw'r teimlad 'ma o deulu."

Mae 'Love Cardiff : 50 Years Of Stories' yn Theatr y Sherman ddydd Sadwrn, 19 Awst.