Dyn yn ei 80au wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Bromenâd y Gorllewin, Llandrillo-yn-Rhos, yn oriau mân bore Sadwrn
Mae dyn yn ei 80au wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn Sir Conwy yn oriau mân bore Sadwrn.
Fe gafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i Bromenâd y Gorllewin yn Llandrillo-yn-Rhos toc ar ôl 03:30.
Dywedodd y llu fod car Mercedes wedi taro wal gerrig. Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r dyn gan apelio am wybodaeth.