Gwrthdrawiad: Un fenyw wedi marw
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5 yn ardal Glyndyfrdwy, rhwng Llangollen a Chorwen
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod un o ddau berson gafodd anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ar 12 Awst wedi marw.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5 ger Glyndyfrdwy - rhwng Llangollen a Chorwen - am tua 20:47 nos Sadwrn.
Cafodd dau berson eu cludo i'r ysbyty, a bu'n rhaid i un ohonynt gael ei dorri o'r cerbyd gan y gwasanaeth tân ac achub.
Ddydd Gwener, dywedodd yr heddlu fod menyw oedd yn teithio yn y car Audi A8 du wedi marw.
Dyna oedd yr unig gerbyd oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Mae swyddogion o'r Uned Blismona Ffyrdd yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad, ac yn awyddus i glywed gan unrhyw oedd a welodd y car Audi, a dau gar BMW glas y credir iddyn nhw fod yn yr ardal ar y pryd.
Roedd y cerbydau i gyd yn teithio i gyfeiriad Corwen.
Gall pobl gysylltu gyda'r heddlu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 23000745599.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2023